Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfodol

ddyfodol

Trwy godi amheuaeth am ddyfodol yr ysgol, yr oedd y gweinyddwyr yn sicrhau fod llai o rieni'n danfon eu plant i'r ysgol, a daethai tranc yr ysgol felly'n broffwydoliaeth hunan-gyflawnol.

Ar ôl gadael pencadlys Vodafone bydd gan y cerddwyr daith o 60 milltir o'u blaenau i Lundain lle y cyflwynir sgrol i swyddfa Paul Murphy sy'n galw ar i'r Senedd ildio'r hawl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael deddfu ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.

O hynny ymlaen, llywiwyd ei ddyfodol gan ei amgylchiadau teuluol, i raddau helaeth, a pharodd yr amgylchiadau hynny i'r alwad o King's Cross, pan ddaeth, fod yn un anodd penderfynu yn ei chylch.

Nid yw'r un o'r papurau ymgynghori yn cyfeirio at ddyfodol hyfforddiant mewn swydd, nac yn enwedig sut y gellir darparu digon o athrawon (a darlithwyr mewn colegau addysg bellach ac uwch) a fydd yn medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn medru cyflwyno'r Gymraeg fel ail iaith i'r holl ddisgyblion a myfyrwyr eraill yng Nghymru.

Tua'r diwedd, er mai'r un yw'r Amser, ceir awgrym o Ddyfodol.

Nid oedd y swyddog yn gweld unrhyw ddyfodol i'r peiriant pwlfereiddio a bydd rhaid ei werthu unai i'w ddefnyddio rhywle arall, neu fel sgrap.

Dyma sefydliad addysgol sy'n angenrheidiol i ddyfodol addysgiadol ac economaidd yr ardal.

Y mae holl ddyfodol ein ardaloedd yn y fantol.

Efallai fod elfen o ffug wyleidd-dra yn yr haeriad, eithr yr oedd Gruffydd yn bendant yn ymwybodol fod y cylchgrawn wedi denu to o ddarllenwyr a oedd yr un mor uchelgeisiol ag yntau am ei ddyfodol.

Bwriedir trafod ymhellach ddyfodol Cystadleuaeth Tlws y Ddrama.

Er hynny, gobeithiaf yn fawr na fydd hyn yn amharu'n ormodol ar ddyfodol y grwp, yn enwedig gan eu bod mor frwdfrydig a gweithgar.

Mae rhai o'r 'atebion' a gynigir yn beryglus iawn i ddyfodol cymunedau.

Mi faswn i'n proffwydo bod iti ddyfodol disglair - hefo'r Rechabiaid, ond nid yn swyddfa'r Gwyliwr.' Prysurodd Dan i egluro.

Mae'r Gymdeithas wedi galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud safiad dros ddyfodol addysg yng Nghymru, ac yn galw arnynt nawr i ddangos ei hanfodlonrwydd fod Cymru'n cael ei hanwybyddu, unwaith yn rhagor, ac yn gorfod dilyn syniadau Lloegr.

Gruffydd, a ddywedodd fod dylanwad y Rhyfel hwn ar ddyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg yn anhraethol fwy na dylanwad y Rhyfel Mawr.

Penderfynodd nifer o unigolion sy'n pryderu am ddyfodol y Gymraeg ddatgan eu bwriad i sefydlu grwp newydd i ymgyrchu dros y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Amser a ddengys beth fydd ei ddyfodol yn yr hir dymor.

Dywedodd - - ei fod hefyd yn gweld fod cytundeb ar lefelau Ffioedd Rheoli yn berthnasol i bopeth ariannol ac i ddyfodol y sector annibynnol yng Nghymru.

Mae gen ti'r boddhad o weld dy ddyfodol yn canghennu 'mlaen yn dy ddisgynyddion." "Ydi, mae hynny'n beth braf," cytunodd Gruff.

Taswn i heb weithredu mi faswn i'n derbyn yn dawel y math o ddyfodol addysgol mae'r Blaid Dorïaidd yn ei wthio ar Cai, ei ffrindiau, a holl blant a phobl ifanc Cymru.

Croesawyd yn arbennig y cyfle i drafod yn helaeth ddau adroddiad sy'n allweddol i ddyfodol addysg Gymraeg, sef adroddiad gweithgor yr Ysgrifennydd Gwladol a'r gorchmynion drafft ar y Gymraeg ac adroddiad interim y gweithgor Hanes dros Gymru.

Mae hi'n fenter aruthrol ond cwbl angenrheidiol i ddyfodol pêl-droed Cymru.

Mae'r gerdd yn trafod argyfwng ysbrydol Cymru mewn cyfnod o anwareidd-dra ac yn mynegi pryder am ddyfodol y wlad o ganol y Rhyfel.

A'r cymhellion hyn yn goruwchreoli yng Nghymru, nid oedd disgwyl cael ymdrech hunanaberthol i gynnal y gymdeithas a'r diwylliant Cymreig ac i sicrhau'r amodau gwleidyddol a warantai ddyfodol iddynt.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

gall gynnig arweiniad mewn maes sydd mor allweddol bwysig i ddyfodol ein cymunedau.

Bydd Hywel Jenkins ei hunan wedi cael tipyn o amser i feddwl ar ei siwrne adre ynglyn âi ddyfodol rhyngwladol e.

Mae presenoldeb bywiog a chryf yn y meysydd hyn yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymrwymo i'r ymgyrch hon, gan adeiladau ar yr ymgyrch i Gymreigio ffonau symudol, cwmni Microsoft a chanolfannau galw.

Wedi sicrhau rhyw fath o ddyfodol i'r ysgol, edrychai'n fwy nag amlwg i rai ohonom y byddai'r un frwydr yn ein hwynebu eto ymhen pump, deg neu efallai bymtheng mlynedd, os na fyddai nifer y disgyblion yn cynyddu yn hytrach na lleihau.

Cyhoeddodd hyfforddwr Glyn Ebwy, Mike Ruddock, mai gyda'r clwb y bydd ei ddyfodol.

'Roedd dylanwad yr holl blant o Saeson yn poeni pobl fel W. J. Gruffydd, a ddywedodd fod dylanwad y Rhyfel hwn ar ddyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg yn anhraethol fwy na dylanwad y Rhyfel Mawr.

Cynhaliwyd cyfarfodydd i edrych ar ddyfodol y sector wirfoddol yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, ac yn arbennig felly, y mudiadau hynny a gyllidir trwy strategaeth sirol.

Nid yw'r cyfryngau mor barod i ddatgan pryder y Glowyr hyn am ddyfodol eu cymdeithasau glofaol.

Ymroddasant i wadu'r hyn a oedd yn digwydd o flaen eu hwynebau gan ochrgamu'r presennol ar wib ddirwystr i ryw ddyfodol diofidiau fan draw.

O ran cynyddu niferoedd, mae gan addysg a hyfforddiant rôl ganolog, cwbl hanfodol i ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Nid yw iaith yn bodoli mewn gwagle, felly mae unrhyw benderfyniadau neu bolisi%au a wneid yn y meysydd allweddol hyn yn effeithio ar ddyfodol y Gymraeg ac yn fwy na dim byd arall ar fywyd pob dydd pobl ifainc yr ardal.

Ond 'doedd neb o ddifri yn meddwl fod llawer o ddyfodol i'r 'radio-olwg' neu'r 'radio-lygad', er i'r BBC ddechrau darlledu rhaglenni teledu yn rheolaidd ym 1936.

Mae'n amlwg nad oes gan y sawl sy'n gyfrifol am eu hysgrifennu ddealltwriaeth na chydymdeimlad a Chymru na'r iaith Gymraeg ac mewn dogfen mor bwysig i ddyfodol ein gwlad gallant brofi'n ddamniol.

Ond mae'r chwaraewr wedi dweud mai gyda thîm Gordon Strachan y mae ei ddyfodol.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.

Mae mynd un cam ymhellach, a defnyddio diffiniad swyddogol y Llywodraeth o 'ysgol fach' fel un â llai na 90 o blant, yn gadael cysgod dros ddyfodol cannoedd o ysgolion.