Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deallus

deallus

Nodweddid ef trwy gydol ei oes gan ymdeimlad dwfn a deallus tuag at iaith a llên Cymru.

Holiadau Lhwyd sy'n gosod y patrwm, ond Rowlands biau drylwyredd deallus yr atebion sy'n nodi enwau, ffiniau a phoblogaeth pum plwyf Llanidan, Llanedwen, Llanddaniel-fab, Llanfairpwll a Llandysilio, ynghyd a manylion am eu hanes, eu henebion (gyda darluniau ohonynt), a sylwadau ar ansawdd y tir, y cynnyrch, a'r gwrtaith a ddefnyddid, y ffynhonnau, yr afonydd, y dirwedd a'r mathau o gregin a geid ar lan y mor.

Roedd rhai o'i phobl, er yn broffesiynol a deallus, yn esgeulus ar y gorau, ond gyda'r Nadolig a'i barti%on a'i gymdeithasu di-ben-draw i ddyblu a threblu'r gwaith, fe gymerai sawl wythnos iddi ddod i drefn eto.

Canmolwyd y dehongliad deallus o hanes Paul Robeson yn y rhaglen Speak of Me as I Am.

Pa wedd bynnag am hynny, yr oedd rahid i bawb deallus gydnabod nad oedd Dafydd ap Gwilym yn sui generis yn llenyddiaeth Ewrop, hyd yn oed os oedd yn ymddangos fellyn yn llenyddiaeth Cymru, ond fel yr oeddid yn dod yn fwy hysbys yn llenyddiaeth y cyfnod a flaenorodd ei gyfnod ef, deuai'n fwyfwy tebygol fod rhai o wreiddiau barddoniaeth serch a barddoniaeth natur Dafydd ym marddoniaeth ei flaenorwyr, sef ym marddoniaeth y Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion, ac y gallai fod y dylanwadau cyfandirol y mae'n bosibl dadlau eu bod i'w gweld yng ngwaith Dafydd, mwen gwirionedd, yn rhai a effeithiodd ar farddoniaeth ei flaenorwyr.

Roedd yn siarad â chynulleidfa fodlon a deallus a pharod i gytuno, er bod ambell un, mae'n siwr, yn ystyried bod ymchwiliad pellach yn ddianghenraid, gan mor ddigwestiwn oedd y ffeithiau eisoes yn ymddangos.

Gellid gweddio'n fwy deallus am y sefyllfa, a gellid adeiladu pontydd newydd a olygai cyfoethogi eglwysi dwyrain a gorllewin Ewrob.

Llawer o holi deallus a gwybodus.

Mentrwn innau awgrymu fod Elphin yn yr wyth soned hyn, os nad yw'n cyrraedd uchelderau De Musset a Novalis, ac er gwaethaf ei adfeiliaeth ber-bydredig fin de siecle, wedi cyrraedd lefel o orffennedd deallus sy'n tra-rhagori ar lawer o feirdd y ganrif ddiwethaf a gyfrifir rywsut yn haeddiannol o'n sylw.

Nid rhyfedd felly mai un o'i nodweddion oedd diddordeb diwylliannol eang yn ogystal â goddefgarwch deallus at olygiadau o bob math, pa un bynnag a oedd ef yn cytuno â hwy ai peidio.

Yn ŵr deallus a fu'n crwydro gwledydd Cred rhaid oedd iddo ef gydnabod uwch-ddiwylliant y Norman.

Da oedd bod cnewyllyn o Gymry cadarn a deallus na chydymffurfiai â'r Wladwriaeth Seisnig yn ei gwedd grefyddol, ac a fyddai'n arddel radicaliaeth a ystyriwyd hefyd yn fygythiad i'r drefn.

Problem sy'n arbennig i genedl fach mewn cyfnod argyfyngus ydi hon, oblegid mewn cenedl o'r fath, ymhlith y rhai mwyaf deallus a mwyaf effro i'r hyn sy'n digwydd y ceir y llenorion.

Beth bynnag, camgymeriad yw cyfystyru'r poblogaidd a'r anneallus a'r deallus a'r annealladwy, oherwydd nid ar snobyddiaeth y dylid seilio diwylliant.