Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyfynnu

ddyfynnu

Ond y mae dau anhawster: yn gyntaf, i ddyfynnu Crwys: 'Prin yw'r arian yn god', ac yn ail, beth a wnawn ag ef, wedi ei brynu ar wahân i ymddeol iddo, efallai?

Plygodd ei ben a'i gorff, ac er mawr syndod, aeth ati i ddarllen y llythyr dan ddyfynnu'r cynnwys yn uchel wrtho'i hunan.

mae'r llyfr yn dilyn stori Catatonia o'r cyfarfyddiad cyntaf rhwng Cerys a Mark yn gig Rhyw Ddydd ym Mhontrhydfendigaid (ie, myth yw'r stori am gyfarfod wrth byscio yng Nghaerdydd), trwy ddyfynnu erthyglau ac adolygiadau o bob math o gyhoeddiadau ar hyd a lled Cymru ar byd - canmoliaeth o bob cyfeiriad.

Y wir farddoniaeth sy'n sicrhau ymateb ysgytiol gyffrous yw honno pan yw'r cydio trosiadol yn uno'r annhebyg, y gwrthwynebus a'r ymddangosiadol anghydnaws - ac os caf ddyfynnu, heb ennyn chwerwedd rhai beirniaid, eiriau Coleridge, ...

Ond er y cwbl, llonnai ei lais a'i wynepryd wrth sôn am y sêr, neu ddyfynnu llinellau o nosfeddyliau Young, neu Gywydd y Farn gan Oronwy.

Wrth iddo annerch Comisiwn Cefn Gwlad Cymru, gwelodd y Tywysog Charles yn dda i ddyfynnu geiriau'r diweddar Ddoctor Saunders Lewis (o bawb!):

Os caniatâ Llys yr Eisteddfod i mi ddyfynnu rhai o'r ceisiadau (ac rwy'n siŵr y gwna þ dim ond i mi foesymgrymu yn y ffordd briodol) yna mi gawn ni sbort am fisoedd yn y Gornel 'ma.

Yr oedd sgwrs yn mynd yn beth bratiog unsillafog wrth i bawb siarad yng nghlyw ei gilydd a'u llygaid at y gornel, a lle byddai cynulleidfa mewn cyngerdd a drama a darlith, dim ond cnewyllyn o ffyddloniaid oedd yn dal i ddod, a 'lle byddo dau neu dri' yn cael ei ddyfynnu yn amlach ac amlach.