Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

debygol

debygol

Diogelwch Os gwelwch yn dda rhowch wybod i'r cynorthwy-ydd labordy (neu un o'r tiwtoriaid) pan fyddwch yn defnyddio'r labordai a pheidiwch a gweithio yno ar eich pen eich hun os oes unrhyw berygl yn debygol o godi o'ch gwaith.

Mae Saunders, felly, yn debygol o ennill ei gap rhif 74.

Gyda'r llain yn debygol o barhaun araf drwyr gêm fe fydd Essex yn gobeithio cyrraedd sgôr sylweddol yn ei batiad cyntaf.

ond byddai'r Cyngor yn debygol o gefnogi cais y perchennog pe byddai grant ar gael.

Pan fydd Cymru'n chwarae yn erbyn Yr Wcrain, byddan nhw'n debygol o wynebu Sergei Rebrov.

Mae'n debygol bod angen set o filoedd o wahanol broteinau yn sail i weithrediad unrhyw system fiolegol, e.e.

Mae ymosodwr Yr Iseldiroedd, Ruud Van Nistelrooy, yn debygol o symud i Manchester United o PSV Eindhoven yn ystod y dyddiau nesaf.

Yn naturiol, mae hyn yn fwy gwir byth wrth brynu'n breifat gan na fydd y prynwr yn cynnig unrhyw fath o warant i chi, ac mae'n debygol iawn y bydd gwarant y gwneuthurwr wedi hen ddod i'w derfyn os mai carafan ail law yw hi.

Mae'r llain yn debygol o droi ac er nad yw Ian Salisbury wedi bod yn bowlio'n dda mae'n rhaid iddo chwarae.

Maen nhw wedi cymryd cam bras tuag at y rownd derfynol a gêm debygol yn erbyn Wrecsam sydd hefyd â dwy gôl o fantais dros Y Barri ar ôl eu gêm cymal cynta' nhw.

Ymateb Aled Davies, cyd-gadeirydd y Gymdeithas oedd amau cymhelliad yr ymateb: 'Byddwn yn cwestiynu pa mor debygol yw hi y byddai'r tri arweinydd yma wedi dod at ei gilydd o'u gwirfodd i greu ymateb unedig.

Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.

Bydd cnewyllyn o staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd yn cael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf sylfaenol yn ogystal ag Arolygwyr Cynllun a gweithwyr Prosiect a staff eraill sy'n debygol o fod mewn perygl, e.e.

Mae'n debygol y bydd Neil Jenkins ac Allan Bateman yn colli gêm Cymru gyda'r Barbariaid ar Fai 20.

Mae'n debygol mai Robert Jones, Tan y Bwlch; Hugh Evans, Tŷ'n y Gilfach; William Hughes, Tŷ'n Pant a John Hughes, Y Felin; a weithredai fel blaenoriaid ar y pryd, ac fe etholwyd David Pritchard, Hafodymaidd, yn ychwanegol atynt yn yr un flwyddyn ag y codwyd y Capel.

Fuasai neb yn debygol o ddod o hyd iddo yno, gan na fyddai neb bron yn mynd i'r ynys, heblaw yng nghanol yr haf.

'Rwyn credu ei bod yn debygol y bydd y clwb yn mynd i'r wal.

Os digwydd i chi, mewn gêm, golli un o'ch Cestyll am Esgob neu Farchog eich gwrthwynebydd mae'n debygol y byddwch yn colli'r gêm yn y pen draw, gan fod gwerth cymharol eich byddin chi wedi mynd i lawr ddau bwynt.

Pryderwn fod y Pwyllgorau Rhanbarthol a argymhellir ym Mhapur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol, waeth beth fo eu ffiniau, yn debygol o fod yn ddim mwy na siopau siarad.

Gobeithio - yng Nghymru - yr ysgogith hynny y pleidiau eraill i dorchi llewys hefyd - ac osgoi'r sefyllfa debygol trwy weddill y Deyrnas Unedig lle fydd etholiad pwysig yn dennu nifer truenus i chwarae rhan ynddo.

Neu efallai ei fod wedi mynd at ei frawd a'i chwaer, er gwyddai Vera nad oedd hynny'n debygol.

Ar wahan i'r ffaith fod y Gymuned yn sôn yn wastadol am holl bobloedd Ewrop ac yn trosglwyddo adnoddau (yn raddol) i'r rhanbarthau tlotaf, pa sail sydd dros gredu y bydd yn debygol o greu polisiau a fedrai hyrwyddo symudiad at Ewrop y taleithau?

Ond maen debygol iawn y gall e fod nôl yng Nghymru y tymor nesaf.

am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.

Rhag ofn i chi fynd i guddio y tu ôl i'r soffa a chymryd arnoch bod yna neb adre, fe fyddai'n werth cofio eich bod chi'r un mor debygol o ganfor menyw dal, ffasiynol ei gwisg, â chrop o wallt gwyn, yn sefyll ar y rhiniog â chriw o Dystion Jehovah.

Mae'n debygol iawn y bydd canolwr Penybont a chyn-chwaraewr rygbi 13 Widnes, John Deveraux, yn chwarae i Gymru yn erbyn Papua Guinea Newydd.

Mae llawer, ond nid pob un, o'r disgyblion ag AAA yn debygol o gyrraedd safonau llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer eu hoedrannau hwy.

Mae prblem gynhenid ynghlwm wrth hyn fodd bynnag, sef bod i welliannau ffyrdd mawr oblygiadau amgylcheddol sylweddol sydd yn debygol yn rhan fwyaf o achosion o fod yn annerbyniol yn y Parc Cenedlaethol.

Mae'n edrych yn debygol iawn y bydd Lloegr yn ennill y gêm rywbryd yn ystod yfory.

Wrth ystyried cynyddu niferoedd, mae'n rhaid canolbwyntio ar grwpiau o fewn y boblogaeth lle mae dylanwadu'n gadarnhaol er mwyn cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn bosibl ac yn debygol o fod yn effeithiol.

Sylwyd hefyd ar sianelau all-lifeiriant gymaint â deg cilomedr o led yn driphlith driphlith hyd lethrau'r mynyddoedd tanllyd a hyd yr iseldiroedd yn ogystal ac y mae'n debygol i'r rhain gael eu ffurfio pan doddodd rhew y Twndra yn sydyn gan adael ceulannau ar ei ôl.

'Byddem yn cwestiynnu pa mor debygol yw hi y byddai'r tri arweinydd yma wedi dod at ei gilydd o'u gwirfodd i greu ymateb unedig.

O gofio fod enw Ruddock yn y ffrâm ar gyfer swydd Graham Henry cyn i Henry gael ei benodin hyfforddwr Cymru, maen debygol y bydd yr Undeb yn awyddus iawn i dynnu hyfforddwr o'r safon uchaf yn ôl i'r wlad.

Os digwydd hynny, De Affrica syn debygol o gael tair pleidlais De America a gallai chwalu gobeithion Lloegr o ddenur gystadleuaeth.

Yn ail, gwna ymdrech dda i gysylltu'r drafodaeth ar Llwyd â'r gwaith ysgolheigaidd mewn meysydd eraill sy'n debygol o'n helpu i fantoli'n gywirach arbenigrwydd ei berson a'i gynnyrch.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .

Credai ef y byddai'r gyfrol yn debygol o barhau'r ddadl a ddeilliodd o'r sylwadau ynglŷn â chyffelybiaethau'r awdures.