Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deallusion

deallusion

Cododd awydd ym mysg y deallusion i amddiffyn yr etifeddiaeth o harddwch, tawelwch ac o lecynnau ysbrydoliedig.

Nid yw'n dilyn y buasai'r deallusion Cymraeg a edmygai'r beirdd a'r llenorion hynny yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel wedi ymddwyn yn yr un modd mewn amgylchiadau cyffelyb.

Beth a ddywed am gyflwr ysbrydol deallusion y genedl?

Roedd y ddwy garfan yn ymateb, wrth gwrs, fel ag yr oedd deallusion Ewrop benbaladr, i'r 'newyddfyd blin' yr esgorodd y Rhyfel Mawr arno.

O'r herwydd, tybiai Saunders Lewis a Maurras, fel y gwna deallusion y Dde yn gyffredinol, mai gelynion Ffrainc a'r gwareiddiad Ewropeaidd oedd Voltaire, Rousseau a Diderot, yr hanesydd rhyddfrydig, Jules Michelet, a llenorion fel Victor Hugo, Emile Zola ac Anatole France; pob un, yn wir, o'r llu ardderchog o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac athronwyr a gytunai â Gruffydd mai 'trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod'.

Trwy'r rhain eto daeth i gysylltiad a deallusion y cyfnod yn y Gymdeithas Frenhinol, cymdeithas a oedd wedi ei sefydlu'n arbennig ar gyfer ysgolheigion i hyrwyddo astudio gwyddoniaeth.