Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddisodli

ddisodli

Un o ganlyniadau'r Diwygiad Efengylaidd oedd cynysgaeddu Cymru â dosbarth newydd o arweinwyr i ddisodli'r hen bersoniaid a'r sgweiriaid, sef, y gweinidogion, y pregethwyr, y blaenoriaid a'r personiaid llengar.

Mussolini yn cael ei ddisodli a'r Eidal yn newid ochr ac yn troi yn erbyn Yr Almaen.

Heblaw ei feirniadaeth gymdeithasol grafog, yr oedd ei ddadansoddiad o wendidau'r Bardd Newydd ac o natur arddulliol y beirdd rhamantaidd a ddaeth i ddisodli hwnnw yn dangos chwaeth datblygedig a chlust fain odiaeth.

Llwyddodd i oresgyn dwsinau o ymdrechion i'w ddisodli.

Cafodd Meet For Lunch ei ddisodli gan y rhaglen ddyddiol newydd Wales at One, a gyflwynir gan Phil Parry, cyn-gyflwynydd Week In Week Out.

Honnodd fod diwydianwyr ledled y byd, gyda chymorth yr economegydd Milton Friedman, wedi addo buddsoddi gwerth ugain biliwn o ddoleri yng Nghuba y diwrnod y caiff Fidel ei ddisodli.

Daeth yr iypi i ddisodli'r comisâr.

Ciliodd o'r caeau a'r meysydd pan drodd amaethyddiaeth at beiriannau; cafodd ei ddisodli oddi ar y ffyrdd gan y modur; a diflannodd oddi ar bonciau'r chwareli pan ddaeth y 'loco' i gymryd ei le.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

(Er mai barddoniaeth yw prif bwnc y papur, nid amhriodol fydd tynnu sylw at rai gweithiau rhyddiaeth hefyd, pan fo'r rheini yn dangos syniadau tebyg i'r rhai a geir yng ngweithiau'r beridd.) Cafodd beirdd y genhedlaeth honno eu haddysgu cyn i syniadau modern ynghylch addysg ddisodli'r clasuron o'u lle blaenllaw yn y rhan fwyaf o ysgolion y wlad.

Daeth yn ffrind gwleidyddol i Saul Ubaldini, un o arweinwyr pwysica'r undebau llafur, a Mohammed Seinaldin, uchel swyddog yn y fyddin a oedd yn gyfrifol am un o'r ymdrechion milwrol i ddisodli Raul Alfonsin.

Fe fyddai eraill yn ceisio annog y Cwrdiaid i drefnu rhyw fath o gyfundrefn lywodraethol ymysg ei gilydd, fel y gallent yn y pen draw ddisodli'r byddinoedd rhyngwladol.

Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol.

Yn gyntaf, rhaid creu cynghorau bro i ddisodli'r rhai presennol yn yr ynys gyfan.