Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddychwelyd

ddychwelyd

Bydd rhaid i ni ddychwelyd at yr ysgolheigion crwydrad.

Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.

Methais â chael visa i ddychwelyd i Saudi Arabia lle bu+m am chwech wythnos ar ôl i Irac oresgyn Kuwait.

Diflannodd y Coraniaid yn y man ond cadwodd Lludd ychydig o'r ffolliaid yn fyw, rhag ofn i'r Coraniaid ddychwelyd rywbryd eto.

I ddychwelyd at deitl yr erthygl, a'r dinosoriaid diflanedig, nid yw'r esblygu sy'n digwydd ym myd natur mor hawdd ei ddeall â'r amcanu syml a geir yn yr algorithm genetig.

Mae mwy nag un aelod o'r ddirprwyaeth, sydd ar staff Prifysgol Cymru, wedi mynegi awydd i ddychwelyd i Bluefields i dreulio cyfnod fel darlithwyr yn y Brifysgol.

Cyn gadael Addis i ymweld ag Arsi, roedden ni wedi cael gorchymyn i ddychwelyd i'r brifddinas cyn iddi dywyllu.

Ond i ddychwelyd at y sefyllfa yn y llun.

Dywedid hefyd fod y cyfarfodydd gweddi min nos, a'r gyfathrach a ddilynai wrth ddychwelyd adref, yn ei wneuthur yn waeth.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

Ond ar gyrion Y Gaiman rhaid aros yn gyntaf am lymaid - a chân coeliwch neu beidio - yn Na Petko, a chyn bo neb yn sylweddoli bron y mae'n bedwar o'r gloch y bore cyn bo pawb ar y bws i ddychwelyd yn ôl dros y paith yn llawer iawn distawach nag yn ystod y daith i lawr.

(Ac oddi ar imi ddychwelyd i Gymru, mae'r freuddwyd honno am Macdonalds Moscow wedi ei gwireddu, wrth gwrs.) Cyn imi Fynd i Foscow feddyliais i erioed y medrwn i newynu a sychedu am gynnyrch bas y gymdeithas gyfalafol.

Yn y rhaglen ddogfen Zero Gravity: A Space Requiem ar BBC Dau, clywsom sut yr aeth ati i ysgrifennur cerddi (a ddarllenwyd gan Lindsay Duncan) ai theimladau wrth iddi aros iddo ddychwelyd yn ddiogel.

Roedd hi'n dechrau nosi ac efallai mai dyma'r rheswm paham fod y morwyr yn awyddus i ddychwelyd i'r llong.

Yr wyf newydd ddychwelyd o'r deheudir.

Yna roedd wedi mynd allan yn ystod yr awr ginio ac erbyn iddo ddychwelyd yr oedd hi wedi mynd.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

Gofynnodd i ni ddychwelyd yno, ynghyd â'r camera a'r tâpiau.

Ond er 'gyrru'r eryr i Gymru', ni chafodd y bardd ddychwelyd o Facedonia i droedio eto Barlwr y Glyn nac 'ardal hyfryd Rhyd Lefrith' yn Ninmael, ger ei gartref.

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

Ond i ddychwelyd i'r ysgol, daeth y newydd fod Mrs Trench i ddod ar y dydd a'r dydd.

Mae'r ieir yn fwy o ran maint na'r ceiliogod, a phan ddaw eu tro i wisgo eu côt arian i ddychwelyd i'r môr, byddant yn pwyso ychydig dros bwys.

Mae Lyn newydd ddychwelyd i'w gartref ar ôl treulio cyfnod yn Ysbyty Tysysoges Cymru.

Doedd dim disgwyl iddyn nhw ddychwelyd.

Aeth bywyd cyfforddus newydd Diane yn fwy cymhleth wrth i'w chyn-wr, Graham, ddychwelyd i'w bywyd.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Ond daeth tro ar fyd Denzil pan gafodd gyfle i ddychwelyd at ei wreiddiau a chael swydd fel gofalwr amaethyddol yn y Plas.

Er hynny, buom yno am rhyw fis, ac rwyf yn dal i ddychwelyd i'r Dwyrain Canol yn gyson, ac yn cael derbyniad gwresog iawn yno.

Nid oedd yn addo gwyrthiau a minnau'n falch o ddychwelyd adref.

Na thybygwch fod drws y drugaredd wedi ei gau yn eich erbyn tra fo anadl ynoch ac ewyllys i ddychwelyd.

Na ato Duw i'r fath aeaf ddychwelyd eleni.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Mawr y llawenydd fydd gweled eu hwynebau melynion wedi cael byw i ddychwelyd - a dychwelyd yn fuddugoliaethus, dychwelyd wedi gorffen eu gwaith!

Wrth i bawb arall ddychwelyd i Ethiopia, roedd gweithwyr UNHCR ar eu ffordd allan am nad oedd neb wedi newid y gorchymyn swyddogol i adael.

Mae nifer o aelodau'r Gymdeithas newydd ddychwelyd o Nicaragua... dyma adrodd eu hanes yno.

Os oedd ei eirie'n ein synnu, felly hefyd ei weithredoedd ac o fewn llai na phythefnos i'r mab afradlon ddychwelyd adre roedd yn enwi ei garfan gynta un a honno'n cynnwys cymaint ag wyth chwaraewr oedd heb enn;lll cap llawn i Gymru o'r blaen.

Edrychai ar ei wyneb am arwydd ei fod yn mynd i ddeffro cyn i'w wraig ddychwelyd o'r gegin.

Un diwrnod, a John Howell ac Alf Williams yn defnyddio'r uchelseinydd ym Mhontlotyn, yr oedd gwr ifanc newydd ddychwelyd adref o'r pwll, ac yn bwyta'i swper yn y gegin gefn.

Maent yn dy wahodd i ddychwelyd i ddathlu lladd y baedd.

Yr oedd Margot ar ymweliad a'i chynefin yn ardal Llanelli yn gynharch eleni ac wedi iddi ddychwelyd adref enillodd cerdd a gyfansoddodd yn sôn am ei thristwch yn gadael Cymru Gwpan Raphael Jones mewn cystadleuaeth flynyddol gan y gymdeithas Gymraeg yn Wellington.

Mae'n hen bryd i Garmon a Bleiddian ddychwelyd i'n plith a'n harwain i fuddugoliaeth ddeublyg heddychlon - ar yr hunan-serch sy'n dryllio'n ffydd ac yn erbyn estroniaid sy'n peryglu'n hetifeddiaeth.

Mae yna ystyriaeth ariannol, hefyd, ond dynar lleia o bryderon Henry wrth ddychwelyd i geisio profi y gall e wneud swyddi Cymru ar Llewod.

Ceisiodd Lisa fyw gyda Dic am gyfnod ond 'doedd cyd-fyw ddim yn hanner cymaint o sbort ag affêr a chwalodd y cwbwl yn fuan wrth i Lisa ddychwelyd at Barry John a'i dwyllo yntau hefyd.

Erbyn iddo ddychwelyd yr oedd hi wedi mynd.

Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.

Gwaethygodd y berthynas rhyngom a'r awdurdodau wedi i ni ddychwelyd i Tehran.

Talodd am ei hur ac ychwanegu cildwrn bach crintach i'r gyrrwr siomedig, gan gofio'i addewid iddo'i hun nad afradai mo'i arian hyd nes sicrhau bod ganddo ddigon o foddion i ddychwelyd adref yn ddiargyfwng.

Yma dychwela'r saith cymeriad, 'i gecran cweryla', pob un wedi'i ddedfrydu i ddychwelyd am byth i'r amgylchiadau nad oeddynt yn gallu eu derbyn tra oeddent yn fyw.

Os mai'r ferch sy'n torri'r ddyweddïad mae'n arferol iddi ddychwelyd y fodrwy er nad oes raid iddi.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio hefyd tegwch rhwng cenhedloedd yn ogystal â thegwch i genhedlaethau sydd heb eu geni ac i ddynameg esblygiad cymdeithasol - nid mater o fferru'r sefyllfa nac o ddychwelyd i rhyw 'nirvana' neu Gwales ddychmygol yw datblygiad cynaladwy.

Dywedodd ei bod yn amser iddo ddychwelyd adref.

Bu Llanwrtyd a'i ffynhonnau yn gyrchfan boblogaidd gan lowyr a gweithwyr alcan dyffryn Aman yn ystod y cyfnod hwn, ac yma y treuliai Gwilym Meudwy yntau fisoedd yr haf, gan ddychwelyd i Frynaman, Llanelli, neu Abertawe bob gaeaf.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

"Mi fydd oriau wedi mynd heibio cyn iddyn nhw sylwi nad ydw i ar y llong, ac er bydd y capten yn sicr o ddychwelyd i chwilio amdana i, mi fydda i wedi boddi ymhell cyn hynny," meddai'n ddigalon wrtho'i hun, gan wylio'r golau yn diflannu i'r pellter.

Ac wedi iddo ddychwelyd, mae'r hyfforddiant yn benodol iawn.

Rwy'n deall yn iawn pam y mae rhai pobl yn teimlo'n flin oherwydd i Chris Stephens ddychwelyd mor sydyn i'r cae rygbi wedi iddo daro a brifo Ioan Bebb mewn gêm rhwng Penybont-ar-Ogwr a Cross Keys.

Ni chymrodd yntau, mwy na'i gymydog, unrhyw sylw ohoni, ond ymhen deng munud a John heb ddychwelyd efo'r gwningen, aeth allan a chael ei fab yn gorwedd ar lawr.

Cawsant drafferth mawr i ddychwelyd at y llwybr a arweiniai i fyny'r ceunant.

Felly dewisodd y bwtler yr eiliad gyfleus honno i ddychwelyd trwy'r drysau gwydr a'm gweld yn ei dal.

Beth petai'n nosi cyn i Tudur a'i dad ddychwelyd, meddyliodd wedyn.

Mae Geraint yn ymbaratoi i ddychwelyd i Gaerllion gydag Enid, ond yn y cyfamser mae llys Arthur wedi bod wrthi'n dilyn yr helfa.

Onid yr ateb amlwg yw i'r holl bobl yma ddychwelyd i'w cartrefi yn Somalia?

Roedd penderfyniad Harry Hughes Williams i ddychwelyd i Fôn yn barhaol ar ddiwedd ei gwrs yn y Royal College - lle'r enillodd wobr Prix de Rome - yn benderfyniad dewr.

I ddychwelyd i Eifionydd.

Os byddwch yn absennol am fwy na saith niwrnod calendr byddwch yn cyflwyno tystysgrif meddygol a bydd gofyn cael tystysgrifau meddygol pellach nes y bydd tystysgrif terfynol yn caniatau i chi ddychwelyd i'ch dyletswyddau arferol.

Anaml iawn y gwnaiff sgets yn y fan a'r lle; fel yn achos Dorothea, mae'n well ganddo ddychwelyd droeon i'r un man a gadael y gweddill i'r cof a'r dychymyg.

Ond mae'n rhaid imi ddychwelyd y ffon, mi fydd yna gwmwl du ar ein ffurfafen ni nes y bydda i wedi gwneud hynny.

Ac yna dyma ddychwelyd i'r gwersyll, i noswylio, gan obeithio am well hwyl ar gysylltu â'r Cristnogion yn y bore.

Rhedodd y tair cath mâs drwy'r drws - byth i ddychwelyd - pan glywsant lais y Sais dieithr o Daventry!

Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i Gymru dros yr Wyl.

Mae un ohonynt, y Charles Darwin newydd ddychwelyd i'r wlad ar ôl siwrne o dair blynedd a'i cymerodd hi o amgylch moroedd y byd.

Cyfrifiad cwbl wirfoddol yw hwn ac mae'r Gymdeithas yn galw ar i bobl ddychwelyd y ffurflenni gan ofyn am rai dwyieithog.

Rhoddodd botel fach i mi a hanner coron.Wrth ddychwelyd ar hyd y lon gefn a throi wrth Siop Bapurau Huw Davies fe syrthiais a malwyd y botel.

Tra oedd Owain yno anfonodd Brenin Ffrainc neges frys ato yn ei orchymyn i ddychwelyd ar unwaith i'w helpu.

Tra oedd y disgyblion yn dyfalu beth i'w wneud, ac yn amau doethineb y bwriad i ddychwelyd ar y daith beryglus i Fethania peryglus am fod yr awdurdodau yn ceisio dal yr Iesu a'i ladd Tomos oedd yr un, parod i fynd gyda'r Iesu bob cam o'r daith, parod i wynebu'r canlyniadau.

Wrth i'r gweithlu ddychwelyd i'r Ynys Werdd mae mwy o'r tô ifanc yn ailafael yn y camán.

Dyma ddychwelyd at syniadau Saussure am langue (competence) a parole (performance).

Yn Nhrigle'r Cymylau, y carwn innau ryw ddiwrnod ddychwelyd i'w llwybrau cynefin ddieithr, mae'r duwiau oll yn ymgordeddu fel nadredd ansylweddol ac annelwig yn y glaw a'r niwl.

Roedd yn rhaid iddo ddychwelyd at ei gyfeillion ar unwaith.

Eisteddodd Siân i lawr yn araf a dechreuodd y gwrid ddychwelyd i'w ruddiau.

Roedd hi'n ddydd Sadwrn cyn y caniataodd ei fam i Alun fynd i Faes y Carneddau i ddychwelyd y ffon, ac ar ôl bwyta'i swper cychwynnodd ar ei daith.

Wedi iddi hi ddychwelyd i Abergele, cafodd John ar ddeall fod yr hen ddyn yn bwriadu gwerthu'i dipyn stoc.

Dangosa'r fodrwy hon iddo, ac fe fydd yn siŵr o'th gynorthwyo." Mae'n estyn modrwy aur i ti, yna gan estyn ei law i ffarwelio, mae'n dweud, "Gwell i mi ddychwelyd i Godre nawr i roi help llaw i Cedig ddod o hyd i Cadlais.

Roedd hi wedi bod mor siŵr y byddai Emyr yno ar bigau'r drain yn disgwyl iddi hi un ai ffonio neu ddychwelyd.