Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddysg

ddysg

Efallai fod ei wybodaeth yn amlycach na'i ddysg, a'i ddamcaniaethu'n drech na'i ysgolheictod ar adegau, ond prin fod neb o'i flaen wedi ymchwilio'n ddycnach i holl agweddau hanes Mon na Henry Rowlands.

Dros amser, fe drodd dyneiddiaeth o fod yn fudiad a nodweddid yn bennaf gan barch at ddysg yr Hen Fyd, mudiad a wreiddid yn arbennig yn y diwylliant Lladin clasurol, i fod yn fudiad a oedd yn hybu'r ieithoedd brodorol, ac, i raddau llai, ddiwylliant brodorol yn ogystal.

Ychwanegwyd yr iwaleiddio: Y mae aristocratiaeth neu oligarchiaeth, a garfer y gair sy'n well gwrthwyneb i ddemocratiaeth, yn meddwl rheolaeth yr ychydig dros y llawer, yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd gan yr ychydig ar bethau materol y byd, ac wrth y pethau materol meddyliaf ei gyfoeth, ei allu cymdeithasol, ei allu politicaidd, ei ddysg, - popeth sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r rhith yr ydym yn byw yn ei ganol.

Enillodd y rhain fri mawr, am ddysg yn ogystal ag am dduwioldeb, pan sefydlwyd hwy yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.

Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.

Mewn geiriau eraill, nid rhywbeth a goleddid gan wŷr di-ddysg a chyfyng eu gorwelion ydoedd y myth Brythonaidd yng nghyfnod y Dadeni.

Iddo ef nid oedd holl ddysg y Dadeni, y toreth o opiniynau gwrthgyferbyniol, y llifeiriant o ddamcaniaethu athrawiaethol yn ddim ond rhwystrau ar ffordd dyn i gyfathrachu'n uniongyrchol â Duw.

Ni fedrai ond llenor gymysgu mor gyfrwys holl ddysg Ysgol Hanes Rhydychen ad addysg yr Ysgol Sur a blodau ac adar ac arwyr a'r un bersonoliaeth ryfedd yn eu cynnwys oll ac yn ei mynegi ei hun trwyddynt.

Fel yr awgrymwyd eisoes fe fyddai ei gwrs diwinyddol yng Nghaergrawnt wedi gwneud Morgan yn bur hyddysg yn hanes y cyfieithu ysgrythurol a amlinellwyd uchod, ac fe roddai'r ddysg hon iddo safon i allu cloriannu'n ystyrlon yr hyn oedd eisoes wedi ei gyflawni mewn perthynas â chael yr Ysgrythurau yn Gymraeg.

Yn ail, am iddo adeiladu ar y ddysg honno trwy ddarllen yn ddeallus y llwyth llyfrau ar fudiadau a sectau a phersonau canol yr ail ganrif ar bymtheg a gynhyrchwyd gan haneswyr Lloegr yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, corff gwych o waith.