Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddychrynodd

ddychrynodd

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".