Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddyrnau

ddyrnau

Un parod efo'i ddyrnau oedd Owain Goch yr hynaf ohonynt ond am yr ail fab dywedid bod hwn yn graffach na'i gyfoedion.

Doedd George Jones ddim yn un am ddefnyddio'i ddyrnau, hyd y gwn i, ond fe wyddai mai arbed casgliad y Sul hwnnw oedd bwysica iddo fo.

Ef oedd y medrusaf o ddigon yn ein hysgol ni gyda'i ddyrnau neu gyda sling.

Welais i 'rioed ferch â chymaint o "awydd" â'ch Rhian chi.' 'Caea dy geg, y mochyn!' Ymsythodd Dilwyn wrth droi at Gary a chau'i ddyrnau ar ei lin.

A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.

Roedd catharsis y noson flaenorol wedi gadael ei ôl, fodd bynnag; cleisiau glasddu a chlwyfau dwfn ar ei ddyrnau a'i goesau, ond eisoes roedd ei system fetabolig gyflym yn gweithio'n ddiwyd i ddileu'r rhain.

'Nawr, nawr, paid â gadael i'r gwir dy boeni di.' Cododd Dilwyn un o'i ddyrnau ond disgynnodd llaw Ifan yn drwm ar ei fraich a'i rwystro.

Safai darnau o chwys bron yn herfeiddiol ar ei wyneb, ac roedd ei ddyrnau bron yn wyn wrth ddal y llyw'n dynn.