Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddymuniad

ddymuniad

Ei ddymuniad o ydi'r drefn sydd ohoni.

Mae'r math o gymorth a ddewisir yn dibynnu ar ddymuniad personol, yn seiliedig ar werthoedd ac adnoddau'r unigolyn.

Byddai'r person cyntaf i gyffwrdd y goron ar y fan bost yn gallu cael unrhyw ddymuniad a hoffai; gallai'r ail berson gael cusan ond câi'r trydydd person siom.

Gair Cymraeg yn golygu 'taer ddymuniad, eiddgarwch' sydd bellach mi gredaf yn bur anghyffredin yw dihewyd.

Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw.

Y mae meithrin ymagwedd Ewropeaidd hefyd yn rhan o ddymuniad y Cyngor.

Er bod job hir a digalon o'i flaen o, mi fydda fo wedi hen orffen ymhell cyn i ddymuniad y sloganwr gael ei wireddu.

Mi fydd mwy o anghydweld os ydy Henry yn cael ei ddymuniad, sef mynd â hyfforddwr newydd Lloegr, Andy Robinson, gyda fo i Awstralia.

Er nad oeddem yn rhy hapus o adael ein gwesteiwyr mor fuan â hyn, dyma gytuno â'i ddymuniad.

Yn ystod abadaeth Lewis Tomas hefyd y canodd Tomas ab Ieuan ap Rhys ei gwndid nid anenwog lle sonia am ei gysylltiad bore a Margam ac am ei ddymuniad i gael ei gladdu yno.