Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyletswydd

ddyletswydd

Ers Deddf Tai 1998 mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu lle i fyw i'r digartref.

Ond, y mae'n ddisgwyliad newydd fod gan y Bwrdd y ddyletswydd i gynghori'r system ar weithredu pob sefydliad addysgol, i'r graddau y mae'n gweithredu cynllun iaith beth bynnag, ac anhebyg y byddai gan y Bwrdd yr amser (sef y staffio) i fedru monitro neu arolygu'r fath bentwr o gynlluniau er mwyn cyflawni'r ddyletswydd statudol yn effeithiol.

Er mawr loes i Harri Gwynn ceryddwyd ef gan nifer o wþr blaenllaw y genedl am feddwl derbyn y fath ychwanegiad i'w gyflog a dywedwyd wrtho mai ei ddyletswydd oedd ad-dalu cyfran sylweddol ohono.

Ar yr un pryd tynnodd ef sylw y ddirprwyaeth at ddyletswydd y Llywodraeth i sicrhau cludo bwyd a phobl, ac i ddiogelu'r cyhoedd ac eiddo.

Trafodwch y ddyletswydd foesol sydd arnom i gadw harddwch naturiol y blaned a chynnal ei hadnoddau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau a chael budd ohonynt.

Wedyn dyma Waldo yn ei atgoffa mai siopwr oedd, ac mai ei ddyletswydd oedd gwerthu lamp iddo os oedd yn dewis prynu un.

Yr hyn a olygir yw y dylai pa gredoau bynnag sydd gan y bardd fod hefyd yn deimladol angerddol ganddo, yn hytrach na bod yn ddogmâu a wasanaethir o gydwybod neu o ddyletswydd.

Yr oedd ganddi hi ddyletswydd iddi hi ei hun yn anad neb, dyletswydd i ddod o hyd i'w rhyddid.

Margaret 'ar ddyletswydd'.

A mynd o ddyletswydd...i blesio mam.

Fe ddyffeiai hi Iestyn i sôn rhagor wrthi am ddyletswydd.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Ei gyrru'n gynddeiriog a wnâi trwy rincian am ei wreiddiau a'i ddyletswydd o a hithau i wrthsefyll pobl ddwad yn mynnu eu hawliau a chodi eu lleisiau hyd yr arfordir.

Difodi achos yr ofn hwn yw'r ddyletswydd gyntaf.'

Mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd roi perfformiad teilwng.

Ond mynnodd y siopwr mai ei ddyletswydd ef fel cyfaill a Christion oedd peidio â gwerthu iddo rywbeth nad oedd arno mo'i angen.

Williams a drosodd The National Being i'r Gymraeg ("Y Bod Cenhedlig"), canys yr oedd ychydig egwyddorion elfennol, eglur yn ddigon iddo ef, a ystyriai weithredu gwleidyddol yn ddyletswydd flaenaf.

Ond roedd y ddyletswydd tuag at y fro a thuag at yr Eisteddfod ei hun i'w hystyried ac yn y pen draw teimlai nad oedd modd gosod dymuniadau personol o flaen y ddyletswydd honno.

Ar ôl hir grafu pen ac ymchwilio, yr unig beth y gallem feddwl amdano oedd y drosedd o geisio camarwain a rhwystro Crwner Sir Aberteifi yn ei ddyletswydd.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

'Roeddwn i'n digwydd bod ar ddyletswydd pan ffoniwyd, a gan mod i'n adnabod y teulu, 'roeddwn i'n falch o gael mynd i'w ŵydd.

Mae'n ddyletswydd arnaf i'w helpu o ar 'i yrfa fel artist..." "Mae gyrfa Aled wedi 'i setlo.

Aeth y ddyletswydd deuluaidd hefyd yn beth dieithr yn ein cartrefi a chollwyd y parchusrwydd hwnnw at y pethau sydd yn cyfrif mewn bywyd.

'Mae'r gêm hon wedi bod yn dda i mi', meddai, 'a theimlaf ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i roi rhywbeth yn ôl iddi.' Ei gariad at y gêm a'i rhwydodd i rengoedd dethol dyfarnwyr Pencampwriaeth y Siroedd, gan ddilyn esiampl y ddau Gymro chwedlonol, Dai ac Emrys Davies.

Yn unol âg argymhellion Warnock, rhoddodd y Ddeddf hon ddyletswydd ar bob Awdurdod Addysg Lleol i adnabod plant ag anghenion addysgol arbennig.

Lle cred yr AALl bod yr anghenion cymaint fel bod rhaid iddynt hwy, yn hytrach na'r ysgol, benderfynu ar y ddarpariaeth addysgol arbennig, yna mae'n ddyletswydd arnynt i wneud datganiad ffurfiol o AAA sy'n arenwi anghenion y disgybl ac yn gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer.

Perthynai i genhedlaeth nad oedd yn cydnabod Cymru a Chymraeg yn ddyletswydd.

"Mae'n ddyletswydd arnon ni i fynegi i genhedlaeth o bobol beth yw natur eu hanes nhw."

Daeth Hugh Rawlins a Thomas Lee â'r cyhuddiad yn ei erbyn ei fod wedi ymdroi tan fis Ebrill cyn dod, "to the great disorder of the King's majesty's subjects, lack of reformation, and ministration of justice." Ond atebodd Ferrar nad arno ef oedd y bai am hynny oherwydd yr oedd ei ddyletswydd i'r brenin yn golygu fod yn rhaid iddo fod yn bresennol yn y senedd yn Llundain.

Nid oes gennyf amheuaeth ei bod yn ddyletswydd ar bob Undebwr gwerth ei halen ymladd deddf mor wleidyddol anghyfiawn a'r ddeddf hon.

"Mae'n debyg fod y gweddill ohonoch chi'r criw yn credu fod y dasg yn amhosibl, ond mae'n ddyletswydd arnon ni droi'n ôl a cheisio dod o hyd iddo." Cytunodd pawb.

Roedd hi'n ddyletswydd arni ddysgu'i phlant sut i fihafio, fel roedd hi'i hun wedi cael ei dysgu, mynnai Modryb.