Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyblu

ddyblu

Codwyd dwy fil o bunnau mewn cyfraniadau, a'r bwriad yw gofyn i Lys-gennad Prydain yn Nicaragua i ddyblu'r swm ar gyfer prosiectau ar yr arfordir.

Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Ystyried hyd y gellir, fanylion y Gelfyddyd, awgrymu Alawon Gosod a cheisio'u dosbarthu, deall eu ffuffiau, y rheol o ddyblu etc.

Roedd rhai o'i phobl, er yn broffesiynol a deallus, yn esgeulus ar y gorau, ond gyda'r Nadolig a'i barti%on a'i gymdeithasu di-ben-draw i ddyblu a threblu'r gwaith, fe gymerai sawl wythnos iddi ddod i drefn eto.

Mae'r sianel ddigidol wedi llwyddo bron i ddyblu'r cynyrchiadau teledu a wneir yng Nghymru ar gyfer Cymru.

Mae BBC CHOICE Wales yn cynrychioli chwyldro, llam anferth i'r oes ddigidol, gwell ansawdd, dulliau newydd o weithio, talent newydd - gan ddyblu'r nifer o oriau o raglennu y mae BBC Cymru yn ei gwneud.

Mae'n glod i Arolygwyr Ei Mawrhydi, fel Cassie Davies a Margaret Jenkins, iddynt ddyblu eu gweithgarwch ar ôl gwrthodiad eu meistri.

Mae ei ddyfodiad yn sicr yn garreg filltir: dyma'r sianel adloniant gyntaf gan y BBC mewn mwy na 30 o flynyddoedd ers lansio BBC Dau ym 1964; a'r bloc dwy awr o raglenni di-dor nosweithiol cyntaf yn Saesneg wedi eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru - gan bron iawn ddyblu cynnyrch teledu Saesneg BBC Cymru o fwy na 600 o oriau i 1,170 o oriau y flwyddyn. Mae cryn dipyn ohono'n rhaglennu byw.

Eithr os digwydd bod pennill dros ben mewn cân neu delyneg, neu ddetholiad o awdl, bod yn rheolaidd i'r datgeiniad a'r telynor gyd-ddeall i ddyblu, neu beidio dyblu un rhan o'r gainc fel y bo'n angenrheidiol.