Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dechra

dechra

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Roedd Ifor yntau wedi dechra teimlo fod rhywun yn ei wylio trwy'r amsar ac yn chwythu i lawr ei war.

Y drwg mwya oedd fod Malcym erbyn hyn wedi dechra ymddiddori rhyw gymaint yn ei waith.

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddžad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tž Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

"Edrych arni'n cicio'i choesa'." "Gobeithio na wnaiff y pier 'ma ddim dechra cicio'i goes', 'te," meddai Joni.

Wedyn dyma fo'n dechra rhestru'r bendithion oedd ei blaid o wedi džad i mi'n bersonol.

"Mae pethau'n dechra poethi erbyn hyn," meddai, yn ei ffordd gyfeillgar, "Ddowch chi ddim draw i'r ysgol nos 'fory?" 'Does gen i ddim llawer o awydd." "Mi faswn i'n licio i chi fod yno pan ddaw Lewis Olifer a Deilwen Puw am y tro cynta'." 'Fyddan' nhw yno nos yfory?" "Byddan.

Mae gen i rhyw dair gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf eleni nag oedd gen i pan o'n i'n dechra' er enghraifft.' ' Sylwodd ar ddirywiad graddol yn safon addysg y myfyrwyr sy'n dod i mewn hefyd meddai.

Tori mawr ydy o, a finna erbyn hyn wedi troi at yr Islamiaid, a'r diwrnod o'r blaen, pan ddois i i'w wynab o, roedd fy matin gweddi gen i yn un rholyn o dan fy nghesail, a dyma fo'n dechra fy nghymryd i'n ysgafn ar ei union, a gofyn pa bryd yr oedd y Proffwyd wedi bod acw ddwaetha i de.

Wrth fynd heibio llyn oedd ar ymyl y ffordd, dyma'r chwiaid oedd arno, wrth glywed eu twrw, yn dechra gweiddi, 'Gwag,Gwag,Gwag'.

Mae dechra Ionawr fel hyn gystal amser â'r un i mi ddwysfyfyrio dros fy ngwendida yn hyn o beth; achos rydwi'n dal i wegian dan bwysau'r Roses yna fu'n tyfu arna i dros y Dolig.

Gweld y byd mewn trefn : dechra a diwadd a dimensiwn arall diderfyn...

Felly, yn lle gofyn cwestiyna fel o'r blaen, roedd Malcym wedi dechra mynd yn feirniadol iawn.

Wyt ti'n meddwl lici di yma?" "Newydd gyrraedd ydw i," medda fi, "dydw i ddim wedi cael amsar i edrych o 'nghwmpas eto." A dyma fo'n dechra rhestru ansawdd y bwyd a'r bendithion, ac yn fy sicrhau i, unwaith y baswn i'n setlo, mai yn o y mynnwn i fod.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Doeddan ni ddim wedi cael bwyd ers dyddia, a phan gododd yr haul a dechra toddi'r ceffyl, dyma fi'n tynnu bayonet a dechra torri'r cig oddi arno.

Dŵad atoch eich hun oedd yn boenus, ond roedd yn werth o ar y dechra cychwyn.

Ne' beidio â lluchio cerrig o gwbl.' 'Wedi dwad â'r hwch at y bae 'rydw i, Miss Willias.' 'Be, ganol nos?' 'Roedd hi 'di mynd yn llwydnos pan sylweddolis i 'i bod hi'n dechra' anesmwytho.' ''Wela' i.

Wedyn dyma fo'n dechra siarad hefo rhywun yn y weiyrles honno oedd ganddo fo ar ei frest.

Mae'r mwyar duon yn dechra' troi'n goch rŵan, ond mi fydd 'na dipyn o wsnosa' nes eu bod nhw'n barod i'w hel.

Ma' gin Anti Nel ei strydoedd - rhai fydd hi'n mynd iddyn nhw bob wsnos - ac mae'n rhaid bod y bobol yn disgwl amdani hi, achos gynta roedd hi'n dechra' gweiddi, "Picl, picl, pennog, pennog picl," mi oedd plant a phobol yn rhedag allan o'u drysa', a dysgla' yn 'u llaw, i brynu rhai.

'Mi fydda inna'n lecio ca'l dechra godro'n gynnar dydd Sadwrn,' meddai ffermwr arall.