Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddrud

ddrud

Er gallai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud am ffolineb ei capten.

Brwydrodd y clwb o Gymru yn ddewr yn y gwres llethol ond fe dalon nhw'n ddrud am fethu dau gyfle yn yr hanner cyntaf.

Fe gostiodd yn ddrud i Affos, ond fe dawelodd y dadlau ynghylch Casino dros dro.

Mae'r problemau hyn yn codi yn bennaf o ganlyniad i werthu uniongyrchol o'r canolfannau mewn achosion lle mae cost cludiant yn ddrud iawn, a hefyd yng nghyswllt Cynllun Adnoddau CBAC oherwydd bod effeithiolrwydd y system yn dibynnu ar swyddogion yr Awdurdodau sy'n gyfrifol am y dosbarthu i'r ysgolion.

Tybiai y byddai ci mwy cyffredin yn fwy addas iddo fo; ci y gallai chwarae gydag o, un a fyddai'n ffrind iddo a heb fod yn rhy ddrud i'w brynu.

Y mae dau beth a gychwynnwyd gan lywodraethau Toriaidd yn costion ddrud iawn inni y dyddiau hyn.

Ffordd ddrud o gyrraedd ychydig o bobol fyddai hi, meddai John Ellis o Theatr Clwyd, wrth i Gyngor Ffilm Cymru lansio dogfen Cine/ mobile i Gymru ac fe fydd "fel llong ofod yn ymweld o dro i dro%, meddai David Gillam o Valleys Arts Marketing.

'Fe fyddi di'n talu'n ddrud am hyn, llanc,' meddai rhwng ei ddannedd.

Mae rhywfaint o fwyd ar gael, ond rhaid talu yn ddrud amdano.

Arferai gynghori llenorion ifanc i ddefnyddio geiriau byrion, perthnasol, a brawddegau clir synhwyrol, gan fod papur yn rhy ddrud i'w wastraffu ar ddwli, a darllenwyr yn rhy brin a gwerthfawr i'w colli am byth.

Unwaith eto y tymor hwn fe dalodd Bangor yn ddrud am eu diffygion amddiffynnol.

Mae llawer un wedi talu'n ddrud iawn cyn heddiw am beidio â darllen y print mân.

Erlynwyd yr undeb gan reolwyr y cwmni a bu'n rhaid iddo dalu'n ddrud am gefnogi'r streicwyr.

Ar hyn o bryd mae llawer o'r technegau yn ddrud ac ni ellir cyfiawnhau'r costau heblaw mewn amgylchiadau arbennig neu ar gyfer ymchwil.

Fe allai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud, ergyd wych o ddeugain llath gan Sasha Opinel yn rhoi gôl i'r ymwelwyr ac yn brawychu ffyddloniaid Parc Ninian.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy yn gofyn beth oedd cynlluniau'r Cyngor ynglŷn â dyfodol y safle a'r peiriannau sydd wedi costio yn ddrud i drethdalwyr Dwyfor.

Yn enwedig y rhieni hynny y maen costio mor ddrud iddyn nhw roi eu plant drwy goleg er mwyn i'w plant gael gradd mewn rhywbeth gwerth chweil fel David Beckham.

Cafodd ei hatgoffa ei bod yn dod o deulu parchus a'i bod wedi cael addysg ddrud o safon uchel.

Ond mae cadeiriau peiriannol hefyd yn drwm, yn anodd eu cludo, yn ddrud ac mae angen ail-gyflenwi'r batris yn gyson.

Ond rydych chi'n anghofio, gyfaill, ei bod hi wedi costio'n ddrud ddychrynllyd iddo Fo i'ch codi chi o bwll pechod ac anobaith.

Cyn pen hir a hwyr ac ar ôl cael cynnig pob math o driniaeth ddrud cafodd Kate y ddos gyntaf o acupuncture mewn ystafell oedd digon tebyg i ystafell gwesty.

Byddai'r gost o drosglwyddo galwadau yn ddrud, a byddai angen help hefyd i dalu amdanynt.

Rhuthrodd y ddau i newid er mwyn gweld os oedd y car - model reit ddrud gyda llaw - yn iawn.

Gall fod yn gwrs ysgubol o ddrud.

Costiodd eisoes yn ddrud i'w haelodau ifainc.

mae unrhyw arian y cynhyrchydd yn mynd ar fuddsoddiad o'r fath - mae'r cyfnod paratoi yn ddrud a'r ysgrifennu yn cymryd amser hir.

A chostiodd y gwaith hwnnw'n ddrud iddo, dim byd llai nag aberthu ei fywyd ar y groes.

Mae ariannu sgript gyflawn yn ddrud iawn.

Costiodd y ddau ryfel yn ddrud i'r llywodraeth ganolog, a oedd yn benderfynol o amddiffyn undod gwladol Ethiopia, yn arbennig am fod Massawa, un o'i hunig ddau borthladd, ar dir y gelyn yn Eritrea.

Talant yn ddrud am eu delfrydiaeth a bair iddynt anwybyddu sail economaidd amaethyddiaeth y Gors.

Yr anfantais fawr wrth ddewis bod yn ofalus yw y gall rhywbeth fod o'i le ar y camera neu ar lefel y golau a ganiatawyd i'r camera ac y byddai gweld hyn yn y fan lle tynnwyd y ffilm yn arbed siwrnai ddrud arall i'r wlad, pe bai hynny yn bosibl hyd yn oed.