Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

debycach

debycach

Amcangyfrifwyd bod hanner miliwn o fenywod y flwyddyn yn dioddef, ond deil y rhan fwyaf ohonynt yn debycach o geisio cymorth o ffynonellau eraill megis Cymorth i Ferched, cyfreithwyr, meddygon teulu ac ati.

Ond bu'n rhaid i mi gynilo am flwyddyn gron ar gyfer yr ail-gwrdd hwn, a oedd i mi yn debycach i gyfarfod cyntaf.

Mae angen mwy o amddiffyniad ar fenywod os yw dynion yn debycach o gael eu restio a'u dwyn gerbron y llys, ac mae'n hanfodol bwysig bod mwy o swyddogion heddlu yn hysbysu menywod o godolaeth llety dros-dro diogel a gynigir, gan lochesau Cymorth i Ferched tra bod yr achos ar y gweill.

Mae'r blew hefyd yn wahanol ac yn debycach i wlân dafad.

Un diwrnod pan oedd Hadad a'i warchodwyr, a oedd erbyn hyn yn debycach i noddwyr, yn aros yn y wersyllfa lle gwelsai Hadad griw'r llong ddiwetha, dyma garafa/ n ramantus, estron yr olwg yn dynesu o'r bwlch creigog ac yn aros wrth ffynnon y balmwydden.

O ran pryd a gwedd annhebyg ydynt i frodorion India; maen nhw'n debycach i bobl Burma, Thailand, a Cambodia.

Gyda'r goleuadau'n pefrio a'r carped trwchus, lliwgar, yn wir, roedd yn debycach i eglwys nag i gapel.

Y mae'n gweld Arthur, a chaniatau ei fod yn berson gwirioneddol, yn fwy o ffigur Celtig na Rhufeinig, yn debycach i Finn yn nhraddodiad Iwerddon nag i'r Comes Britanniarum.

Y drwg, fodd bynnag, oedd fod y jobsus yn cynyddu mewn nifar, a'r diwrnod glawog yn mynd i orfod bod yn debycach i ddilyw i fedru eu cyflawni i gyd!

Mae'n debycach i'r llygoden yn yr ystyr iddi ddifa hâd yn ogystal a chnawd y ffrwythau.

Roedd y lluniau'n debycach i 'nhad nag i'r person anhysbys o'm blaen.

Prif siop Vilnius, honglaid hyll o adeilad, yn debycach i warws na dim arall - warws heb fawr o nwyddau.

Cyfarthodd y cŵn, os cyfarth hefyd - roedd yn debycach i ru llew na sŵn ci.

Y bydd yna ostyngiad o 33 y cant ym mhrisiau ceir cyn bo hir; wrth i brisiau ceir yng ngwledydd Prydain ddod yn debycach i brisiau Ewrop.

Fe eelir gweld drwy'r niwl weithiau rai o'r hen adeiladau bychan hyn hwnt ac yma ond edrychwch yn fanwl achos efallai eu bod nhw yn edrych yn debycach i garej neu neuadd Bingo bellach.

Nid drama ramantaidd o gwbl ond dychan yn debycach i anterliwt nag i ddim byd arall.

Pan gefais fy hel gan fy ngwr i'r llofft i ddarllen y llyfr (yn debycach i dad yn fy siarsio i wneud fy ngwaith cartref), gwnes hyn ag ebychiad ac yn ddi-fwynhad.

Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.

Er bod yr Eglwys yn sgut yn erbyn y Cacao, criw o Leianod yn Chiapas oedd y rhai cyntaf i gymysgu'r Cacao efo siwgwr gan wneud y cachu carnero yn debycach i be ryda ni'n gwagio bocseidia ohono fo i lawr ein llwnc bob Dolig a phen-blwydd heddiw.

Edrychai Cymry'r cyfnod ar Ewrop drwy lygaid eu cymdogion Seisnig, sy'n esbonio eu difaterwch tuag at y cenhedloedd niferus hynny ar y cyfandir a oedd yn debycach iddynt hwy o ran maint a phrofiad.

Ond go brin y byddai gan Lisa gyfle i ddysgu sgriptiau gyda'i chartref yn debycach i S Caer.

Er iddynt balfalu ymysg y brigau yn debycach i ditw nac i golomen, cwympo o'r grib i'r gwter oedd hanes sawl un, o flaen y cerbydau didostur ar y ffordd gyfagos.

Yn wir, mae hi'n debycach i'r hyn a gafwyd ar sengl ddiwethaf Big Leaves, Fine.