Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deallodd

deallodd

Deallodd y ddau hen gi mai Rex oedd y gorau ohonyn nhw o ddigon.

Rywsut, deallodd mod i o Gymru ac fe fynnodd ganu Calon Lân i mi.

Deallodd Jock a minnau yr arwydd bron yr un pryd, a brysio i ateb fel deuawd, "Dim cythral o berig." Yna troi ein cefnau, a chymryd arnom nad oeddem wedi ei gweld.

Nawr, os deallodd o hyn, mae on gwir haeddu bod yn Brifweinidog.

Deallodd Idris ei chynllun i'r dim - taflodd y bêl â'i holl nerth a'i hanelu'n union at lygad y cawr.

Cedwir symudiad y darn trwy gyfrwng saith berf arall sydd yn cynnwys dau gyfnewid o ran person, o Robin i'r forwyn, ac yna i'r feistres, a sawl cyfnewid o ran ansawdd: 'Cymrodd', 'Deallodd', 'ymddigiodd',

Deallodd honno'r tric, ymddigiodd yn aruthr, daeth i'r gegin, rhuthrodd ar Robin fel arthes, am daenu chwedlau o'r fath honno am ei mab hi - galwodd ar ei cherbydwr, ac archodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau.

Yn ffodus yr oedd ganddi sens o hiwmor a deallodd y sefyllfa.

deallodd drannoeth fod y gweithiwr telegraff yn lyons dan orchymyn i ddaearu'r wifren hanner ffordd trwy'r arbrawf, i ddangos i'r comisiwn nad oedd twyll yn bod ; byddai i'r negesau fod wedi parhau yn ddidor ddangos mai ffug oedd y cwbl, ac fod gan hughes gyfaill cyfagos yn cymeryd arno fod yn delegraffydd yn lyons bell.

Deallodd Glyn oddi wrth y sgwrs nad oedd Ffrangeg Abdwl yn dda iawn ac nad oedd yn gallu cynnal sgwrs ynddi ond am fod Pierre ac yntau yn gallu siarad Cymraeg, siaradent yn yr iaith honno.