Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dechrau

dechrau

Bellach, roeddwn yn dechrau amau y milwr yn stesion Corwen y diwrnod cynt a ddywedodd fod digon o gantîns ar gael; soniodd o ddim am y chwarter milltir o giw a welech ymhob lle felly.

Fe frechwyd tua chant a hanner bob mis ar y dechrau.

Ar y dechrau, gwadodd y tad iddo symud y gwn, ond cyfaddefodd wedyn iddo ei sythu ryw gymaint, rhag iddo syrthio ar John.

Mae pawb yn ei longyfarch am chwarae mor dda ac mae'r criw yn dechrau paratoi ar gyfer gêm arall.

Cnays pan fo cyfreithiwr yn dechrau dweud: 'Dylid deddfu fel hyn neu fel arall', yna mae'n tresmasu ar faes y gwleidydd.

Bu'r blynyddoedd hyn yn rhai caled ac anodd iawn i blaid ifanc yn dechrau tyfu.

Roedd yr hogiau wrth y bwrdd yn dechrau anesmwytho a diflasu, braidd.

Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cynhyrfu pan fydd y dydd yn dechrau ymestyn.

Roedd hi wedi mynd i'w gwely yn weddol fuan, i blesio'i mam yn fwy na dim, ac wedi dechrau darllen un o'r llyfrau a gafodd yn y llyfrgell.

(dd) Mewn cainc â rhannau anghyfartal, rhaid dechrau ar y rhan fer yn ôl hyd y pennill.

Cafodd Cyfres Cae Berllan, sef cyfres o storïau byrion, eu sgwennu mewn ymgynghoriad ag arbenigwr iaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen.

Bydd y Grwp Addysg nawr yn dechrau ymgyrch gref yn erbyn Unben Addysg Cymru a'r Quangos, a thros Gyngor Addysg i Gymru.

A hithau wedi cyrraedd ei deg-ar-hugain erbyn diwedd y chwedegau, roedd hi'n dechrau ymddangos fel petai Glenda Jackson yn mynd i orfod bodloni efo'r golchi llestri.

Ni ragwelwyd na fyddai ganddi, o leiaf ar y dechrau, na'r agwedd meddwl, na'r pwysau a fyddai'n ei galluogi i lunio polisiau na fyddai'n adlewyrchiad uniongyrchol o bolisiau adrannau eraill Whitehall.

Dechrau gwaith Comisiwn Crawford i ddarlledu yng Nghymru.

Plygodd y bachgen i lawr unwaith eto, a phan oedd y belen eira yn dechrau ymdoddi yng ngwres ei ddwylo, anelodd hi at ben un o'r milwyr.

Arhosais i bethau ddod atynt eu hunain ryw ychydig: y fegin yn dal i weithio er bod yr esgyrn yn ratlo ar ôl y glec, ac roedd y byd yn dechrau sadio wedi fy nhaith din-dros-ben drwy'r awyr ar ddeng milltir ar hugain yr awr.

'Rwyn falch y bydd y Cynghrair Celtaidd yn dechrau yn Awst.

mae'r gêm yn dechrau am ddeg munud wedi pedwar.

Ar y dechrau credir mai crwn oedd tu mewn i'r Capel gyda stôf yn y canol.

"Rwy'n dechrau deall 'nhad," meddai wrth y cŵn.

Dechrau y tymor byddai yn "llogi% un o'r

Dechrau sefydlu guanxi (perthynas gydweithredol arbennig yn China) efo'r heddlu.

Glyn Davies wedi gwirioni arno ym mlynyddoedd dechrau'r ganrif, ac nid oedd hwnnw gymaint a hynny'n wahanol i'r hyn ydoedd gan mlynedd ynghynt.

Daliwn i deimlo'n gynnes tuag ati, ond erbyn hyn roeddwn wedi dechrau meddwl amdani'n fwy gwrthrychol ac fel fy nghyfoedion yn yr ardal, yn ei gweld hi'n dipyn bach o gymer comig.

Roedd y siarad yn uchelach na'r gerddoriaeth - ar y dechrau.

"Ein dyfodol ni'n sicr, a Maes y Carneddau'n ddiogel - darn o Gymru wedi ei achub." Tynnodd ei llaw yn dyner dros y clais ar ei dalcen, clais oedd yn dechrau diflannu erbyn hyn.

cyn iddi gael y sac, teimlo'n flin dros ei hunan, colli ei sboner a dechrau coleg.

Mi adawn y llwybr yma a dringo'r llethr glos ar y dde i gyrraedd Llwybr Pyg a throi yn ôl tua'r dechrau, gan edrych i lawr ar y llynnoedd yn awr.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

Ei awdur oedd Tremenheere, a oedd yn dechrau ar ei yrfa nodedig fel arolygwr ffatri%oedd,.

Na, rydw i'n dal i gael rhyw, oedd ateb Michael Schumacker pan ofynnwyd iddo a oedd wedi dechrau chwarae golff.

Roedd hi'n dechrau tywyllu nawr a doedd e ddim yn hoffi bod tu allan yn y tywyllwch ar ei ben ei hun.

Roedd hi'n dechrau pluo eira'n ysgafn wrth i Monsieur Le Maire ddechrau ar un arall o'i areithiau ar sgwâr y dref.

Ar y dechrau penderfynais mai taw piau hi - a dioddef yn ddistaw.

Nid oedd yn boblogaidd iawn yn y pentref ar y dechrau oherwydd ei natur di-flewyn-ar-dafod ond cafodd ei derbyn yn well ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu fod Mark yn gwerthu cyffuriau i blant ysgol.

Pan ymadawodd y Rhufeiniaid gadawsant wacter ac ansicrwydd o'u hôl, a chyn pen dim llamodd y Pictiaid rhyfelgar yn baent i gyd dros Fur Hadrian a dechrau difrodi'r wlad.

Mae Sri Lanka, felly, wedi ennill y ddwy gêm gynta a bydd y drydedd - a gêm ola'r daith yn dechrau yn Colombo yfory.

Fel y dywedodd Golygydd Y Cymro mewn cyswllt arall, "Yr eliffant a'r morfil yn unig o holl greaduriaid Duw sydd i'w cadw, fe ymddengys." Yr oedd y dwr llwyd yn fy mhiser yn dechrau gloywi tipyn erbyn hyn; dechreuwn sylweddoli nad diben coleg diwinyddol oedd wynebu problemau trydanol yr oes, ond rowndio'r traddodiad fel llechgi, "heb ofal am y defaid"; un o ddyfeisiadau'r Ffydd i ffoi rhag ffaith, mewn gair.

Er mai am saith mae'r ffilmio i ddechrau y mae'r gynulleidfa o gant y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu toc wedi pump.

Gyda Bobby Wayne roedd wedi dechrau gwneud sgetsus ac, wrth fynd yn ôl i weithio ar ei phen ei hun, fe ddechreuodd ychwanegu comedi i'r act.

Cyrff mewn parlyrau Sulaidd eu naws: roedd Cymry dechrau'r ganrif yn ddigon cyfarwydd â hynny.

Mae yna glybiau house, drum'n bass, garage a trance i enwi dim ond rhai, a dim ond rwan yr ydym ni fel Cymry yn dechrau dod yn gyfarwydd â rhai o'r enghreifftiau hyn yn ein mamiaith.

Gweithredoedd y 'killing fields', Pol Pot a'r Khmer Rouge yn dechrau dod i'r amlwg.

Efallai bod y Cymry'n dechrau blino ar y brenhinoedd Seisnig.

Cododd ei llaw at ei thrwyn a dechrau ei rwbio i'w gynhesu.

'Roedd hi'n amlwg o'r dechrau fod Stacey yn wahanol iawn i weddill y teulu.

O hyd ac o hyd dyfynnir y tri hir a thoddaid sy'n dechrau 'Draw dros y don' fel barddoniaeth fawr'.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

"Mae yna nifer o resymau, pam fod cwmnlau yn dechrau dod yma ...

Cyfeiriwyd eisoes at ei safle fel athro Hebraeg a Chanon, ac yn barod 'roedd pobl wedi cysylltu'r mudiad gyda'i enw, er mai llysenw ydoedd ar y dechrau cyntaf.

Clywodd nhw'n dechrau gweiddi mewn lleisiau cras a dwfn a stampio'u traed ar lawr.

Adeg honno roedd yna fudiad o'r enw yr Eingl Gymry, roedd cylchgrawn o'r enw 'Wales' ac roedd pobl yn dechrau sylweddoli eu bod nhw wedi colli rhywbeth, ac roedd yna rhyw duedd ynom ni er ein bod ni yn sgwennu yn Saesneg, i ni geisio dangos nad Saeson mohonom ni.

Ond roedd y fyndedfa'n dechrau goleuo.

Fydd Sven-Goran Eriksson ddim yn dechrau'i swydd fel rheolwr newydd Lloegr tan fis Mehefin nesaf.

Maent yn dechrau gydag ychydig o bowdr, ac yn naturiol roedd raid i un fynd i nôl y powdr i'r magazine, lle'r oedd goruchwyliwr yn ei rannu, a llawer helynt a fu yn y fan honno eto.

Mae'n dechrau gyda'r wyddor ac yna daw ymarferion i'r disgyblion, yn dechrau gyda brawddegau syml ac yn mynd yn anos o wers i wers.

Dewislen Steil Ar y dechrau bydd arnoch eisiau defnyddio pob math o ffontiau a steil a bydd CYSGOD a thanlinellu bras mewn Ffontiau Blodeuog yn britho eich gwaith.

Nid oes ar blant ddim angen setiau cemeg drud na chemegolion peryglus er mwyn dechrau ymchwilio i egwyddorion gwyddonol cadarn.

blyb bara llefrith yn dechrau berwi yntê, a mi fydd yr hen gath i'w chlywed yn stwyrian yn y dail.

Nid oedd newid sylfaenol yng nghyfeiriad meddwl Hugh Hughes yn ei ysgrifau maith yn y Seren Ogleddol, felly, ond yn sicr yr oedd ei bwyslais yn dechrau symud o'r ymosodiad cyffredinol ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, tuag at un agwedd arbennig ohono.

Er enghraifft, ar y dechrau cawn frawddegau'n cynnwys geiriau dwy lythyren, fel 'yn un llu', neu 'o'r lli i'r lle', neu 'da yw dy dy'.

Roedd rhaglen lawn o gemau yn Y Cwpan Cenedlaethol heno, ac wrth i'r timau nesau at rownd yr wyth ola, mae pethau'n dechrau cymhlethu.

Ar y Post Cyntaf dwedodd un o hyfforddwyr Cymru, Geraint John, bod y tîm wedi dechrau'n dda.

Mae ail gymal Cynghrair y Pencampwyr yn dechrau heno.

Gyda'r newid yn y tywydd yn y dechrau mae pobl yn ein gwahodd i'w ystafelloedd felly rydym yn treulio mwy o amser yn ystafelloedd un neu ddau a llai gyda'r gweddill.

Mae'n cymryd amser mawr, gan eu bod yn dechrau gyda phwys o bowdr ac yn ei gynyddu fel y maent yn mynd ymlaen, nes o'r diwedd y maent yn penderfynu bod y graig wedi agor digon i gael ei phowdro i ddod allan.

Er bod peth gwrthwynebiad iddynt ar y dechrau ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr, buan y gorchfygwyd y rhagfarnau a daeth yr ysgol Sul yn rhyfeddol o boblogaidd ymhob rhan o Gymru.

Ar y dechrau penderfynwyd peidio ag anfon ymgeiswyr y Blaid i Senedd Lloegr ped etholid hwy.

"Ble mae Bwrdd yr Iaith?" Erbyn hyn, saith mis ar ôl dechrau gweithio'n statudol, mae swyddogion gelynion penna'r cwango iaith yn siglo'u pennau ac awgrymu na ddylech chi ddisgwyl dim arall ond distawrwydd a diffyg gwneud.

A pheidiwch, da chi, â dechrau sôn am hawliau.

Ond i ddechrau, dylid dweud fod y datganiad diwinyddol sy'n dechrau'r ewyllys yn mynegi ei safiad Protestannaidd.

Ni ddylech gael bocs o siocledi bob tro y byddwch yn colli rhywfaint o bwysau, neu fe fyddwch yn ol yn y dechrau unwaith eto!

Bydd y daith gerdded o 150 milltir yn dechrau o'r Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn rali a gynhelir yno am 11 o'r gloch ar Ddydd Owain Glyndŵr (Sadwrn, Medi 16eg). Bydd Jill Evans ASE a Moelwen Gwyndaf o UCAC yn siarad yn y rali.

mae'r lledr yn dechrau torri.

Pan oedd Hugh Evans yn dechrau trafferthu gydag ieithoedd, daeth i un o groesffyrdd pwysig bywyd.

Fe fyddai'r broses yn dechrau am ddeuddeg o'r gloch.

Gyda DJ Dafis yn parhau i arbrofi, felly, heb sôn am gerddoriaeth drum ‘n' bass Dau Cefn a'u tebyg, mae'r sîn ddawns Gymraeg yn dechrau ehangu o'r diwedd.

Mewn nodyn ar y dechrau dywed fod y 'llyfrau cofnodion yn awr ynghadw gan lywydd y Gymdeithas er ei dechreuad, sef Prifathraw Coleg yr Iesu h.y.

Mae'r straen wedi dechrau dangos yng Nghuba ei hun.

Mae'r pentrefi'n ymddangos yn hynod o dawel erbyn hyn, a'r haul yn dechrau machlud.

Harddwch yn dechrau Cerdded gan Emrys Roberts.

Cafwyd dechrau gwych, diweddglo anghredadwy -ond anghofiwch y gweddill.

Ac y mae'r drws metal lle lladdwyd Ifans yn ganolog weladwy o'r dechrau.

Mae naw aelod o'r tîm ddechreuodd yn Murrayfield ddwy flynedd yn ôl yn dechrau eto yfory, ac y mae Allan Bateman ar y fainc.

Erbyn dechrau'r mis, dylai'r tŷ gwydr fod yn glir ar gyfer plannu cnwd yn ei forderi os symudwyd y planhigion a oedd mewn blychau a photiau i'r ffrâm oer i gael eu caledu.

'Roedd pethau'n mynd yn esmwyth iawn ym mherthynas Teg a Cassie ar y dechrau ond dechreuodd pethau fynd o chwith yn gynta pan ddaeth Steffan i chwilio am ei fam - 'doedd Cassie 'rioed wedi cyfadde wrth Teg fod ganddi blentyn cyn priodi - ac yna pan benderfynodd Beryl, mam Cassie, adael y gogledd a dod i fyw at ei merch i'r Deri.

Roedd hi'n dechrau nosi ac efallai mai dyma'r rheswm paham fod y morwyr yn awyddus i ddychwelyd i'r llong.

A phrun bynnag, meddai, petai o'n dechrau poeni am bob tū gwag roedd o'n ymweld â nhw byddai ar ei ben yn y seilam.

Cafwyd Cyfarfod Gweddi Dechrau'r Flwyddyn ym Methel ac yma eto roedd yr holl Eglwysi wedi uno.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Dychmygwch, er enghraifft, eich bod chi'n gallu hedfan ar garped hud i'r Arctig rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Ebrill.

Dyma oedd dechrau diwedd ei pherthynas hi a Hywel.

Pan feddylia'n wleidyddol, dechrau gyda'r person unigol sy'n rhaid i'r Cristion, ac nid byth gyda rhyw haniaeth neu drefn.

Bydd yr ail brawf criced rhwng Pakistan a Lloegr yn dechrau yn Faisalabad yfory.

Roedd eira'n dechrau disgyn ar ei wyneb ac roedd mynyddoedd noethlwm Tadzhikstan yn dechrau diflannu y tu ôl i flanced gwyn.

Mae'r prawf cynta rhwng cricedwyr Sri Lanka a Lloegr wedi dechrau y bore yma yn Galle a mae pethau'n argoeli'n dda i'r tîm cartre ar hyn o bryd.

Er bod cyfyngiadau'r offer nofio tanddwr oedd ar gael bryd hynny yn rhwystr i ddatblygiad y pwnc ar y dechrau ffynnodd pan gyflwynwyd offer anadlu cylched agored, yr Aqualung.

Pan oeddwn yn dechrau darllen y llyfr hwn i gaset ym Mangor, daeth Arthur efo mi i'r ddinas.

Fodd bynnag, rhaid bod yn reit ofalus wrth dderbyn hyn, gan fod economi Cymru yn dechrau adfywio o sylfaen cryn dipyn yn is, ac ni welwyd effeithiau'r twf i unrhyw raddau o werth yng Ngogledd Orllewin Cymru.