Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddosbarthu

ddosbarthu

Mae'r adroddiad yn argymell cynnal cronfeydd bwyd mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef oherwydd sychder, a sicrhau bod yna system effeithiol i ddosbarthu'r bwyd pan fo angen.

Yn sgil grym y tractor a'r JCBs a pheiriannau eraill, y diwydiant agrocemegol, had gwell a phatrymau newydd o werthu ac o ddosbarthu, fe chwalwyd y ddibyniaeth ar lafur a'r gyfundrefn rhannol hunan-gynhaliol.

Mae Anona wedi rhoi gorau i'r gwaith o ddosbarthu am ei bod yn brysur gyda'i gwaith ei hun.

Drwy Gynllun Adnoddau CBAC, bydd rhai adnoddau yn cyrraedd yr ysgolion yn ddi-dâl (drwy warant o'r Awdurdodau Addysg) a hefyd fe fydd yr un adnoddau ar werth gan lyfrwerthwyr (drwy ganolfan ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau) am yr un pris â'r fersiwn Saesneg.

Yn ogystal â hyn bydd arddangosfa symudol yn ymweld â threfi a phentrefi penodol yn mhob cyngor cymuned a thref yn ystod y cyfnod ynghyd â phamffled yn egluro pwrpas a swyddogaeth y cynllun lleol ynghyd â hysbysu'r cyhoedd o'r arddangosfa yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yn y Dosbarth.

Disgrifir hefyd drefniadaeth y Cyngor Llyfrau o safbwynt system ddosbarthu a grantiau cyhoeddi a chynigir rhai egwyddorion fel sail i weithredu yn y dyfodol a model o system i wireddu'r egwyddorion.

Aeth Ali ymlaen i ddweud iddo ef a Mary fynd allan i ddosbarthu cig wedi i'r plant fynd i'r ysgol.

Gellir tanysgrifio trwy gyfrwng y safle yma hefyd, neu fel arall holwch yn eich siop recordiau leol – mae ambell i gopi yn cael ei ddosbarthu rai wythnosau wedi i'r tanysgrifwyr dderbyn CD yn y post.

Mae dros 200 o bobl yn gweithio i'r papur newydd a'r orsaf radio ac y maent wedi dechrau cyhoeddi papur newydd arall sy'n cael ei ddosbarthu o law i law Euskadi Información. Ceir hefyd safle ar y we, www.euskalherria.net.

Roedd y rhain yn llwgu, a phan geisiodd Mrs Chalker ddosbarthu rhyw ddwsin o Milky Ways, fe aeth yn sgarmes anwar.

Mae'r llinyn o chwe phentref yn medru cynnwys gwybodaeth unrhyw daith i ddosbarthu Delta - gellir ei alw'n 'DNA' sy'n cynnwys gwybodaeth enetig taith arbennig.

Mae hwn yn galonogol iawn yn ein tyb ni, er bod rhaid cofio mai sampl o ddarllenwyr Cymraeg oedd gennym a'n bod wedi defnyddio rhai cylchgronau i ddosbarthu'r holiadur.

DIOLCH: Dyna garem wneud i mrs Anona Sweet, Stryd Menai ar ol iddi ddosbarthu'r Goriad am gyfnod.

FODD BYNNAG nad yw'r drwydded hon ddim yn mennu ar berchnogaeth unrhyw hawlfreintiau na hawliau eraill o eiddo trydydd partion yn y Gwaith a chydnebydd a chytuna'r Cynhyrchydd nad yw'r drwydded a roddir yn unol â'r cytundeb hwn ddim yn rhoddi na chynnwys nac yn honni rhoddi na chynnwys unrhyw drwydded na chaniatâd ar ran unrhyw berchennog hawlfraint nac unrhyw berchen hawliau eraill yn y Gwaith i ddefnyddio atgynhyrchu neu gorffori y Gwaith yn y Rhaglen na hawl na thrwydded na chaniatâd i ddosbarthu nac arddangos y Rhaglen.

Yn y dalaith a oedd dan sylw Lingen roedd y broses o newydd ddosbarthu'r boblogaeth yn golygu ...

Fel esiampl o broblem i'w datrys, dychmygwch fod yn rhaid teithio o amgylch Cymru i ddosbarthu'r rhifyn hwn o Delta, ac mai dim ond un cerbyd sydd ar gael i wneud y gwaith.

Mae system ddosbarthu a marchnata y Cyngor Llyfrau hefyd ar gael i ledaenu gwybodaeth am yr adnoddau.

Mae gan bob adran newyddion stôr o wybodaeth wedi ei ddosbarthu'n ofalus dan wahanol benawdau fel ffynhonnell ffeithiau ar amryfal bynciau.

Yn ôl d amcangyfrif ef ei hun, bu'r Methodistiaid yn gyfrifol am ddosbarthu' tros gan' mil' o gopi%au o lyfrau a llyfrynnau.

Mae'n wyrdd a choediog, a chaiff bwyd a gynhyrchir yn Ansokia ei ddosbarthu i weddill y wlad.

Taflenni hysbysebu yw rhai ohonynt a fawr ddim newyddion na deunydd golygyddol tra ceir eraill sy'n olynwyr i bapurau y telid amdanynt gynt ond sydd wedi penderfynu ymuno a'r fasnach ddosbarthu rhad - yn hynod o debyg i'w rhagflaenwyr.

Y mae'n rhaid wrth y ddeubeth, y deunydd crai, neu'r ffeithiau y mae'r gwyddonydd yn eu cael o'r byd o'i gwmpas, yr hyn a wêl y llygad ac a glyw'r glust, a hefyd y peirianwaith cywrain sy'n rhan o gynheddfau'r meddwl i ddosbarthu a threfnu'r deunydd hwn.

I raddau, maedosbarthiad daearyddol ein sampl yn adlewyrchu patrwm o ddosbarthu'r holiadur drwy'r papurau bro, ond hefyd mae'n adlewyrchiad o'r srdaloedd lle gwelir y dwysedd uchaf o ddarllenwyr..

Cofiwch anfon eich adroddiad at y sefydliad croesawu i gael sa/ l eu bendith cyn ei ddosbarthu.

Yr unig ffordd y gall cwmnïau fel hyn sicrhau statws i'r Gymraeg yw trwy sefydlu cyfundrefn ddosbarthu nwyddau ar wahân i Gymru.