Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddominyddol

ddominyddol

Mae'r hegemoni sy'n gweithio drwy'r gymdeithas yn gweithredu tuag at y nod o integreiddio'r holl gymdeithas i mewn i'r drefn ddominyddol - er enghraifft, mae'r system addysg yn gyfrwng tra effeithiol o gyflwyno'r diwylliant dominyddol, a gwneir hyn trwy ddewis a dethol yr wybodaeth sy'n 'berthnasol', 'gwerthfawr', etc., (er nad yw hon yn broses fwriadus ac ymwybodol, fel y nododd Gramsci) - ond mae rhannau o'r gymdeithas nad ydynt yn cael eu hintegreiddio'n llwyr.

Mewn democratiaeth, caiff y rhain eu cynnwys gan y diddordebau dominyddol cyn belled ^a'u bod yn cadw o fewn ffiniau derbyniol, ac nad ydynt yn creu bygythiad i'r drefn ddominyddol.

Cynhyrchir agweddau, gwerthoedd ac arferion o fewn yr uwch-ffurfiant, ond er fod yr ideoleg hegemonaidd yn gweithredu i integreiddio pawb i mewn i'r system ddominyddol o werthoedd, gan gynhyrchu synnwyr cyffredin sy'n treiddio drwy'r system, eto saif rhai y tu allan i'w dylanwad.

Y cam nesaf yn yr ymyrraeth yw côd switsio sef newid talpiau o'r iaith, neu'r iaith yn gyfan gwbl, i'r iaith ddominyddol.

O safbwynt iaith leiafrifol fel y Gymraeg sydd wedi bod heb statws mewn cynifer o feysydd allweddol am gymaint o flynyddoedd, y mae colli hyder yn safon a pherthnasoldeb yr iaith a siaredir yn gallu esgor ar shifft araf tuag at ddefnydd helaethach o'r iaith ddominyddol mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Rhan gyntaf y broses yw'r hyn a elwir yn 'côd fenthyg', sef benthyca geiriau, termau ac ystrydebau o'r iaith ddominyddol i'r iaith frodorol (sef arfer sydd wedi cael ei gondemnio'n chwyrn gan 'buryddion iaith' yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chyflwynwyr ifainc ar y radio a'r teledu yn arbennig yn dod o dan y lach!).