Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwyreiniol

ddwyreiniol

Yr adeg hon, yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, yr oedd Saesneg yn dechrau treiddio i Abergafenni, ar ffin ddwyreiniol Gwent, er mai digon prin a rhyfedd ydoedd.

Picton Philipps â'r orsaf a'r groesfan ddwyreiniol tua dau o'r gloch, nid oedd agwedd y torfeydd mor fygythiol ag i hala ofn arno.

Gallwch weld olion y lagwnau ar ochr ddwyreiniol a gorllewinol Bae Langland.

Dyma fe 'nawr yn gorfod sefyll wrth groesfan ddwyreiniol Llanelli cyn mynd i mewn i'r orsaf am arhosiad arall o ddeng munud.

Un o lednentydd glan ddwyreiniol Afon Hirdrefaig.

Y Bala Tref ar ben gogledd-ddwyreiniol Llyn Tegid ym Meirionydd yw Y Bala fel y gŵyr pawb.

Gellir gweld ogof Lloches Lewsyn yn y graig lefn sy'n codi'n serth o'r dþr ar ochr ddwyreiniol Llyn Cerrig Llwydion Isaf ond rhaid cymryd gofal wrth fynd ati gan mor ddwfn ac iasoer yw'r dþr yn y fan honno.

yr oedd yr arfordir ddwyreiniol yn frith o fân gwmni%au telegraff, i gyd yn defnyddio peiriannau morse.

Ysgol gynradd sirol yw Ysgol Gymuned Pentraeth, sydd wedi ei lleoli ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru.

Y Mwmbwls yw'r bae cyntaf ar ochr ddwyreiniol Bro Gþyr, ac mae'r Garreg Galch a welir ger y Pier yn ddirgelwch llwyr i ddaearegwyr.

Cofiwn yr ymdrech gynnar yn erbyn gwynt anarferol o finiog, y gollyngdod nad oedd eira anamserol llif Awst wedi lluwchio cymaint a hynny tua chopa'r bwlch, a'r wefr wrth weld y gwyngalch newydd pur yn diflannu i'r cymylau fel petai crib ddwyreiniol y Chuealphorn yn un o gyrsiau mawr yr Aplau.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Ar ochr ddwyreiniol y cyntedd, arweiniai grisiau wedi eu haddurno â theils i fyny i oriel â rheiliau haearn a thamaid arall o ramant gwydr lliw.

Y prynhawn hwnnw glaniwyd ar le anghyfannedd ar ynys ddwyreiniol y Falklands.

Nid yw hyn yn fwy trawiadol yn unman nag ar yr ochr ddwyreiniol, yn Emiriaeth Fujairah- yr unig Emiriaeth sydd ddim ar y Gwlff Arabaidd.