Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwys

ddwys

A nodiwyd pen yn ddwys wrth gofio am ymdrech a gweledigaeth, am ddygnwch a dyfalbarhad.

Geltaidd a'r englyn hwn arni i ni ddwys ystyried ein byrhoedl yngh ngwydd y creigiau arhosol.

O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.

Wrth i anadl a nerth ddod yn ôl i mi, sefais a meddwl yn ddwys mai ffordd ddwl ar y naw oedd hon i ddyn yn ei fan dreulio'i fywyd.

dywyll a'i olwg ddwys, â'r chwarelwr, rhyw olwg galed sydd arno fel y garreg y mae yn ei gweithio.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Trafodwyd yn ddwys beth fyddai'r cwestiwn gorau i'w ofyn iddo gyntaf.

Yn ei farn ef, mae hi'n "ddogfen ddwys a threiddgar".

'Ni cherddaf....Ni chwarddaf' yn dyfnhau negyddiaeth y nos i'r bardd yn ddwys iawn, a hynny'n cael ei datrys braidd yn gynganeddus mewn bodlonrwydd anuniongyrchol 'draen...heb wrid y rhos,' 'gweaf....gwyw'.

Credaf fod ei llygaid rhwng gwyrdd a brown, byddent yn tremio arnom yn ddwys.

Cydymdeimlwn yn ddwys a'i weddw a'i fab.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Glaw mân yn rhoi sglein ddwys ar y Rhyl.

Roedd y gyfres ddiweddaraf o raglenni dogfen yn cynnwys Iolo Williams, swyddog rhywogaethau'r RSPB yng Nghymru, a siaradodd yn ddwys am greulondeb wrth drin adar oherwydd anwybodaeth neu fasnacheiddiaeth.

Dilynir y cyrsiau dwys cychwynnol gan gyrsiau uwch, boed yn ddwys neu'n cyfarfod unwaith yr wythnos.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

Roedd o tua phump ar hugain, mor dal â chre%yr glas, yn ddwys ac yn meddu ar groen swyddfa.

Roedd o o ddifrif, mor ddwys â chenhadwr.

Yr oedd yna rai â'u teyrngarwch i'r mudiad mor ddwys a dwfn fel na fedrent hystyried y mater yn oeraidd, ac yn wyneb digwyddiad fel Tryweryn, yr oedd yna wanobaith llwyr, ac angen emosiynol clir am drobwynt dramatig.

Un o'r prif agweddau y dylid ei hystyried yn ddwys yw sut y gellid dylanwadu ar y sefyllfa sosio-economaidd leol drwy weithdrefnau cynllunio.

Awdl delynegol, gynnil yw'r awdl fuddugol, a cheir ynddi stori serch ddwys.

Nid sioe i ddieithriad ond ystum naturiol, ddwys.

Mae llinellau Ceri yn ddwys ond yn ddisgrifiadol:

Bu marwolaeth sydyn ei brawd yn ergyd drom iddi, a chydymdeimlwn yn ddwys â hi; ac felly y gwnâi eraill fel yr oedd yn ymddangos; oblegid ``llawer a ddaethant i'w chysuro hi am ei brawd''.

Cydymdeimlwn yn ddwys a chwi a'r teulu yn eich colled.

A hithau'n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion - o'u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad gwerthfawr o'r drafodaeth a fu hyd yn hyn.

Rhaid cyffesu fod dirywiad y traddodiad canu mewn llawer capel wedi bod yn ergyd ddwys i'r swn llawen y mae'r Salmydd yn ei annog.

Y dasg yn y flwyddyn i ddod yw ymateb i sialensau aml-ochrog technoleg ddigidol ac arlein, cystadleuaeth ddwys, y Cynulliad Cenedlaethol, a'r pwyso a mesur cenedlaethol iach ar drothwy'r mileniwm.

'Rwyt ti'n siarad lol, Tudur,' ebe Siân ar ei draws yn ddwys.

Eglurodd Cadeirydd y Cyngor bod y Pwyllgor Cynllunio yn ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant drwy ystyried yn ddwys y gwahanol ffactorau.