Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddosbarth

ddosbarth

iaith ffurfiol mewn sefyllfa ddosbarth ond iaith fwy anffurfiol gyda grwpiau ac unigolion, - cyfrwng swyddogol y dosbarth yn ystod y cyfnodau athro-ganolog ond mamiaith y disgybl neu gynnal/datblygu'r ail-iaith yn ol anghenion yr unigolyn yn y sefyllfa plentyn-ganolog.ii) Ceisiwch osgoi gorlwytho'r drorau uchaf.

Yr oedd y stori%au a anfonodd hi i'r gystadleuaeth ar waelod yr ail ddosbarth.

(i) cywair mwy ffurfiol a safonol mewn sefyllfa ddosbarth cyfan ond mwy anffurfiol gyda grwp, a mwy personol fyth gydag unigolion neu (ii) ystwytho a defnyddio cywair mwy anffurfiol a llai safonol gyda grwpiau a oedd yn cynnwys dysgwyr neu gydag unigolion o ddysgwyr.

O'r herwydd mae lle i adran, - os teimla'r aelodau fod adfyfyrio, treialu dulliau gwahanol, ymchwil ddosbarth ganolog a thrafodaethau, wedi arwain at ddulliau neu syniadau gwerthfawr,- eu mabwysiadu fel rhan o'u polisiau adrannol.

(ii) Ieithyddiaeth Ddisgrifiadol, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a disgrifio'n syncronig, hynny yw, mewn cyfnod arbennig neu, nodweddion ieithoedd unigol, gan gynnwys iaith ardal (tafodiaith) neu ddosbarth arbennig neu hyd yn oed iaith unigolyn (idiolect); (iii) Ieithyddiaeth Gymharol, yn cynnwys cymharu dau gyfnod yn hanes un iaith neu'r berthynas rhwn nifer o ieithoedd; astudiaeth hanesyddol, ddeiacronig y gelwir y math hwn o waith ieithyddol; (iv) Ieithyddiaeth Gymwysedig.

Wedi cael f'enw a'r manylion eraill gan Mam, dywedodd "Bore da, Mrs Ifans," yna arweiniodd fi i mewn trwy'r ysgol fawr, ac i ystafell ddosbarth yn y pen draw.

Gwneir i'r cymeriadau ymddwyn a siarad fel petaent yn perthyn i ddosbarth breiniol.

Roedd honno'n un o'i dasgau rheolaidd, yn un y bu'n ei gwneud ers tri mis, byth er iddi gael ei ffordd a mynd i ddau ddosbarth yr wythnos.

Bydd hyn yn golygu na fydd y dosbarth derbyn yn llai na 30 o ddisgyblion ac yn gorfodi i ddau ddosbarth uno'n un gan ddadwneud yr hyn oedd amcanion arian y Cynulliad.

Dechreuodd yr þyl i mi gydag Arwel Gruffydd yn Hwyl Byw yn darlithio ar Theophilus Evans i ddosbarth o bobl yn eu harddegau.

Astudiaethau ymestynnol yn trafod theori a'i chymhwyso i'r ystafell ddosbarth.

Wrth i ni basio drwy'r ysgol fawr i'r ystafell ddosbarth, gwelwn John Jones yn sefyll ar ganol y llawr a'i ddwylo ar ei ben.

Weithiau, bydd stori%au disgwyliadwy yn cynnwys elfen o'r annisgwyl sy'n eu rhoi yn yr ail ddosbarth.

Y tu allan i'r wasg swyddogol y mae son byth a hefyd am hollt rhwng dau ddosbarth yn Iwerddon newydd.

Nid syniad newydd yw fod y weinidogaeth Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf wedi ymffurfio'n ddosbarth o arweinwyr cymdeithasol: rhyw aristocratiaeth newydd yr oedd y werin yn tynnu'i chap iddi.

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Y canlyniad oedd i aelodau ei ddosbarth ddod yn ymwybodol eu bod yn perthyn i draddodiad cyfoethog.

Ni ddylid dibrisio gwerth darllen yn yr ystafell ddosbarth trwy fynnu darllen gyda neu dros ddisgyblion yr hyn sydd ar gael iddynt mewn print.

Yn ogystal â dimensiwn y dderbynfa, a dimensiwn y swyddfa, lle mae disgwyl i bersonau ymateb i aelodau o'r cyhoedd yn eu dewis iaith, y mae angen cydnabod fod yn y sector cyhoeddus ddimensiwn y stafell ddosbarth, lle disgwylir ymateb personol gan bersonau sy'n gweithio wyneb-yn-wyneb â'i gilydd gan ymateb yn barhaus i ddewis iaith ei gilydd.

Yr anghenraid i gynllunio cwrs, beth bynnag yw'r cyfrwng - boed teledu neu ystafell ddosbarth - yw cynllunio'r camre.

Ar y lefel hon fe ddathla'r broses lle cymer y dosbarth canol Cymreig newydd feddiant ar freintiau a swyddogaethau'r hen ddosbarth bonheddig.

Ond rhywsut, collais ef - neu mi es ar ol gap coch o ddosbarth arall.

I'r pwrpas hwn byddir yn crynhoi elfennau o'r ymchwil gwreiddiol, ei berthnasu i'r sefyllfa ddosbarth trwy gyfrwng y tasgau a awgrymir, a'i gyflwyno'n dameidiau man haws eu treulio, gydag awgrymiadau am drafodaethau a thasgau ymchwiliol yn y dosbarth yn dod rhyngddynt.

Yr oedd ei wraig, hithau, yn perthyn i ddosbarth y boneddigion ac yn olrhain ei hach i lwyth enwog Ednowain Benedw.

O'r pedwar ban ac ar eingion amser y lluniwyd inni wreiddiau i brofi sut y meithrinwyd brogarwch, capelgarwch, ysgolgarwch a thylwythgarwch, a dysgu drwy brofiad sut y gwnaeth gwaed a gwead greu un gymdeithas ddi- ddosbarth er bod rhaniadau emosiynol ynddi, megis rhwng capel ac eglwys, llawr gwlad a'r mynydd.

O ganlyniad yr oeddent yn ddosbarth sylweddol a dylanwadol ym mywyd y Coleg.

Byddai yntau hefyd yn cyflwyno un o'i luniau o ddatrannau'r corff (dissect) i bob aelod o'i ddosbarth.

(ii) Ymdrin â phob cais cynllunio unigol sydd yn effeithio ar yr holl Ddosbarth, neu ran eang o'r Dosbarth, neu sydd mewn unrhyw agwedd arall mor anghyffredin nes eu bod yn haeddu sylw'r Cyngor.

Gellid meddwl am yr unedau a fydd yn rhan o'r Pecyn fel cyfres o gylchoedd tebyg yn dilyn y patrwm canlynol: Adfyfyrio ar ddulliau dysgu presennol Addasu polisi'r Defnyddio'r pecyn fel cyflwyniad adran i ymchwil ac arfer dda Trafodaethau Treialu/ Ymchwil adrannol pellach ddosbarth-ganolog

Trwy sbectol oedolion a sbectol y ddosbarth broffesiynol, mae gan bob teulu o leiaf ddau gar, ac nid yw'n achosi unrhyw broblem i ddilyn bywyd symudol.

Rhennir y trychfilod parasitig i ddau ddosbarth.

Bydd yr unedau'n cyflwyno'r arferion dysgu da a welwyd ar waith yn ystod cyfnodau o arsylwi yn yr ystafell ddosbarth ac yn adeiladu ar y dadansoddi a ddigwyddodd fel rhan o ymchwil a oedd yn cyd-redeg a'r gwaith.

Roger Hughes a Dewi Aeron yn yr ail ddosbarth.

Arweinir ni i amau a yw'r nofelydd o ddifri am ­ Harri fod yn offeryn propaganda o blaid y gymdeithas ddi-ddosbarth.

Gwyddwn fod yr amser yn nesau i mi symud i ddosbarth Modryb Lisi ym mhen pella'r festri, a dyna'r unig dro nad oeddwn am dyfu i fyny.

Cyfraniad pwysig oedd hwn o gofio mai golygydd oedd i bapur yr henoed a chylchgrawn yr Undodiaid, dau ddosbarth o bobl a dueddai 'gael eu damsgen dan draed', chwedl ef.

Canlyniad hyn fu cyfodi o blith y gwŷr rhyddion Cymreig, nad oedd ganddynt at ei gilydd ond ychydig aceri ar eu helw er gwaethaf eu hachau urddasol, ddosbarth o ysgwieriaid llawer mwy cefnog, a elwir yn aml yn uchelwyr.

Iddi hi yr oeddwn yn barod i fynd i ddosbarth uwch na'r dosbarth derbyn.

Nid yw'n rhyfedd felly iddo yn ystod ei gyfnod yn Ebeneser fod yn athro ymroddgar ar ddosbarth o'r plant hyn.

Awgrymir yma ymchwil ddosbarth ar raddfa fechan trwy dreialu agweddau ar y broses ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth cyn dod yn ol fel adran i arfarnu ac addasu'r hyn a dreialwyd.

Gall ddosbarth drwy'r byd.

Ar y cyfan, maent yn parhau'n Saeson, ond yn amlach na pheidio y mae eu plant hwy yn datblygu'n ddosbarth arall o Gymry, yn siaradwyr Cymraeg cenhedlaeth gyntaf.

Roedd gan fy nhad ddosbarth o blant hþn.

Roedd tuedd yn y ddau achos i ailddweud llawer yn y sefyllfa ddosbarth cyfan gan symleiddio cystrawen a thraddodi'n fwy uniongyrchol yr eildro er mwyn sicrhau dealltwriaeth.

Yng ngogledd Cymru, honnai fod athrawon yn perthyn i ddosbarth isaf cymdeithas; gwnâi unrhyw un a allai ysgrifennu, darllen a rhifo y tro.

Syrth mewn cariad ag ysgolfeistr o Almaenwr, ond gwrthyd ei briodi, 'gan ddewis yn hytrach ddioddef.' Yn nrama Lewis nid cenedl yw'r gwahanfur rhwng y ddau gariad ond amrywiad diddorol ar ddosbarth cymdeithasol.

* gynnal sesiynau adborth cyson yng nghanol ac ar ddiwedd gwersi a fyddo'n rhoi cyfle iddynt: -ddarganfod pa syniadau a chysyniadau sydd yn anodd i'r disgyblion eu meistroli ac sydd angen sylw pellach, -ddarganfod pa unigolion sydd angen cynhaliaeth a chymorth ychwanegol (a hynny mewn amgylchiadau caredicach i'r disgybl na sefyllfa athro-ganolog, ddosbarth cyfan);

Roeddem ni'r plant yno deirgwaith y Sul a phob noson o'r wythnos ac eithrio Dydd Mercher a'r Sadwrn - Cwrdd Gweddi,Dosbarth Beiblaidd neu Ddosbarth Tonic Sol-ffa, Cymdeithas y Bobl Ifainc a Seiat a hyd yn oed ar ddydd Mercher, roedd te i'r aelodau yn y festri.

Anfonwyd cywaith gan Dic Jones a'i ddosbarth, dan y ffugenw Lleng, i'r gystadleuaeth.

Cerddi eraill: Thomas Parry a Dewi Emrys yn y dosbarth cyntaf, Rolant o Fôn, W. Roger Hughes a Dewi Aeron yn yr ail ddosbarth.

Casgliadau yn ymwneud a dulliau /arddulliau dysgu a'r cyfle a roddant i ddefnyddio iaith Yn ei ymwneud a'r defnydd a wneir o iaith yn yr ystafell ddosbarth, ymdrin a dulliau ac arddulliau dysgu yn yr ystyr ehangach yr oedd yr ymchwil.

Nid y lleoliad ynddo'i hun sy'n bwysig; prif linyn mesur llwyddiant yw ansawdd cyfleoedd dysgu newydd ac amgenach ar gyfer pobl ifainc yn yr ystafell ddosbarth.

Ond er syndod a siom i'm rhieni bu raid imi fynd i ddosbarth isaf yr ysgol, dosbarth y babanod.

Eithr nid i drafod gwr mor alluog a chymhleth â John Donne yr ysgrifennir hyn, ond yn hytrach i goffa/ u gwerinwr syml o Uwchaled a fu'n aelod o ddosbarth WEA y Glasfryn a Chefn Brith o'i gychwyniad.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.

Yn ystod y flwyddyn Sabothol a gymerodd Dyfnallt Morgan tua deng mlynedd yn ol, fe'm rhoddwyd i (a fyddai wedi dwlu ar gael bod yn ddisgybl i RT) yn athro ar ei weddw - arni hi a'r lodesi eraill a berthynai i ddosbarth allanol Dyfnallt ym Mangor, hyhi a'i chydlodesi a'r diweddar Mr RS Rogers (o annwyl goffadwriaeth).

Oni chytunir yn wahanol bydd cost cludiant cyhoeddus am deithio ail ddosbarth.

Ond faint o ffermwyr tybed sydd yn gwybod ei fod yntau yn perthyn i ddosbarth yr anifeiliaid, a bod ganddo ef yr un angen am y mwynau!

Unwaith eto, dyma ymyrraeth giang gwrywaidd diarth o'r tu allan yng ngweithgaredd y gymuned ddosbarth gweithiol hon yn drysu cynlluniau'r bobl.

Yr oedd hi'n ddiacones yng nghapel Bethel, Gaiman, a chanddi ddosbarth o ferched ifanc yn yr Ysgol Sul.

John Morris-Jones a achubodd y dydd drwy nodi fod mesur y tri-thrawiad yn perthyn i ddosbarth Morgannwg o fesurau, sef y dosbarth a ddyfeisiodd Iolo Morganwg ei hun.

Yn y tridegau cynnar bu bri ar Ddosbarth Siaradwyr a drefnid gan Gangen y Brifysgol a Changen Dinas Bangor ac fe i cynhelid ar brynhawn Sadwrn mewn caffi ym Mangor Uchaf.