Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddynoliaeth

ddynoliaeth

Gwnaeth y Priodor ei orau glas i guddio'i ofn tan haenen o ymresymu llee%nog ynglŷn â natur pechod a'r modd y dewisodd Duw ddatguddio'i hun i'r ddynoliaeth.

Mae'n anodd i ni, sy'n hedfan i Awstralia mewn mater o oriau, ddychmygu'r fath brofiad; wythnosau lawer wedi eu carcharu o fewn terfynau llong gymharol fechan, heb gysylltiad o gwbl a gweddill y ddynoliaeth.

Elfyn Richards yn arbennig iawn i fywyd yr ieuenctid, a mawr oedd edmygedd pawb o'i ysbryd hynaws a'i ddynoliaeth dda.

Lleihau urddas dyn a thlodi ei ddynoliaeth a wna'r agwedd hon at gymundodau dynol, ac i'r graddau y gwneir hyn y mae'n wrth-Gristnogol.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Fel yr aeddfedai yr unigolyn y tu mewn i'r genedl, felly hefyd yr oedd y genedl yn cael ei phriod le yn y Ddynoliaeth.

O ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen cynyddodd graddfa'r marwolaethau ymhlith plant nes iddi ymddangos fod bywyd y teulu a dyfodol y ddynoliaeth yn gyffredinol dan fygythiad.

A chael cweir iawn gan i gyd-dduwia am roi rhywbeth mor ddanteithiol i ddim ond mymryn o ddynoliaeth.

Nis gwelir fel rhywbeth hanfodol gynhenid yn y ddynoliaeth, yn halogiad meidrol, ond fel rhywbeth a amlygid mewn troseddau moesol megis anghyfiawnder,anonestrwydd, gorthrwm, trais a chreulondeb.

Hwn, yn ôl un awdur o Sais, yw'r peryclaf o'r drygau sy'n bygwth y ddynoliaeth heddiw.

Mae'r môr wedi bod yn ffynhonnell ffrwythlon o fwyd i ddynoliaeth dros filoedd o flynyddoedd ac yn y degawdau diweddaraf mae posibiliadau eraill wedi dod i'r fei.

Syrthiodd mewn anufudd-dod, gan ei lygru ei hun a'i ddisgynyddion, y ddynoliaeth.

Mae'n mudiadau chwyldroadol ni yn ymwneud â'r holl fyd, a'r ddynoliaeth gyfan.'

Cyd-ddibynnol yw cenhedloedd y ddynoliaeth, a syniad diffrwyth yw annibyniaeth, a elwir weithiau yn sofraniaeth absoliwt neu ddiamod.

Pan ymgnawdolodd Mab Duw a'i wneud yn ddyn, ailadroddodd ynddo'i hun linell hir y ddynoliaeth, gan roddi inni oll achubiaeth lwyr, fel y derbyniem yng Nghrist yr hyn a gollasom yn Adda ( sef i ni fod ar lun a delw Duw).

Gŵr cyffredin, gonest, dewr - gyda'r gallu anghyffredin wrth adrodd ei hanes trist i wneud inni sylweddoli fod gobaith i ddynoliaeth, nid drwy gasineb, ond drwy Gariad.

O'i eni yng nghroth y forwyn, uniaethodd Iesu ei hun â'r holl ddynoliaeth o bob oes.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sef canrif y gerdd 'Calanmai' gan fardd anadnabyddus, fe edrychid ar holl brofiadau'r ddynoliaeth yng nghyd-destun cylchdro'r tymhorau a chyd-ddibyniaeth bywyd a marwolaeth.

Dywedodd Marx nad grymoedd y tu allan i ddynoliaeth oedd yn penderfynu ei thynged, ond yn hytrach yr oedd y benderfyniaeth honno wedi ei gwreiddio yng ngweithredoedd cymdeithasol pobl.

Y mae'n iawn ymdrechu tra galler dros gynnal yr iaith Gymraeg yn iaith lafar ac yn iaith lên oblegid mai felly'n unig yn y darn daear hwn y gellir parchu'r ddynoliaeth a fagwyd arno ac y sydd eto'n ei arddel.

Mae'n mudiadau chwyldroadol ni yn ymwneud â'r holl fyd a'r ddynoliaeth gyfan.'