Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddwywaith

ddwywaith

Y mae'r bos yn dweud y byddai'n costio ddwywaith gymaint i ymsefydlu yn Llundain.

Ddwywaith yn ystod ei yrfa wleidyddol cafodd ei garcharu a'i arteithio gan y juntas milwrol.

Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.

Pwy a ŵyr nad rhoi ddwywaith fyddai ymateb ambell un, yn hytrach na meddwl ddwywaith cyn rhoi?

Gwnaed Ynot Benn yn aelod o Anrhydeddus Urdd y Llwynogod pan aeth y ganolfan ar dan ddwywaith nes bod rhaid atgyweirio ac ail-adeiladu go helaeth.

Cyfarfu'r grŵp wyth gwaith yn ystod y flwyddyn, ddwywaith i dderbyn hyfforddiant.

Doedd hi ddim yn coelio mewn banciau felly doedd hi ddim yn bosib iddi newid sieciau, ond byddai'n rhoi benthyg yr arian heb feddwl ddwywaith am y peth.

Teimlai amryw o'r aelodau hefyd yr hoffent gael y cyfle i roi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

canu ddwywaith a'r tyllau'n clecian allan, a chanu deirgwaith i bawb fynd yn ôl at eu gwaith.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dyfarnwyd iddo radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Fe groesodd y crysau gwynion linell Cross Keys wyth o weithiau gyda'r wythwr Lee Jones yn sgori ddwywaith.

Y Prawf - Fe lwyddodd y gohebydd i fynd heibio i'r Dderbynfa a wardiau unigol lle'r oedd mamau yn bwydo'u plant ond fe gafodd ei rhwystro ddwywaith cyn cyrraedd at y brif ward ei hun.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

dylai hynny fod yn ddigon i beri i unrhyw lygoden feddwl ddwywaith cyn ymosod ar hâd y goeden Ilex.

Dywedodd Alun Michael iddo ymweld âr ysbyty ddwywaith yn ddiweddar - yn ceisio cywain pleidleisiau i Lafur, mae'n debyg - ond ddim digon i gadw Helen Mary draw.

Bu'n caru wedyn gyda Helen, ffrind gorau Karen, a thorrodd Helen galon Haydn ddwywaith drwy garu gyda dynion eraill.

Ond pennaf cyfaill ei dad yn Llanelli oedd Dr Gwylfa Roberts, gweinidog Tabernacl, Llanelli a bardd a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Fe ddaethon nhw'n agos ddwywaith ond ymdrechion yr asgellwyr Kevin James a Shane Williams yn cael eu gwrthod.

Ymddengys mai dim ond un darn o ffilm o Meredith yn chwarae sydd mewn bodolaeth a dangoswyd yr un darn hwnnw ddwywaith.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Heb feddwl ddwywaith, aeth yn ôl i'r tŷ bwyta i nôl ei gôt!

At hyn wrth gwrs, mae wedi cyfrannu gweithiau i antholegau, llunio nofelau a cherddi i oedolion ac ennill y gadair genedlaethol ddwywaith, yng Nglynebwy a Chaernarfon.

mae'r rhaglen gylchgrawn The wRap (ar yr awyr ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Iau) wedi cyflwyno pynciau ychwanegol yn ogystal â chyflwyno ei detholiad arferol o ffyrdd o fyw, chwaraeon, newyddion, adloniant a diwylliant tra profodd After Midnight, sioe jukebox fideo fywiog wedii chyflwyno gan Lisa Matthews, yn boblogaidd iawn.

'Roedd ôl blinder y dydd ar wyneb y Cripil ac er bod hwnnw ddwywaith ei oedran, cododd Elystan y corff hanner diffrwyth a'i fagu yn ei arffed fel magu plentyn.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Os byddi di eisiau gair o gyngor ar y mater, dos di ato fo.' Pesychodd ddwywaith a sychodd ei geg â chefn ei law cyn mynd ymlaen.

Telir am waith ar Ddydd Nadolig, Gwyl San Steffan a Dydd Calan ar gyfradd o ddwywaith y Tal Dyddiol neu chwarter ychwanegol o Dal Wythnosol a telir am waith ar ddyddiau gwyl cyhoeddus eraill ar gyfradd o un a hanner gwaith y Tal Dyddiol neu un a hanner gwaith chwarter y Tal Wythnosol.

Bu Arsenal ar y blaen ddwywaith yn eu gêm yn erbyn Bayern Munich yn Highbury cyn i'r tîm o'r Bundesliga daro'n ôl a chipio pwynt gwerthfawr oddi cartre.

Os pwyswch RETURN eto bydd y testun yn symud i lawr linell arall - gwnewch hyn ddwywaith eto.

Mae Mrs Mac wedi dychwelyd i'r cwm ddwywaith ers gadael.

"Paid â chredu y bydd e'n edrych ddwywaith arnat ti,' meddai Guto'n llawn cenfigen.

Fe gymerodd y fordaith yn ôl o Portsmouth i'r Traeth Mawr yn agos i dair wythnos, gan i'r gwynt fod yn wrthwynebus a'i gorfodi i lanio ddwywaith cyn cyrraedd pen y daith.

Mi fyddai pob cyfrinach a glywai'n mynd i mewn drwy un glust ac allan drwy'r llall i'r holl gwmpasoedd, a'r llyn yn ddwywaith ei faint.

Ac a wyddech chi mai Gradd Trydydd Dosbarth mewn Botani, o bopeth, ar ôl pipio ddwywaith, sydd gan Bennaeth yr Adran Moes ac Adloniant Dyrchafol a'i fod o'n hoff o godi'i fys bach, a'i wraig o, os gwelwch chi'n dda, yn drewi o ddyledion?

Mae aelodau'n derbyn cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn ac mae gwahoddiad iddyn nhw ddod i'r cyngherddau a'r cyflwyniadau sy'n deillio o weithgarwch gyda chymunedau lleol.

Wedi rowlo'r llafn ddwywaith neu dair, cyrhaeddai'r hyd o ryw chwe throedfedd, ac yna tatlai'r rowlwr y llafn at y dwblwr.

Aeth y Cenhedloedd Unedig â ni ddwywaith i'r de o Addis i weld y gwaith tymor hir - a oedd yn cynnwys un o'r clinigau cynllunio teulu lle caiff condoms eu dosbarthu am ddim.

Yn hytrach, dylid ail-ystyried rhoi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Er bod lleihau drafft yn fuddiol cofiwn bod angen newid aer ystafell ddwywaith y dydd cyn y gellir sicrhau digon o ocsigen.

Dymuniad y Rhanbarth oedd i mi ysgrifennu yn cynnig nad oes angen siaradwr yn y Cyngor ym mis Tachwedd a'ch bod yn ail- ystyried rhoi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Dan gynllun felly nid oedd modd sicrhau nad oedd rhai cefnogwyr wedi arwyddo ddwywaith, ac eraill wedi arwyddo drostynt eu hunain yn ogystal â thros aelodau eraill o'r teulu.

Yn achos Rhaglen neu Raglenni a wneir ar gyfer ysgolion neu addysg oedolion bydd talu'r Tal Gwaith a'r Tal Atodol yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau darlledu'r Rhaglen ddwywaith cyhyd a bod yr ail ddarllediad o fewn pedair wythnos i'r cyntaf.

Pan glywn y geirie, "Mike England's here% cyn unrhyw gêm roedd yr adrenalin yn llifo ddwywaith gymaint ag arfer.

'Roedd hi'n ymdrech dda gan Abertawe, deg chwaraewr yn dod nôl ddwywaith.

Bu'n rhaid i'r awyren fechan lanio ar borfa ddwywaith yn ystod y daith.

Erbyn hyn mae to\m pêl-droed yr ysgol wedi chwarae dwy gêm ac wedi ennill ddwywaith.

yn teimlo'n gorfforol, fel y dywedais, fy mod ddwywaith fy maint arferol, ac yn feddiannol ar ddwywaith fy nerth.

A dyma nhw'n dod ac yn eistedd ar y llawr wrth ein traed ni, a chyda nhw roedd yna anferth o ddyn - 'Joe Louis' oedden nhw'n ei alw fo - ac roeddo'r un ffunud â'r bocsiwr ond mi fuaswn i'n cymryd fy llw ei fod o ddwywaith gymaint ag o.

Digon dweud iddo fod yn bencampwr yr holl fridiau yn Crufts, sioe gwn fwya'r byd, ddwywaith yn ystod y degawd dwetha.

Mae Dic wedi dychwelyd ddwywaith ers hynny.

Camodd Joni a Sandra'n ôl yn eu dychryn, ond chwyddodd y bwystfil gan ymddangos yn fwy, ddwywaith, nag o'r blaen.

Daeth Paul Brayson â Chaerdydd 'nôl i'r gêm ddwywaith - peniad a chic o'r smotyn.

Ynghyd â'r tri newyddiadurwr arall a gyrhaeddodd y bore hwnnw, fe ges fy ngorfodi i newid cerbyd ddwywaith cyn croesi o ogledd y ddinas i'r de.

Dangosodd fod llygod a borthwyd ar ginseng am fis yn medru nofio heb ddiffygio ddwywaith gyhyd â llygod na chafodd ginseng.

Rydw i wedi bod draw ddwywaith i chwilio, ond dydi hi ddim ar gyfyl y lle.

Dal i bwyso, gyda 3 mis o weithredu difrifol ddwywaith yr wythnos yn erbyn adeiladau ac eiddo'r cwmnïau teledu a'r Llywodraeth. O fewn 5 mlynedd, gwelodd dros 1,000 o aelodau'r Gymdeithas y tu mewn i waliau carchar oherwydd eu rhan yn yr ymgyrchoedd dros Sianel Gymraeg a Statws Swyddogol i'r Iaith.

Nid hap a damwain yw'r ffaith i gwmni Eingl-Gymreig o Aberystwyth gyrraedd prawf terfynol yr þyl Brydeinig un act am y tair blynedd diwethaf ac ennill ddwywaith yn olynol.

Yr oedd o wedi trio ddwywaith-dair o'r blaen ac wedi clywed dim ond llais cwrtais yn gofyn yn Gymraeg ac yna mewn Saesneg di-acen am 'ir holwr ddweud- ei-ddweud.

ie, llais rhywun, heb os nac oni bai, o gyfeiriad yr afon, a chlywodd ef ddwywaith, deirgwaith rhwng taranu gwyllt y dyfroedd, o rywle y tu isaf i 'r bont.

Fe gâi'r hogiau fynd i ymdrochi i Lyn Manod a Llyn Dþr oer, ond yr unig ddþr y byddem ni'r merched yn ei weld, ar wahân i ddþr tap ac afon fudur, oedd ehangder brawychus o fôr Morfa Bychan ryw ddwywaith y flwyddyn.

Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.

Ymwelodd Dr Tudur Jones, Dafydd Jones Caefadog a minnau ddwywaith â Chyngor Lerpwl i geisio'i annerch.

Trwy'r broses yma, fe wneir yn siwr nad yw llythyren pentref yn ymddangos ddwywaith yn y 'DNA' teithio newydd.