Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfod

ddyfod

Bu mwy nag un yn y Gadair Goch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf heb ddyfod ohoni'n fyw.

Wedyn ceir dau hanes am ddyfod o Faelgwn Gwynedd, ac yn ddiweddarach ei fab, Rhun, i ddiffeithio Gwent ac adroddir sut y'u trechwyd gan Gadog trwy gymorth Duw.

Eto, bodlonwn ar ei ddyfod i'n plith.

Ar ddiwedd y dydd yr oedd swper i'r helwyr yn y Bedol, ac anfonodd yr Yswain un o'i weision i'r Wernddu gyda chenadwri at Harri am iddo ddyfod i'r swper yn ddi-ffael.

Ni ddywedodd Dafydd hynny wrthyf ac ni ddywedais innau wrtho ef; ond gwyddwn ein bod ein dau fel pe buasem o hyd yn disgwyl i Abel ddyfod i mewn.

A'r ail gyfnod yr oedd a fynnai W J Gruffydd yn ei bapur i Urdd y Graddedigion, ac â Dafydd ap Gwilym yn fwyaf neilltuol; yn wir, iddo ef, Dafydd ap Gwilym oedd yr arwydd benodol gyntaf yn dangos ddyfod o'r ail gyfnod i lenyddiaeth Gymraeg.

Mae deunydd pennod gyfan yma - Pen-arglwyddiaeth Duw, Ei ewyllys i ni ddyfod i edifeirwch, i ni gael ein sancteiddio, i ni ddwyn tystiolaeth i'w enw etc.

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Ni allai ddeall, canys yr oedd popeth a ddymunai naill ai ganddo eisioes neu ara ddyfod iddo o'r pridd di-feth.

Dywedaf yn wylaidd fy mod wedi cael y fraint o fraenaru'r tir ychydig yng Ngheredigion ar gyfer ei ddyfod.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Yna fe gododd y brawd yr oedd John Hughes wedi gofyn iddo gymryd rhan; fe ofalodd nad oedd dim bwlch i roi cyfleustra i fethiant ddyfod i mewn.

Yr oedd y sêl tros yr Ysgol Sul a oedd i fod mor amlwg yn ddiweddarach yn Ysgol Haf yr Ysgol Sul wedi dechrau cynhesu hyd yn oed cyn ei ddyfod i Ebeneser.

Lwc i'r Stiward Bach i rywun ddyfod heibio ar y pryd.

Eisteddais ar dywod y draethell Gan edrych ar wyneb y lli; Canfu+m fod y tonnau yn gwynnu Wrth ddyfod yn nes ataf i.

Gwyddai eu bod ar ddyfod wrth y cryd oer a âi drosto, ac wedi eu dyfod collai bob nerth a syllai arnynt â'i lygaid, fel aderyn wedi ei lygad-dynnu gan drem y sarff.

Y mae'r gyfrol ragorol hon yn tystio i'w allu a'i wybodaeth ac yr wyf siwr ei bod hi hefyd yn ernes o gynhaeaf bras i ddyfod.

Roedd meddyliau fel hyn yn dyfod inni'n barhaus ac yr oedd gennym amser iddynt ddyfod gan nad oeddem yn gweithio yn ystod y cyfnod hwn.

O'm rhan fy hun, er credu ohonof ddyfod yr adeg i ramantiaeth hithau ddatblygu yn glasuraeth newydd, megis yr aeddfedodd dyneiddiaeth y Dadeni yn glasuraeth, eto ni welaf i y gellir ymwrthod ag egwyddor hanfodol rhamantiaeth.

Dywed un gohebydd Americanaidd yn un o brif bapurau Lloegr fod saith o gorau Cymreig a saith o gorau Americanaidd yn mynd i gystadlu; ac nid hynny yn unig, ond fod côr Eglwys y Mormoniaid yn mynd i ddyfod o Ddinas y Llyn Halen i gystadlu yn yr Eisteddfod yn Chicago.

Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau hefyd iddi gael sgwrs a Chapt.Lewis-Jones ynglyn a hyn, ac y teimlai y byddai'n anrhydedd iddo ddyfod yn noddwr Canolfan Gynghori Meirionnydd.

Rhif oed yr addewid, meddyliodd Willie'n hyderus, addewid o bethau gwych i ddyfod, nid nefoedd niwlog o fyd arall, ond yma o'i gwmpas ac yntau gyda digon o bres yn ei boced i dalu amdano.

Bum yn meddwl droeon fy hunan am yr un peth, ond ni wneuthum ddim i ddyfod a'r bwriad i ben, gan na thybiwn fod y darllenwyr yn galw am hynny....Erbyn hyn, yr wyf wedi fy mherswadio fod gofyn ymhlith y darllenwyr am nodiadau golygyddol, a'm dyletswydd innau yw ufuddhau i'r alwad.