Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddraig

ddraig

Gall y Ddraig Goch wisgo'i chlocsie yn hy ac yn dalog - mae ei dawnsio gwerin ar y map - Map y Byd.

Cruglwyth o dan cwlwm eirias, ac ogof goch yn ei graidd lle dywedwyd wrthi droeon yr ymgartrefai teulu'r Ddraig Goch.

Y cwdyn a ddaliai lwch dannedd Berwyn y Ddraig!

Yn y blynyddoedd hyn arferai aelodau Cangen Coleg y Brifysgol ym Mangor fynd oddi amgylch i werthu Y Ddraig Goch a phamffledi'r Blaid ar y strydoedd yn nhrefi a phentrefi Môn a Arfon; lleoedd iawn am farchnad oedd Caernarfon, Llangefni ac Amlwch ar nos Sadwrn.

dacw'r man, a dacw'r pren Yr hoeliwyd arno D'wysog nen, Yn wirion yn fy lle; Y ddraig a sigwyd gan yr Un, Can's clwyfwyd dau, congcwerodd Un, A Iesu oedd Efe.

Yn lle bod tro confensiynol (yn null arferol Mihangel Morgan) i'w gael yn unig yn y stori, fe geir hefyd, yn y chwedl anacronistig, Sionyn â'r Ddraig, yr awdur, ie, yr awdur, yn ddigon annisgwyl, yn siarad â'r darllenydd.

Fe welwn ni'r ddwy ddraig yn codi o'r twll cyn bo hir, ond paid â bod ofn, welan nhw mohonan ni yn cuddio yn y fan yma." "Ond pam y medd a'r sidan?" "Wel, fe fydd y ddwy yn ymladd heno a bron â thagu eisiau diod.

Dylid cofio, wrth gwrs, inni ddefnyddio Golwg, Llafar Gwlad, Y Wawr, Fferm a Thyddyn, Cristion a Tafod y Ddraig er mwyn dosbarthu'r holiadur, a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddehongli'r ffigurau.

Gydai ffrog wedii thorri o faner y Ddraig Goch, llwyddodd i ddod ag apêl secsi i'r Cynulliad tran cyfleu neges ddifrifol.

Derbyn y Ddraig Goch fel baner swyddogol Cymru.

Ymladdodd y ddwy ddraig, yfed y medd, meddwi a chael eu lapio yn y sidan.

'Diolch byth am ddannedd Berwyn y Ddraig.'

Ac o ddec ein ty yn Nyffryn Comox, mi fydd y Ddraig Goch yn chwifio'n urddasol yn y gwynt.

Fe'i dilynwyd gan don ar ôl ton o ryfelwyr a redodd at y ddraig.

Nid oedd dim amdani ond darllen rhyw ddau neu dri rhifyn o'r Ddraig Goch a oedd gennyf wrth law yn fy llety.

Doedd dim cartref i ddraig goch fach, hyd yn oed, yn nhan trydan Anna a Marc.

Disgynasant fel cawod o gesair arni, ond er gwaethaf y rhain, aeth y ddraig ymlaen atyn nhw, ei chorff yn troi'n goch gan lif ei gwaed.

Gwelodd fod un ddraig wedi cael ei rhwygo yn ei hanner ac anadlai'r llall yn drwm gan grafangu'r tir oedd dan bwll o waed poeth.

Bydd y Ddraig Goch yn chwifio o binacl uchaf y Ddinas yma yn Christchurch a bydd rhaglenni ar y di-wifr ac ar y radio yn cyflwyno Dydd Gwyl Dewi Sant.

Fe fydd y ddwy ddraig yn chwil ulw beipan.

Gwelodd y ddraig nhw'n dod a rhuo'n heriol.

Ac oedd, roedd yna ambell i Ddraig Goch yn chwifio wrth inni gerdded i'n lle i aros am y dyfarniad.

Defnydiwyd gymysgedd o CorelDraw 3 a 4 a Paint Shop Pro 3 i greu'r graffeg; HTML Notepad yna Windows Notepad (pan sylweddolwyd bod HTML Notepad yn crap) i sgrifennu'r tudalennau HTML; Netscape Navigator 1.1 a 2 (fersiynau 32-bit) i brofi'r tudalennau; Word 6 i sgrifennu'r rhan helaethaf o'r cynnwys; a PageMaker 5 i gysodi a dylunio'r Tafod go iawn; a hyn i gyd yn rhedeg ar Windows 95 (ie, ie, ie, dwi'n sycyr, ond mae o werth o jyst am yr hwyl o allu gael tafod y ddraig fel eich saeth llygoden).

Tynnodd ef o'i logell a gweiddi ar y lleill, 'Fe ddaeth yr amser i brofi anrheg y ddraig.' Cymerodd ychydig o'r llwch ohono a'i daflu drosto'i hun a'i ferlyn.

Suddodd un ddraig ei dannedd yng ngwddf y llall ond llwyddodd honno i daro'n ôl â'i chynffon.

Roedd Y Ddraig Goch i'w gweld yn chwifio ochor yn ochor â baner America y tu allan i'r gwesty cyn y briodas a hynny i gynrychioli gwledydd genedigol y ddau.

Fy enaid, gwêl i ben Calfaria Draw, rhyfeddod mwya' erioed, Creawdwr nefoedd wen yn marw A'r ddraig yn trengi tan ei droed...

Ar fore heulog braf codwyd baner y Ddraig Goch y tu allan i'r senedd-dy yn dilyn caniatad gan Lefarydd y senedd, y Gwir Anrhydeddus Jonathan Hunt, i'r faner chwifio yno gydol y diwrnod.

Talai'r Ddraig Goch ei ffordd, ond yn awr, daeth yn bryd talu cyflog HR, a rhent y swyddfa yn Aberystwyth.

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.