Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddolen

ddolen

Ar y llaw arall, gallai ddadlau na ddylai Undodwr gwerth ei halen fod hebddo, nid yn unig oherwydd ei waith personol, ond am ei fod yn ddolen gydiol rhwng aelodau gwasgaredig a llinyn bywyd y mudiad.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Mae'n bosibl mai'r ddolen gyswllt mwyaf gwerthfawr a diddorol rhyngom â'r gorffennol yw'r Llyfr Bedyddiadau.

Efallai mai rhyw flas gwrthgyferbyniol, tebyg i hwnnw sy'n ddolen gysylltiol rhwng melys a chwerw neu rwng gwir a gau, sy'n eu clymu ynghyd a'u dwyn yn unsang o flaen llygad fy meddwl.

Bu'r Ymofynnydd erioed yn ddolen rhwng yr aelodau a'i gilydd ac yn bont rhyngddynt a'r byd, a sicrhaodd Jacob fod y swyddogaeth bwysig yma yn cael ei chyflawni yn ystod ei olygyddiaeth ef, gan ei wneud yn gyfrwng mwy effeithiol nag a fu erioed.

Ie, mor anghyfferdd y cysuron prin, ac mor dila'r ddolen a rwymodd greadur yma dros dro.

Gwyddent taw Jonathan oedd yr unig ddolen gyswllt rhyngddyn nhw a'r byd ar ei newydd wedd a gwyddent hefyd fod y cyfarfod rhyngddo ef a Mathew yn mynd i fod yn un allweddol i gael gafael ar ben-llinyn yr holl ddryswch.

Y Ddolen yw enw'r papur bro sy'n wmpasu Trefenter, Blaenplwyf, Llangwyryfon, Llanilar, Cwmystwyth a sawl ardal arall.

Y mae hon yn ddolen gyswllt ag athrawon gwyddoniaeth eraill ac y mae'n darparu gwybodaeth am ddatblygiadau diweddar mewn addysg wyddonol.

Ni amgyffredid pa mor gyflym yr oedd tymheredd gwleidyddol Llanelli a'r cylch yn codi, nac i ba raddau yr oedd Llanelli'n ddolen wan yn y llinell gledr rhwng Llundain, Caerdydd, Abergwaun ac Iwerddon.

Etifeddodd y ddau fab y cafodd hi eu magu i oedran gwŷr, Dafydd a Daniel, rannau gwahanol o'i chynhysgaeth, y naill yn datblygu'n adroddwr storiau yn null yr hen gyfarwyddiaid, a'r llall yn datblygu'n nofelydd, ac y mae'n rhyfedd, er nad efalli'n gwbl annisgwl, ei bod hi'n fath o ddolen gyswllt rhwng yr anterliwd neu'r ddrama Gymraeg, ym mherson Twm o'r Nant, a'r nofel Gymraeg ym mherson ei mab Daniel, oblegid y mae gwreiddiau mwy nag un elfen yn y nofel i'w holrhain yn ôl i'r ddrama.

Sori, dyw'r cyfeiriad neu ddolen a ddaeth â chi yma ddim yn gywir.

Yr oedd John Edward Lloyd yn Rhydychen pan aeth Owen Edwards yno gyntaf, yn ddolen gydiol rhyngom ni a'r to o'r blaen; a tho pur hynod oedd hwnnw, yn cynnwys RE Morris, a John Owen, a Robert Parry ac Edmund Wynne Parry, a WS Jones a TF Roberts.

A chan ei bod yn oes o gymaint busnes a chynifer pethau, brinned ac mor lledrithiol yw ein hatgof wedyn am bobl fel, pan glywn ba ddydd fod Hwn a hwn wedi mynd, y cwbl a olyga inni yw fod rhyw ddolen gydiol hwylus â rhyw un o'n perwylion wedi peidio â bod, ac ar unwaith gofynnwn:

Mae cofnod yn y DDolen am blant ysgol Ponterwyd wedi bod am drip yn Harlech gan fwynhau tocyn ar y lawntiau yn y Castell.