Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dechreuai

dechreuai

Wrth yrru adref dechreuai ail-bendroni am y posibilrwydd o 'gyfarfod eto a rhywun annwyl.' Gwyddai nad gŵr atyniadol mohono ef yng ngolwg neb.

Dechreuai deimlo'n euog eto.

Dechreuai'r stori gyda golwg pell yn ei lygaid.

Pan grybwyllid enw Miss Lloyd mewn sgwrs dechreuai ei gwefus isaf grynu, ac rwy'n amau ai hiraeth am ei ffrind ddiweddar oedd y rheswm.

Er gwaethaf ei fywiogrwydd dechreuai'r cylchgrawn lithro i rigol unfrydedd a gwir berygl iddo fynd yn 'ddiogel'.

Darllenai bennod o'r Beibl yn ei hystafell wely yn ddi-ffael bob nos, a chysgai'n dawel ar ôl hynny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Saboth, pryd yr arferai gymryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain ac yn union deg dechreuai bendympio.

Dechreuai holl sesiynau'r žyl gyda chyfres o logos mewn du a gwyn trawiadol - y rhain yn cynrychioli'r noddwyr - a dechrau In Suburbia gan y Petties (The Pet Shop Boys i'r anghyfarwydd).

Dechreuai pob un symud wrth i fywyd lifo'n ôl i'w gorff; y swyn wedi torri wrth i'r bêl gael ei symud.

Dechreuai siarad ag ef am Iesu Grist gyda'r geiriau, "Wel, hen ddyn..." Yna âi rhagddo i gyhoeddi'r efengyl Credai'n bendant y dylid cadw'r Sul yn sanctaidd.

Yno dechreuai'r sgwrs, 'Beth oeddat ti'n meddwl o'r pregethwr ddoe?' a byddai'n rhwydd dweud os oedd yr hen saer wedi cael ei blesio ai peidio.