Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiwallu

ddiwallu

O ran adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg, gan na ellir ar y cyfan ddiwallu'r angen cyson amdanynt yn fasnachol, dylid parhau i ystyried y galw a chydweithio er mwyn ei ddiwallu.

Y nod yw cynnig system effeithiol o gynhyrchu adnoddau Cymraeg i ddiwallu anghenion y system addysg yng Nghymru.

Gallai'r person a apwyntir roi ei holl egni i ddiwallu anghenion cymdeithasol ieuenctid a chydlynu rhwng y gwahanol fudiadau a chymdeithasau sydd eisoes yn darparu ar eu cyfer.

Ond mae pobl Cuba yn ddigon call i sylweddoli hefyd na all unrhyw system wleidyddol ddiwallu pob angen.

fel gwinllan faeth' yn berson a allai ddiwallu anghenion gwlad ynghyd â chyfannu'r wlad honno â'i haelfrydigrwydd.

Troes o'r bar ar ôl yr ymdrech dila honno i ddiwallu syched ei chymydog a chanfod un o griw bychan a safai yn ei hymyl yn codi'i lygaid mewn cyfarchiad wrth ei gweld.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.

Gynt roedd awydd plant ac oedolion am gael profi blas byd natur, hud a lledrith a'r goruwchnaturiol yn cael ei ddiwallu helaeth drwy wrando ar chwedl; gwerin, megis chwedlau arwrol a chwedlau'r Tylwyth Teg.

Darllen amdano yn y wasg oedd yr wybodaeth gyntaf a gafodd teuluoedd y Cwm am benderfyniad Dinas Lerpwl i foddi eu cartrefi a'u capel er mwyn creu cronfa enfawr o ddŵr i ddiwallu galw diwydiant Lerpwl, glannau Merswy a rhannau o Gaer am fwy o ddŵr.

I ddangos anallu'r eglwys i ddiwallu anghenion ysbrydol y bobl fe godwyd capeli heb fod ymhell, ac y mae cofnodion y rheiny, er yn brin, yn profi mor rymus fu'r profiadau.