Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfodiad

ddyfodiad

Dwi'n rhamantydd wrth gwrs, ond dwi'n hoffi meddwl cyn i ddyfodiad y peiriannau, er bod y bobl mor brysur ac yn gorfod gweithio mor galed, roedden nhw'n gweithio'n ddistaw yn y meysydd ac yn cael rhyw gyfle i ymglywed a natur fel petai.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

Byddai rhywun yn ei chael rywfaint yn haws maddau y pethau hyn hyn pe byddai Henry wedi profi ei hun yn dipyn mwy o wr gwyrthiau ers ei ddyfodiad i'n gwlad.

Cerdd alegorïol yw hon am ddyfodiad y Mab Darogan i achub Cymru.

Yn union wedi ei ddyfodiad i Dyddewi, fe'i hapwyntiodd ei hun yn bennaeth yr eglwys golegol yn Llanddewi Brefi.

Yn ystod y dyddiau cynnar hynny, pan oedd Morfudd yn newydd-ddyfodiad, ac enigma'r dro%ell yn sbeis ar dafodau'r fro, awgrymodd un o'r rhai mwy gweledigaethol ymhlith y pentrefwyr unwaith mai rhwystredig oedd yr hen wraig, ac mai chwant rywiol a'i gyrrai i nyddu'n wyllt bob dydd!

Ac, yn anffodus, yr oedd peth wmbredd o bobl yn llawenhau yn eu hail-ddyfodiad, ac nid yn unig yn llawenhau ond yn lledaenu'r pla yn ogystal.

Arhosodd Llanaelhaearn yn ardal amaethyddol wasgarog hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf pryd y trawsffurfiwyd y cylch yn llwyr gan ddyfodiad y chwareli ithfaen ar hyd yr arfordir.

Roedd yn gyflym ei feddwl,yn uchel ei gloch, a'i ddyfodiad i dy neu feudy, gyda'i chwiban neu'i gan, yn orcestra o swn; yng nghwt y moch ei wich o a fyddai uchaf, a lle na byddai roedd rhialtwch fel pe bai wedi colli'i denantiaeth.

Disgwylia'r garddwyr brwd yn eiddgar ym Mai am ddyfodiad yr haf gyda gwaith y gwanwyn, i raddau helaeth, wedi ei gwblhau.

Oddi ar hynny yr ydym wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda'r weinyddiaeth Lafur ar bob lefel yn dilyn ail ddyfodiad rhannol democratiaeth ar ôl 1997.

Bydd y meddyg yn nodi presenoldeb, neu ddyfodiad, gwendid y galon neu'r pen (strôc), haint yr ysgyfaint, annormaledd y cefndedyn ...

Oddi ar hynny yr ydym wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda'r weinyddiaeth Lafur ar bob lefel yn dilyn ail ddyfodiad rhannol democratiaeth ar ol 1997.

Y tîm Cynulliad Cenedlaethol O ganlyniad i ddyfodiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru cynhyrchwyd llu o raglenni a oedd yn darparu darllediadau eang o un o'r achlysuron pwysicaf yn hanes Cymru.

Drwy Ewrop fe gysylltid y fedwen ag ail-ddyfodiad yr Haf.

Mae ei ddyfodiad yn sicr yn garreg filltir: dyma'r sianel adloniant gyntaf gan y BBC mewn mwy na 30 o flynyddoedd ers lansio BBC Dau ym 1964; a'r bloc dwy awr o raglenni di-dor nosweithiol cyntaf yn Saesneg wedi eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru - gan bron iawn ddyblu cynnyrch teledu Saesneg BBC Cymru o fwy na 600 o oriau i 1,170 o oriau y flwyddyn. Mae cryn dipyn ohono'n rhaglennu byw.

Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?

Dechreuwyd paratoi ar gyfer Ei ddyfodiad.