Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dealltwriaeth

dealltwriaeth

ansawdd yr addysgu - gan gynnwys maint a phriodoldeb disgwyliadau'r athrawon am y disgyblion a'r amrediad o strategaethau addysgu a ddefnyddir ganddynt i gyflwyno ffeithiau a gwybodaeth, i roi ymarfer mewn sgiliau ac i sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth.

* arenwi person cyswllt a ddylai allu darparu dealltwriaeth gyffredinol ynghylch y sefydliad croesawu.

Yn sgîl hyn datblygodd dealltwriaeth dawel rhyngof i a Thalfan.

Gellir barnu i ba raddau mae'r ysgol yn llwyddo i ddatblygu'r dimensiwn Cymreig a'r themâu trawsgwricwlaidd drwy ansawdd dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau disgyblion fel yr arddangosir hwy mewn gwersi ac yng ngwaith y disgyblion.

Lle bo'r safonau'n anfoddhaol, bydd disgyblion yn ddihyder wrth siarad ac yn methu cyfathrebu'n effeithiol; dealltwriaeth gyfyngedig sydd ganddynt o'r hyn a glywant ac ni allant gynnal sgwrs estynedig; cyfyngedig yw'r rhan y maent yn ei chwarae mewn cyflwyniadau a thameidiog yw eu cyfraniadau at drafodaeth grŵp a dosbarth.

safonau cyrhaeddiad - gan gynnwys cwmpas gwybodaeth y disgyblion am y pwnc a'u gallu i gymhwyso'r wybodaeth hon i sefyllfaoedd newydd; maint eu dealltwriaeth a'u meddiant o sgiliau; eu canlyniadau yn asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mewn arholiadau cyhoeddus.

Yn rhy aml rhoddir blaenoriaeth i'r dechneg gan anwybyddu dealltwriaeth ddigonol o sefydliadau a pherthnasau sydd ynghlwm wrth amryfal agweddau o'r economi.

Y mae Cymdeithas Gwaith Maes yn hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r amgylchedd trwy ei astudio, a thrwy rannu gwybodaeth a phrofiad ohonno.

Mae'r Cyngor hefyd yn bryderus ynglyn â'r diffyg dealltwriaeth o fewn y BBC o gwricwlwm addysg cenedlaethol arbennig Cymru.

Er gwaethaf y gwahaniaeth pwyslais rhwng traddodiad y Dwyrain Uniongred, â'i sôn mynych am lygredigaeth a marwolaeth, â'r Gorllewin Catholig â'i sôn yntau am bechod ac euogrwydd, 'roedd yr eglwys gynnar yn un yn ei dealltwriaeth o weinidogaeth Crist fel aberth drud a offrymwyd i Dduw er mwyn cyflawni iachawdwriaeth dyn.

Fodd bynnag, mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol o gyfraniad agweddau eraill, megis cyd-wasanaethau a gweithgareddau trawsgwricwlaidd, a all fod o gymorth i hyrwyddo safonau da a datblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth disgyblion.

Haera ef mai pwrpas swyddogol yn hytrach nag addurnol sydd i'r cymariaethau a'u bod yn taflu golau llachar ar gymeriad a digwyddiad yn ogystal â dwysa/ u'r adnabyddiaeth a'r dealltwriaeth.

A yw disgyblion yn dangos cynnydd yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau ac yn arddangos hynny'n llafar ac yn ymarferol?

* dealltwriaeth arwynebol o gysyniadau a dealltwriaeth lawn.

Yn y gynhadledd cytunwyd ar ddau dealltwriaeth, un ohonynt ar Newid Hinsawdd sy'n ymdrech i reoli y difrod i'r atmosffêr, a'r ail yn Ddealltwriaeth ar Amrywiaeth Bywydegol (Biodiversity) - sy'n clymu llywodraethau'r Byd i amddiffyn ein rhywogaethau lu.

Gwerth y Pecyn Hwn i Chi Bwriad y pecyn hwn yw eich helpu chi yn y gwaith o drefnu addysg ddwyieithog a chreu ymwybyddiaeth yn athrawon eraill yr ysgol o sut y gallai: y defnydd a wneir o iaith hybu dealltwriaeth o bwnc a sut y gallai pwnc helpu i ddatblygu iaith, yn arbennig yr ail iaith.

Y gymysgedd hon o arddulliau dysgu sydd yn rhoi'r cyfle gorau i ddisgyblion ddatblygu eu galluoedd ieithyddol a'u dealltwriaeth bynciol yn gyfochrog gan fod pwrpas real i'r ddeubeth mewn sefyllfa o'r fath.

Mae ein dealltwriaeth o'r Bydysawd wedi gwella wrth inni edrych yn bellach o'r Ddaear.

Yn dilyn o hyn, mae diffyg dealltwriaeth yn bodoli am y prosesau cymhleth sy'n digwydd yn ein dyfnderoedd - o Fae Ceredigion i ehangder y Môr Tawel.

Yn ogystal â hyn, gall delwedd ddwyieithog fod yn fantais y tu hwnt i Gymru, yn enwedig yn y marchnadoedd hynny lle mae delwedd unigryw yn hollbwysig, neu lle byddai dangos dealltwriaeth o amlieithrwydd yn eu huniaethu â'r farchnad gynhenid.

Mae ymchwil bellach i brosesau esblygiad yn parhau, yn ogystal ag ymchwil i geisio trosi'r gwelliant yn ein dealltwriaeth o esblygiad i fyd y cyfrifiadur.

y rhai sydd yn cael trafferthion i ddeall y gwaith, - y rhai a allai droi'n wrthnysig ac yn anodd i'w rheoli, (yn arbennig felly os yw diffyg dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd ymysg cyfoedion, neu yn ddiweddarach yn eu gyrfa uwchradd, pan fo dealltwriaeth yn arwain at ddiffyg hygrededd), - y rhai galluog sydd angen eu hymestyn;yn bendant nid un o'r diwinyddon defnyddiol fel y 'Dr Goodwin, Dr Owen, Dr Gill, Marshall, Hervey, Usher' a'r lleill, yn Anglicaniaid a Phiwritaniaid, y cydnabu Williams Pantycelyn ei ddyled iddynt: mewn chwarter canrif o ddarllen ni ddeuthum ar draws un Methodist o'r genhedlaeth gyntaf a ynganodd ei enw hyd yn oed.

* hyrwyddo gwell dealltwriaeth o addysg a diwydiant

Dealltwriaeth y Gymdeithas yw fod bwriad pendant i ddiwygio hyn.

Yn ychwanegol at bynciau, mae gofyn i arolygwyr ystyried dwy agwedd arall ar y ddarpariaeth gwricwlaidd: (i) y Dimensiwn Cymreig a (ii) y themâu trawsgwricwlaidd (addysg yrfaoedd, dealltwriaeth gymunedol [gan gynnwys dinasyddiaeth], dealltwriaeth economaidd a diwydiannol, addysg iechyd ac addysg yr amgylchedd).

Ymhlith y pynciau a drafodir ar gyrsiau Gwyddoniaeth TAR y mae: Y Cwricwlwm Cenedlaethol Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn eich galluogi chwi:

Anaml y bydd disgyblion yn darllen a chul yw amrediad eu darllen; ni fyddant yn darllen yn rhwydd a dealltwriaeth rannol neu ansicr sydd ganddynt o'r hyn a ddarllenant.

Ond o gymryd y cwricwlwm cyflawn, mae'n bosibl i ddisgybl gael profiad ohonynt yn eu dysgu pynciol;- dealltwriaeth lythrennol ac ad- drefniadol yn y pynciau dyniaethol, dealltwriaeth gasgliadol yn y pynciau gwyddonol; a'r camau beirniadol a gwerthfawrogol wrth ymdrin a llenyddiaeth, celf a thechnoleg.

Gweithgareddau aildrefnu'r testun a'u gwerth i ddatblygu dealltwriaeth bynciol a datblygiad darllen plentyn.

Roedd tuedd yn y ddau achos i ailddweud llawer yn y sefyllfa ddosbarth cyfan gan symleiddio cystrawen a thraddodi'n fwy uniongyrchol yr eildro er mwyn sicrhau dealltwriaeth.

Mae dealltwriaeth seryddion wedi datblygu o'r cyfnod cynnar pryd yr oedd yn rhywbeth a seiliwyd yn bennaf ar ofergoel i amser Galileo a Newton, yn yr ail ganrif ar bymtheg, pan roddwyd seryddiaeth a gwyddoniaeth yn gyffredinol ar sail 'gwyddonol', sef cymharu, arsyllu ac arbrofi.

Credwn bod sicrhau mwy o ryddid i gyfnewid syniadau rhwng addysg a busnes yn datblygu amgenach dealltwriaeth rhwng y ddau faes ac yn foddion i adeiladu partneriaethau llwyddiannus.

Bydd y rhaglenni'n hybu: dealltwriaeth plant o ardaloedd a threftadaeth Cymru.

Bu Ffeil, y rhaglen newyddion i bobl ifanc, o gymorth wrth feithrin dealltwriaeth ddyfnach o oblygiadau datganoli.

Heb y dechnoleg newydd hon mae'n eithaf sicr na fyddai dyn wedi glanio ar y lleuad ac na fyddai ein dealltwriaeth o'r bydysawd, y gofod a'n planed ni ein hunain, yn agos mor eang.

Anfonwch gopi%au at y canlynol: Sefydliad croesawu; pennaeth; cydgysylltydd datblygiad staff; staff sy'n gyfrifol am arweiniad mewn addysg gyrfaoedd, dealltwriaeth economaidd a chyd-weithwyr perthnasol eraill; trefnydd lleoliadau athrawon.

* gadw trefn a rheolaeth ar yr hyn a gyflwynir ac a ddysgir trwy benderfynu ar agweddau megis: -faint o'r gwaith y dylent hwy ei gyflwyno, -beth sydd yn addas i'r disgyblion ei wneud ac a fydd yn dangos dealltwriaeth o'r prif syniadau a chysyniadau, -faint o amser sy'n addas ar gyfer eu cyfraniadau hwy a faint ar gyfer cyfnodau plentyn-ganolog, -reoli cyflymder yr addysgu/ dysgu a chadw'r dosbarth gyda'i gilydd i astudio'r un maes er y gellid cyflwyno gwaith gwahaniaethol o'i fewn;

Mae aelodaeth o'r grŵp Heddlu a'r Gyfraith yn agored i bob menyw yn y mudiad sydd am gymryd rhan yn bennaf mewn dwy agwedd ar waith CiF ymgyrchu ar yr naill law, a hyfforddi Heddluoedd Cymru ar y llall, gan geisio hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sefyllfa anodd a pheryglus dros ben, menywod a phlant a beryglir gan drais gan yr union berson ddylai fod yn eu hamddiffyn.