Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfnder

ddyfnder

Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.

Mae rhyw ddyfnder bob tro yn ei ganu fo.

yma, ym misoedd yr haf, byddai rhibyn o raean yn ymestyn o ganol yr afon, ond yn awr yr oedd cryn ddyfnder o ddŵr ^ r yn llyfu erchwyn lleithiog y lan, a rhai o ganghennau 'r helyg o boptu bron, bron yn cusanu wyneb yr afon.

'Mae gan Gerallt Lloyd Owen ddyfnder ym mhob peth mae e'n ddweud, mae o'n gryno, mae'r cynildeb yna yn ei waith o.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr y grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Rhyfeddwn nid yn unig at ddyfnder dy dosturi ond at ei ehangder yn cofleidio holl bobl y ddaear yn dy fwriadau grasol.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Rhaid oedd i'r llwybr hwn fod mor wastad â phosib i helpu'r ceffylau ac felly torwyd i lawr drwy'r graig mewn mannau ac ambell waith i ddyfnder o bymtheg troedfedd a mwy.