Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyled

ddyled

Bydd gennyf ddyled byth i dri yn arbennig, sef Mrs Burrell (daeth yn Mrs Burrell Jones yn ddiweddarach), John Roberts, Y Graig a'r annwyl Bob Edwards.

Tua diwedd honno dywed: 'Os gyfynnir ple dysgodd (Dafydd) ganu a charu mor gyffredinol, rhaid cydnabod ei ddyled anuniongyrchol i Drwbadwriaid Ffrainc, fel y dangoswyd eisoes gan Prof Cowley, Stern, Prof W Lewis Jones a Mr W J Gruffydd.

Rydw i wedi'i gadw fo a'i fam am ddeng mlynedd, ac mae'n hen bryd iddo fo ddechrau talu peth o'u ddyled yn ol imi." Gwylltiodd Rees yn gaclwm.

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion.

Yr oedd y streic wedi ymledu dros ryw draean o holl faes glofaol Deheudir Cymru, ac yr oedd teuluoedd y streicwyr yn mynd i ddyled er mwyn cael angenrheidiau bywyd, a'u hiechyd yn dioddef yn arw o ganlyniad i ddiffyg ymborth.

Trwy undeb a chydweithrediad pawb o'r gynulleidfa, yn frodyr a chwiroydd, llwyddwyd hefyd i glirio'r ddyled oedd yn aros ar derfyn yr holl weithgarwch.

Cytunodd Pengwern i fynd am chwe mis o seibiant ar yr amod fod trefniadau'n cael eu gwneud i dalu'r ddyled oedd ar y capel lleol a hefyd i ofalu am y plant amddifaid.

Penderfyna Tref werthu ei gar i dalu'r ddyled hon - ond penderfyna'r Mini bach dorri i lawr a rhaid talu'n hytrach am ei gludo i ebargofiant.

Yr ydym oll, fel Cymry, yn ei ddyled.

Ond fel y gwelodd Ifor Williams, prif gymwynas Glyn Davied ydoedd galw sylw at ddyled Dafydd ap Gwilym i'r Gogynfeirdd a'n cynorthwyo i'w mesur.

Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.

Credai L Chr Stern fod beirdd Cymru yn y ddeuddegfed ganrfi a'r drydedd ar ddeg yn gwybod am y farddoniaeth a oedd yn ei bri yn Ffrainc, a'u bod wedi dod dan ei dylanwad; a pharthed Dafydd ap Gwilym, efallai nad oedd yn uniongyrchol ddyledus iddynt, ond am ei ddyled anuniongyrchol nid oedd dim amheuaeth.

Gwyddom hefyd pa mor barod yr oedd Evan Jones i roi benthyg arian i'w gwsmeriaid pan fyddai'r esgid fach yn gwasgu, yn ogystal a gadael i ddyled y 'llyfr siop' redeg am flynyddoedd.

Ni allai'r alltud anghofio 'aelwyd y bwthyn gwyn' pes mynnai; roedd iddo'n 'bur haddef anhun a breuddwyd' ac o sylweddoli ei ddyled iddi, 'O ddedwydd aelwyd!', rhaid oedd ymdynghedu i ailgodi ei hallor ac addoli eu Duw 'mewn dieithr oror'.

Ni fynnai ef, fe ymddengys, fod ynryw ddyled ar Ddafydd i'r Trwbadwriaid: yn hytrach yr oedd ei brif ddyled i'r traddodiad barddol brodorol, i draddodiad barddol 'gwerinaidd' y 'bardd teulu'.

Wrth gwrs, ac yn naturiol, yr oedd rhai Cymry a hoffai gredu nad oedd Dafydd nemor yn nyled neb, ac yr oedd eraill yn barotach i gredu ei fod yn ddyfnach ei ddyled i'w ragflaenwyr nag i neb estron.

y rhai sydd yn cael trafferthion i ddeall y gwaith, - y rhai a allai droi'n wrthnysig ac yn anodd i'w rheoli, (yn arbennig felly os yw diffyg dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd ymysg cyfoedion, neu yn ddiweddarach yn eu gyrfa uwchradd, pan fo dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd), - y rhai galluog sydd angen eu hymestyn;yn bendant nid un o'r diwinyddon defnyddiol fel y 'Dr Goodwin, Dr Owen, Dr Gill, Marshall, Hervey, Usher' a'r lleill, yn Anglicaniaid a Phiwritaniaid, y cydnabu Williams Pantycelyn ei ddyled iddynt: mewn chwarter canrif o ddarllen ni ddeuthum ar draws un Methodist o'r genhedlaeth gyntaf a ynganodd ei enw hyd yn oed.

Serch hynny, carwn feddwl fod pob un o'r canlynol yn barod i gydnabod ei ddyled i'r hen blas: 'J.

I glirio'r ddyled, bydd rhaid i Rhys wenud heb y swm yma am gant ac ugain o wythnosau.

Gwelsom nad yw'r Esgob Morgan yn brin o ddatgan ei ddyled i'w gynorthwywyr, ond nid yw'n rhestru John Davies yn eu plith.

Mesur tymor byr yn unig yw cardiau credyd o'r fath, a'r nod yw clirio'r ddyled cyn gynted â bo modd.