Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwedwn

ddwedwn

Felly, yn yr un modd, er y byddai rhai gramadegwyr yn manylu mewn ffordd wahanol, fe ddwedwn i mai yr un hanfod o ddibynnu sydd mewn brawddeg fel 'Lladdodd Gwilym y ci.' 'Gwilym' eto yw'r canol.

Rwy'n ddigon hapus heno fy mod yn medru adrodd peth o'r hen Gyffes sanctaidd gyda mam - "I believe in God the Father, God the Son and God the Holy Ghost," ond wyddwn i ddim byd beth a ddwedwn i!

Y cwbl ddwedwn i, os daw perchnogion newydd i'r clwb, go brin y bydden nhw'n fodlon parchu'r cytundeb hwnnw.

Mae'n dref hynod, a glanwaith bob adeg o'r flwyddyn, ddwedwn i.

Yr unig beth negyddol a ddwedwn i am y gyfrol yw fod rhan rhy helaeth ohoni yn yr adran "Amrywiadau", gyda nifer fawr o gerddi wedi eu seilio ar y pennill "Bachgen Bach o Felin y Wig" ond wedi dweud hynny, mae unrhyw un sydd yn gallu gwneud cywydd neu awdl ar y fath bwnc, a chodi gwen ar yr un pryd, yn haeddu canmoliaeth fawr.