Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyddio

ddyddio

Wn i ddim pwy a ddechreuodd achwyn yn gyntaf am 'y beirdd modern hyn.' Efallai y gellir ei ddyddio i'r ymateb chwyrn i rai o gerddi cynnar Bobi Jones, dywedwch, yn niwedd y pumdegau a dechrau'r degawd nesaf.

Ar wahân i Ystorya Trystan, sydd yn bryfoclyd o fyr ac yn anodd ei ddyddio, y cwbl sydd gennym yw'r cyfeiriadau yn y Trioedd a chan y beirdd, cyfeiriadau sydd, oherwydd eu cyd-destun, yn anorfod yn gwta iawn, er eu bod yn awgrymu fod stori fanylach y tu ôl iddynt, stori a fyddai'n gyfarwydd i'r bardd a'i gynulleidfa.

Un grwp sydd heb ddyddio o gwbl, ar y llaw arall, ydi Diffiniad, ac yn yr un modd 'roedd clywed Hapus yn foment tyngedfennol.

Ond byddai hwnnw yn gyhoeddiad gwahanol ac mewn peryg o ddyddio.