Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddychryn

ddychryn

Yr hyn sy'n ddychryn i mi (nad wyf eto'n hanner cant, ac a faged yn nhop Gwm Tawe a thop Cwm Aman yn y pumdegau) yw bod cynifer o'r arferion a ddisgrifia hi yn arferion yr wyf i'n eu cofio.

'Be ti isio!' neidiodd Ifor gan rythu ar Malcym mewn cymysgadd o ddychryn a blindar.

Llwyddais i'w atal heb lawer o ddychryn.

Dal i'w hanwybyddu a wnaethom nes gweld, er mawr ddychryn inni, ei bod hi'n dod allan drwy'r ffenestr ac yn camu ar do y cwt bychan a safai dan y ffenestr ac a redai i lawr o fewn ychydig i lefel yr iard.

Mi wnes i ryw dro, a dyna lle'r oeddwn i'n tynnu digon o wyneba i ddychryn llun Spurgeon ar y wal.

Yna, yng nghanol ei ddychryn mawr, clywodd ei chwaer, oedd eiliad ynghynt wedi bod yn sgrechian am ei bywyd, yn gweiddi chwerthin.

Nid dweud yr ydym na chywirwyd ychydig arno o bryd i'w gilydd yng nghwrs y tri chan mlynedd diwethaf, ond y mae'n ddychryn meddwl cyn lleied o waith cywiro a fu arno.

Cefais ddychryn, oherwydd ni allwn barablu yn Saesneg ac fe wyddai hi hynny.

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

'Dim ffiars o berig,' atebodd yntau yn ei ddychryn, heb sylweddoli ar y munud efo pwy yr oedd o'n siarad.

Trodd Carol y radio i ffwrdd yn sydyn, a pharodd y distawrwydd annisgwyl i'r ddau fachgen ddychryn digon i roi'r gorau i grio am funud.

Ei deitl oedd '...' 'Roedd y teitl ynddo'i hun yn ddigon i ddychryn gwrthwynebwyr y mudiad; awgrymai'r gair 'reserve' gadw'n ôl ran o gyngor Duw.

'Wel, bydd ddistaw neu mi fyddi di wedi ei ddychryn gyda'r holl sw^n yna,' atebodd Alun dan chwerthin.

Roedd Ysbryd yr Hen Reithordy wedi diflannu eisoes i ddechrau ar ei waith ofnadwy o ddychryn Modryb Lanaf Lerpwl.

Ond ar gyfer y diog, mae rhes o fulod ac asynnod sy'n ddigon o ddychryn wrth iddyn nhw ruthro heibio a'ch gwasgu yn erbyn y wal os mai wedi penderfynu cerdded y llwybr cul, igam-ogam, ydych chi.

galwasant a galwasant, a 'u pryder yn graddol droi 'n ddychryn, a 'u lleisiau 'n mynd yn sgrech, a 'r tri 'n rhedeg i fyny ac i lawr y lan gan chwilio yma a chwilio acw, ond yn gwybod yn dda y gallai llifeiriant gwyllt fel hwn daflu ffred a 'i gludo ymaith mewn chwinciad.