Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfalu

ddyfalu

Rhyw ddyfalu ydw i ond dwi'n poeni efallai mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod ysgolion yn defnyddio pobol heb gymwysterau iawn i ddysgu mathemateg oherwydd y cyfyngu ariannol sy wedi bod.' ' Peth arall sydd yn gofidio Gwyn Chambers yw cyn lleied o Gymry Cymraeg sydd yn mentro i faes mathemateg.

Bu cryn ddyfalu ynghylch tueddiadau rhywiol Gadaffi.

Ni allai ddyfalu er ei fod wedi llygadu a llygadu'r lluniau lliw yn yr enseiclopidia nes roedd ei lygaid yn brifo.

"Mi fedra'i ddyfalu beth ydi hwnnw," meddai Snowt.

Mae yna ddyfalu ynglyn â dyfodol Mark Hughes fel rheolwr.

Fe rwystrai hynny i mi ddyfalu sut le fyddai yma petai Gwyn wrth y llyw.

Bu llawer o ddyfalu pwy oedd yr Arwr yn yr awdl, a phwy oedd 'Merch y Drycinoedd'. Yr oedd yr ateb i'w gael ym marddoniaeth Shelley, hoff fardd Hedd Wyn.

"Edrychwch ar ei ôl o'n ofalus nes cyrhaeddwn ni'r gwersyll newydd." "Reit, syr." Ond wedi meddwl am y peth dechreuais deimlo braidd yn flin fod y Capten mor hunanol, a phan ddaeth y lori heibio i lwytho'n taclau, a minnau'n helpu gyda'r gwaith, dechreuais ddyfalu sut y gallwn i ei ffidlan hi i gadw fy ngwely.

Fe fu cryn ddyfalu ynghylch tueddiadau rhywiol yr Arlywydd ac, unwaith, fe wahoddodd bump o newyddiadurwragedd o gylchgronau yn yr Unol Daleithiau i dreulio peth amser gydag ef, ei wraig Soffia, a'u saith plentyn er mwyn gweld pa mor normal oedd bywyd y teulu.

Gallaswn feddwl fod y bwrdd wedi ei osod yn ôl y steil ddiweddaraf, oblegid yr oedd rhai offer a gwydrau arno na allwn ddyfalu eu pwrpas.

Er hyn oll, unwaith y gollyngwyd ei ddwylo'n rhydd, edrychai ymlaen i'r dyfodol yn ddibryder, gan ddyfalu'n dawel.

Ond mae'n wahanol i ddyfalu, ac yn ddarn cwbl unigryw, am fod priodoleddau haniaethol yn fwy blaenllaw na'r elfen o ddychymyg gweledol sy'n arfer bod mewn dyfalu.

Os bydd yn rhywfaint o gymorth ichwi ddyfalu pwy ydynt - mae y ddau yn byw o fewn tafliad carreg i Eglwys St.

Ceir cyfoeth o gyfeiriadaeth ddysgedig, a llawer o ddyfalu ym mhob ystyr i'r gair hwnnw.

"Gaf i ddyfalu?" holais.