Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiwygio

ddiwygio

Credant hwy fod yr ymdrech a wnaeth i ddiwygio'r drefn ar fin methu'n llwyr oherwydd ei fod ef yn rhy gaeth i'r hen sustem gomiwnyddol.

A pham y mae llywodraeth Llundain yn rhoi'r fath bwys ar ddiwygio dysgu Saesneg?

Ef a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith o ddiwygio iaith y Beibl Cymraeg cyn cyhoeddi argraffiad 1620 ohono yn dilyn cyfieithiad cyntaf Morgan.

Y drefn ym Mhrydain yw ceisio rhyw le canol rhwng y ddau safbwynt - cyfuno'r awydd naturiol i gosbi a dial a'r duedd llai greddfol i ddiwygio.

Pa hawl foesol oedd ganddo i ddiwygio treftadaeth y tadau a newid adeiladwaith bro?

Y mae'r dehongliad offeiriadol yn dangos Duw yn dod i gyfarfod â dyn, ac nid yn unig yn disgwyl am i ddyn ei ddiwygio ei hun.

Rwyn falch iawn o'r cyfle hwn i anfon gair o gefnogaeth i ymgyrch y Gymdeithas i ddiwygio'r Ddeddf Iaith.

Llwyddodd hefyd i ddiwygio cryn lawer ar wasanaethau crefyddol yr eglwysi a oedd dan ei ofal.

Dealltwriaeth y Gymdeithas yw fod bwriad pendant i ddiwygio hyn.

Fersiwn diwygiedig ydyw o Feibl Mathew, ei Hen Destament wedi ei ddiwygio yn ôl fersiwn Mu%nster, a'i Destament Newydd yn ôl fersiwn Erasmus.

Y gri i ddiwygio'r Eisteddfod yn uchel drwy'r cyfnod ( gan gyfateb i'r gri i ddiwygio Cymru ei hun ), nes cyrraedd uchafbwynt yn Eisteddfod Machynlleth pan unwyd y ddwy elfen elyniaethus, Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd, yn swyddogol, a ffurfio corff newydd, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a gosod yr Eisteddfod ar seiliau cadarnach ar gyfer y dyfodol.

Hawliodd y Gymdeithas fuddugoliaeth yn ei hymgyrch o blaid Deddf Eiddo ym mis Rhagfyr pan gyhoeddodd y Swyddfa Gymreig ddrafft o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) ar `Yr Iaith Gymraeg -Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio'. Drafftiwyd y canllawiau newydd yn sgil pwysau oddi wrth y Gymdeithas a nifer o awdurdodau cynllunio lleol am ddiwygio'r canllawiau cyfredol a gyhoeddwyd fel `Cylchlythyr 53/88' ym 1988.

Galwn ar y Llywodraeth a'r Gwrthbleidiau i ddiwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a gosod seiliau cyfreithiol cadarn iddi, ynghyd â gweithredu strategaethau ymarferol a phellgyrhaeddol.

Cyfeiriad at fudiad yn y Senedd i ddiwygio'r Eglwys Sefydledig oedd hyn.

Pe gellid dangos bod y disgyblion hyn yn fwy brwdfrydig ynghylch dysgu iaith o ganlyniad i newid dulliau, yna byddai'r achos dros ddiwygio gymaint â hynny'n gryfach.