Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddisgyn

ddisgyn

Cafodd y fath fraw fel i'w dannedd gosod ddisgyn ar y llawr!

Am hynny, ystyria y pethau hyn, fel na chredech dy fod yn well na'r un o'th gyd-ddynion, rhag it wrth feddwl, ddisgyn o'th falchder ar frys, a chael dy frifo mwy wrth ystyried fod gwraig dlawd yn gwenu ar sebon bob dydd gan gofio'r sbort a roddaist iddi.

Gwerth y mark Almaenig yn parhau i ddisgyn.

Ar ol gadael twnel mawr pedair milltir Alvra neu Albula, mae'r trenau prysur, prydlon yn mynd trwy saith twnel sylweddol arall wrth ddisgyn dros fil o droedfeddi i Bravuogn, gan droi o'u hamgylch eu hunain bum gwaith, y rhan amlaf y tu fewn i'r graig.

Rhwygodd sŵn eu sgrechiadau drwy'r bryniau wrth iddyn nhw ddisgyn mewn pelenni o dân i'r ddaear.

Cafodd Dickerson ddau gyfle arall yn yr hanner cynta ond methodd fanteisio arnyn nhw ac er i'r cyfleon gorau ddisgyn i ran Llanelli wedi'r ail-ddechrau, Leo Fortune West sgoriodd yr unig gôl gan roi'r pwyntiau i Gaerdydd ond y clod i Lanelli.

Mi wnes i ddigon o sŵn wrth ddisgyn.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Cyfareddir dyn wrth wylio'r cerbydau coch neu wyrdd tywyll yn mynd i mewn ac allan o'r twneli, gan esgyn neu ddisgyn o lefel i lefel, ac o bont i bont, uwchben hafn gul Afon Alvra.

Yn Llangadog bu farw pedwar wedi i drên ddisgyn oddi ar bont a oedd wedi ei hysgubo i ffwrdd gan lifogydd.

Bydd yn teimlo pryder yn yr Hydref rhag ofn bod ei dail wrth ddisgyn yn peri blinder i'r teulku drws nesaf neu'n myfyrio ar faint o arian a gâi pe torrai hi i lawr a'i gwerthu fel coed i'r saer.

Pan wêl y bleiddiaid eraill eu harweinydd yn farw fe giliant allan o'th golwg ond gwyddost eu bod yn dal yno yn disgwyl i ti ddisgyn o'r goeden.

Y dewis cyntaf fyddai casglu dail derw a ffawydd ar ôl idddynt ddisgyn, eu storio am ddwy neu dair blynedd ac yna eu gogrwn (rhidyllu) trwy ogr (rhidyll) gyda thyllau chwarter modfedd, a byddai yn barod i'w ddefnyddio.

Neidiodd Ernest, gan ddisgyn yn daclus i'r man lle dylasai, ac yn y funud yr oedd ei gydymaith wedi gwneud yr un peth, a disgynnodd y ddau o'u cyfrwyau i helpu Harri, druan, a oedd wedi ei syfrdanu, ac yn gweld pob man yn troi o'i gwmpas.

Oddi yma gallant ddisgyn i'r lefel wreiddiol drwy ollwng goleuni.

Roedd yn rhaid i'r cyfeillion ddisgyn oddi ar eu meirch, swatio yn erbyn y graig, a chuddio'u clustiau rhag y sŵn.

Bydd yr atomau Nd yn gollwng goleuni laser drwy ddisgyn i lefel egni ychydig uwchlaw'r gwreiddiol, yna'n disgyn ar unwaith i'r lefel wreiddiol heb ollwng goleuni.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Roedd gwenwyn yn y siocled 'na, ond trwy ryw lwc fe ddiferodd o'th geg wrth i ti ddisgyn, neu fe fyddai ar ben arnat erbyn hyn.

Gan roi'r lori mewn gêr is dechreuodd ddisgyn lawr y rhiw serth tua'r dref.

Credir i'r eira, a fu'n gyfrifol am ffurfio capan mor enfawr, ddisgyn o gymylau o fewn atmosffer llawer gwlypach a thewach ei naws na'r atmosffer presennol a chesglir mai'r ffynhonnell fwyaf tebygol a allai gynhyrchu anwedd-dyfrllyd o'r fath ac i'r un graddau fyddai cefnfor anferth.

Fe allen nhw ddisgyn yn ôl i'r drydedd.

Ac ar gefn y trên yr oedd llwyfan yr arferai'r mul ddisgyn arno ar hyd ochr arall y bryn.

Ofnaf i'w eiriau a'i gerydd ddisgyn ar glustiau byddar.