Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dec

dec

Tywydd braf a chymerwyd y cyfle i atgyweirio rhai o'r planciau ar y dec oedd wedi cael eu difrodi yn y storm.

`Edrychwch,' meddai gwraig Gunnar, `mae'r hofrennydd yn dod.' Safodd y teulu i gyd ar y dec gan gymeradwyo.

Yr oedd dwy hwylbren sbâr wedi eu bolltio i'r dec ond cododd y moryn yr hwylbrennau a'r bolltiau fel bod dwr yn rhedeg i lawr i'r hats.

Dangosodd Cathyr yr holl offer soffistigedig oedd ar y dec i Anna, yn glociau mawr cyflymder, cwmpawdau electronig a'r offer hunan-lywio, y cyfan yn sgleinio fel sylltau.

Gwnaeth y ddwy hwylbren lanast ofnadwy o gwmpas y dec, llwyddwyd i gael un ohonynt dros y bylwarc ac i'r môr ond cawsant drafferth gyda'r llall cyn ei rhwymo unwaith eto.

Yn yr ysgolion y Weinyddiaeth Addysg bellach sy'n cymell y Cymry i dyfu'n genedl ddwy-ieithog, gan ennill y gorau o'r ddau fyd, byd y dec uchaf Seisnig a byd, nid dan yr hatsus yn llwyr, ond ar fwrdd yr ail ddobarth Cymreig.

Daliwn i ddawnsio, i fwyta bisgedi, i wrando ar gerddoriaeth tra mae dec isaf y llong yr ydym yn eistedd mor gysurus arni'n prysur lenwi â dþr.

Roedd wrthi â'i dafod allan yn sgrwbio'r dec efo brws caled.

Ymuno unwaith eto â llong hwyliau fawr fel Ail Fêt a chael tywydd mawr ym Mae Biscay, a phan oedd yn gweithio ar y dec, llongwr oedd wrth ei ochr yn cael ei ysgubo i'r môr gan foryn trwm.