Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwyieithog

ddwyieithog

Dylai pob gwybodaeth ynglyn a sut i lenwi'r cyfrifiad fod yn gwbl ddwyieithog hefyd.

cofnodion pob trafodaeth, penderfyniad a deddfwriaeth eilradd a chynradd yn y Cynulliad i fod yn ddwyieithog, gan gynnwys yr Hansard.

Athrawon uwchradd sydd yn dysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog yn y sector uwchradd neu am wneud hynny.

O'r cychwyn cyntaf dadleuodd Cymdeithas yr Iaith dros bwysigrwydd Cynulliad trwyadl ddwyieithog, ond, flwyddyn wedi sefydlu'r Cynulliad realiti'r sefyllfa yw mai lleiafrif bach o aelodau'r Cynulliad sy'n dewis siarad Cymraeg ar lawr y siambr a llai fyth yng nghyfarfodydd pwyllgorau'r Cynulliad.

Os na fydd y Cynulliad yn weithredol ddwyieithog, fe fydd hyn yn gyfiawnhad pellach i gyrff eraill barhau i weithredu yn Saesneg a rhoi sglein dwyieithog ar gyfer y cyhoedd.

Galw ar i'r Cynulliad osod esiampl dda drwy weithredu'n hollol ddwyieithog ac ysytyried effaith pob polisi ar bobl ifanc yng Nghymru.

Mi fyddai bob dim yn hollol ddwyieithog; roedd y cyfan wedi ei setlo efo winc a one liner rhwng dau o'r bobol iawn yn un o dai bach dynion Parc Cathays.

Gall y safleoedd fod yn ymwneud ag unrhyw bwnc neu ddiddordeb - ond rhaid iddynt fod yn safleoedd Cymraeg neu'n gwbl ddwyieithog.

Defnyddir yr ymadrodd "addysg ddwyieithog" yn yr adroddiad hwn i olygu addysg a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, lle mae'n naturiol ac yn ofynnol i bawb ddysgu'r Saesneg sy'n fyd eang ei defnydd, mae'r rheidrwydd i ddysgu a defnyddio iaith carfan leiafrifol o'r boblogaeth ac iaith sydd wedi ei chyfyngu o ran defnydd i dir Cymru yn dibynnu ar wahanol gymhellion.

Henry Jones yn yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Uwchradd Ddwyieithog yn Aberystwyth.

'Byddwn yn galw am Gynulliad trwyadl ddwyieithog o'r cychwyn cyntaf,' meddai Branwen Niclas, 'ac am statws lorweddol i'r iaith Gymraeg.

ch) cywiro sefyllfa ble caniateir o fewn y sector gyhoeddus i weithredu yn uniaith Saesneg ond nid yn uniaith Gymraeg, er enghraifft wrth gofrestru babanod, lle gellir gwneud yn uniaith Saesneg neu yn ddwyieithog ond nid yn uniaith Gymraeg.

Os yw'r ail iaith yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn mynd i lwyddo, yna bydd yn rhaid darparu elfen o ddysgu dwyieithog ym mhob ysgol uwchradd yn y wlad, nid y rhai swyddogol a naturiol ddwyieithog yn unig.

(Model - Fframwaith Ymchwil Addysg Gymraeg/Ddwyieithog: Iolo Wyn Williams.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf wedi galw am Gynulliad Cenedlaethol trwyadl ddwyieithog.

Mae'n bosib iawn mai canran debyg o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol fydd yn ddwyieithog hefyd.

Mae lle i berson gyda'ch math chi o gyfrifoldeb gael ei apwyntio yng ngweddill ysgolion uwchradd Cymru, yn arbennig felly yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf, os yw addysg ddwyieithog i lwyddo.

Ddechrau'r flwyddyn, fe ofynwyd i ysgolion Cymru lunio safle gwe ar unrhyw bwnc, ar yr amod bod y safleoedd yn Gymraeg neu'n drwyadl ddwyieithog.

Rhaid iddo weithredu yn drwyadl ddwyieithog a rhaid iddo fabwysiadu polisïau fydd yn hybu'r Gymraeg mewn meysydd fel addysg, cynllunio a'r economi.

Mae'n rhaid trawsnewid diwylliant dwyieithrwydd o fewn gwleidydda a llywodraethu os ydym am gael mwy na façade ddwyieithog i Adeilad y Cynulliad.

Golyga hyn y dylai holl staff y Cynulliad fod yn ddwyieithog neu gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn effeithiol yn ystod oriau gwaith fel amod o'u cytundeb.

Dydyn nhw ddim yn cael cofrestru eu plant yn ddwyieithog.

Y mae'r amod hwn yn gosod rheolaeth lwyr ar y rhyngweithiad ieithyddol, sydd yn hanfodol bwysig i barhad unrhyw gymdeithas ddwyieithog.

Gellid dadlau mai dyma'r cyfnod mwyaf allweddol ac effeithiol o ran gosod sylfeini a fydd yn sicrhau fod plant yn gwbl rugl ddwyieithog ac yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gydol eu hoes.

Mae'r uned hon ar y llaw arall wedi'i chyfeirio'n benodol atoch chi'r cydgysylltwyr (neu unrhyw un arall mewn ysgolion y tu allan i Wynedd sydd yn gyfrifol am arwain, cyflwyno syniadau, monitro ac yyb ym maes dysgu yn y sefyllfa ddwyieithog.

Nodwedd benodol yr haen hon yw mai ystyried y ffordd y mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith mewn cyfathrebu pynciol yn y cyd-destun uniaith a wneir, cyn symud i gymhlethdod y sefyllfa ddwyieithog.

Os ydym am sicrhau fod pobl ifanc yn gwbl rugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mae'n amlwg fod yn rhaid darparu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog iddynt.

Fe fydd cyhoeddiadau swyddogol y Senedd yn ddwyieithog, fe gyhoeddir testun y Bwletin Swyddogol (yr 'Hansard') mewn Basgeg a Sbaeneg, ac fe fydd y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn wreiddiol.

Gwerth y Pecyn Hwn i Chi Bwriad y pecyn hwn yw eich helpu chi yn y gwaith o drefnu addysg ddwyieithog a chreu ymwybyddiaeth yn athrawon eraill yr ysgol o sut y gallai: y defnydd a wneir o iaith hybu dealltwriaeth o bwnc a sut y gallai pwnc helpu i ddatblygu iaith, yn arbennig yr ail iaith.

Patrymau addysg ddwyieithog yn y sector uwchradd

O safbwynt cynnal a datblygu addysg ddwyieithog yng Ngwynedd, ganddoch chi'r cydgysylltwr iaith mae'r rol bwysicaf.

Ar yr un trywydd byddwn yn arbrofi gyda noson Garioci Gymraeg neu ddwyieithog efo'n hir er mwyn agor cil y drws ymhellach i ganu pop neu roc Cymraeg.

Un o oblygiadau'r ddeddf hon oedd ordeinio trwy gyfraith mai eglwys ddwyieithog, o leiaf yn ei gwasanaethau cyhoeddus, fyddai'r Eglwys yng Nghymru o hynny allan.

Peidiwch â'i chymryd yn ganiataol y bydd cyfarfod yn ddwyieithog am fod cwpl o gyfieithwyr yn eistedd mewn bwth.

Os am fwy o wybodaeth am gyhoeddiadau Addysg BBC Cymru, mae Llinell Wybodaeth ddwyieithog ar agor yn ystod oriau gwaith ar 029 20 999998.

At hynny, mynegais y farn mai anodd oedd i odid neb aros yn ddi-Gymraeg yn y sir ddwyieithog hon ar ol byw yma am rai blynyddoedd - ac eithrio'r rhodresgar, y meddyliol-anneallus, neu'r diog: yn enwedig unrhyw un mewn swydd gyhoeddus.

Systemau Dwyieithog - Dulliau o drefnu'r dysgu a chywair iaith lafar yn y sefyllfa ddwyieithog.

Dim ond trwy roi statws swyddogol i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru y gallwn ni wedyn fynnu bod banciau a siopau a chwmnïau ac ymddiriedolaethau iechyd, a.y.y.b. yn gweithredu'n drwyadl ddwyieithog. Siân Howys yn gwneud ei marc ar ddechrau'r ymgyrch

Mae'r ddogfen yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i weithredu yn ddwyieithog cyn, yn ystod ac ar ôl cyfarfodydd pwyllgor.

Yn ogystal â hyn, fe fyddai'n arwydd clir i'r byd y tu allan fod Cymru'n wlad ddwyieithog, fod angen gwasanaethau dwyieithog arni a'i bod yn rhoi gwerth ar ei hiaith ei hun.

Mynegodd aelodau Cangen Y Groeslon anfodlonrwydd gydag agwedd Banc y TSB tuag at yr iaith Gymraeg - pan ofynnodd y Trysorydd am ffurflen Gymraeg (neu ddwyieithog), dywedwyd wrthi nad oedd ffurflen ar gael ac nad oeddynt yn barod i baratoi un.

Cyhoeddwyd Papur Ymgynghori'r Grwp, ac yn wir, mi roedd popeth yn mynd i fod yn ddwyieithog, er, na fyddai hynny o'r diwrnod cyntaf, chwaith.

Yn ogystal â hyn, gall delwedd ddwyieithog fod yn fantais y tu hwnt i Gymru, yn enwedig yn y marchnadoedd hynny lle mae delwedd unigryw yn hollbwysig, neu lle byddai dangos dealltwriaeth o amlieithrwydd yn eu huniaethu â'r farchnad gynhenid.

Wrth i Aelodau'r Cynulliad gymryd eu seddi, fe fydd rhai ohonyn nhw'n dod wyneb yn wyneb â chyfieithu ar-y-pryd am y tro cyntaf, a'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, heb weithredu o fewn sefydliad gweithredol ddwyieithog o'r blaen.

Mae cyrff a chwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru yn gweld bod yn rhaid iddyn nhw weithredu yn Saesneg, ond maen nhw'n gweld gweithredu yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog fel rhywbeth sy'n fater o ddewis iddyn nhw.

Gwaith llafar yn y sefyllfa ddwyieithog - ystyriaethau ynglyn a chywair iaith.

Nid ydynt, lawer ohonynt, yn ddigon rhugl eu Cymraeg i dderbyn addysg uwchradd mewn ysgol ddwyieithog.

Mae'r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol hefyd yn gofyn iddynt sicrhau y bydd ffurflenni cyfrifiad cwbl ddwyieithog yn mynd i bob ty yn 2001 fel na fydd raid gofyn am un yn y naill iaith na'r llall.

Os ydym am ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol rugl yn y Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n rhwydd ym myd gwaith, bydd yn rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Taflenni Gwaith yn y sefyllfa ddwyieithog - cynllunio ar gyfer cynnydd a datblygiad yn y ddwy iaith.

O baratoi'r 'Hansard', gyda'r cyfraniad yn yr iaith wreiddiol ar chwith y dudalen, a'r cyfieithiad i'r iaith arall ar y dde, fe fydd yr Hansard ei hun yn ddwyieithog ac fe fydd modd gweld pa iaith a ddefnyddiwyd gan y siaradwr.

Difyr a dadlennol ydi sylwi ar fethiant gwasg ddwyieithog y cyfnod.

Ond os ydym yn anelu tuag at Gymru sy'n gynyddol ddwyieithog dylid ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddwyieithrwydd drwy sicrhau fod pob plentyn sy'n derbyn addysg feithrin yn cael blas o'r Gymraeg fel rhan o brofiad addysgol cynnar.

Dyma un her i'r hinsawdd wleidyddol Gymreig newydd: creu diwylliant gwleidydda a llywodraethu yng Nghymru sydd yn weithredol ddwyieithog.

Gallai hyn greu problem mewn dosbarth lle mae mwyafrif y myfyrwyr yn Gymry Cymraeg, er enghraifft, gan y byddai tueddiad i'r darlithydd ar gwrs dwyieithog anghofio bod rhaid cadw elfen o Saesneg yn y dysgu hefyd os yw'r cwrs i fod yn un gwir ddwyieithog." Er gwaethaf yr ail bwyso a'r ail ddatblygu y bydd rhaid i Addysg Gymraeg eu hwynebu wrth weithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd y gronfa o arferion da sydd ar gael yn gynhaliaeth werthfawr.

Mae sylwadau'r Gymdeithas yn arbennig o berthnasol gan ein bod ar ganol ymgyrch o weithredu uniongyrchol i sicrhau fod y colegau addysg bellach yng ngorllewin Cymru yn dod yn sefydliadau cwbwl ddwyieithog.

Yr ieithwyr/- wragedd a oedd yn gweithio ar y Catalan a'r Occitan oedd y rhai cyntaf i wneud hyn - yn ogystal ^a gofyn beth oedd sefyllfa'r ddwy iaith mewn cymuned ddwyieithog, a pha un oedd yn cael ei defnyddio i ba pwrpasau, aeth y rhain ati i ofyn pam bod yr ieithoedd yn rhannu fel ag yr oeddynt, a sut yr oedd hyn yn newid dros gyfnod o amser.

arwyddion adeiladau'r Cynulliad a phob gwybodaeth gyhoeddus sydd yn ymwneud â'r cyhoedd i fod yn ddwyieithog.

Yn dilyn yr helynt hwn bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg pan gyfarfyddant nesaf yn ystyried eu hymateb os na fydd ffurflenni cyfrifiad 2001 yn drwyadl ddwyieithog i bob ty.

Yn wir, gallai pwysigrwydd cynyddol Technoleg Gwybodaeth mewn gweinyddu a chynnal busnes beunyddiol ymhob sector ddod yn fygythiad difrifol o ran hyblygrwydd corff i weithredu'n ddwyieithog, gan mai yn Saesneg yn unig yn aml y mae'r deunyddiau ar gael.

Sefydlu ysgol uwchradd ddwyieithog Gymraeg gyntaf Cymru yn Ysgol Glan Clwyd.

Ni wyddom ar hyn o bryd os bu'r ymgyrch gyntaf, sef targedu'r arwyddion Give Way, yn llwyddiant; hynny yw a fydd y Swyddfa Gymreig yn cytuno i'w gwneud yn ddwyieithog.

Yr agenda: dylai'r agenda, wrth gwrs, fod yn ddwyieithog.

Yn olaf, o gael cyfieithu ar-y-pryd i'r Gymraeg, fe fyddai hyn yn cyflymu'r broses o baratoi'r 'Hansard' yn ddwyieithog.

'Roedd Fishman fel petai'n awgrymu fod y ddwy iaith mewn sefyllfa ddwyieithog yn rhannu'n gyfleus i'r naill gategori neu'r llall, ac heb fawr o or-gyffwrdd rhyngddynt.

(Gweler yr Atodiad am fanylion mewn perthynas â Modelau Addysg Ddwyieithog)

Cen Williams RHAGARWEINIAD (Ar gyfer y Cydgysylltwyr Iaith yn fwy na neb) Prosiect ar gyfer athrawon Gwynedd fu'r PROSIECT DATBLYGU ADDYSG DDWYIEITHOG o'r cychwyn cyntaf.

Mae'r gymdeithas yn hollol ddwyieithog, yn anwleidyddol ac anenwadol.