Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dechreuol

dechreuol

Gweddol rwydd fyddai ymestyn y model dechreuol i gynnwys sector y llywodraeth a sector masnach tramor yn ogystal â'r sectorau gwreiddiol, sef teuluoedd a chwmni%au.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol o'r fath yn bur wahanol o ran natur i'r model cydbwysedd rhannol a geir yn Ffigur I, ond - a chymryd bod elfen o anystwythder yn perthyn i brisiau, ac yn arbennig felly i gyflogau a chyfraddau llog - fe fyddai casgliadau sylfaenol ein model dechreuol yn dal i sefyll: sef bod cydbwysedd yn bosibl gyda lefel uchel o ddiweithdra; ac y byddai'n rhaid i'r llywodraeth - er mwyn sicrhau lefel cyflogaeth uchel a sefydlog - reoli'r galw cyfanredol trwy defnyddio arfau cyllidol.

Yn hytrach na cheisio ymgodymu â holl gymhlethdodau'r byd sydd ohoni o'r cychwyn cyntaf, y dull arferol o weithredu mewn Economeg yw symleiddio cymaint ag sy'n bosibl ar y cychwyn, ac yna symud ymlaen i ollwng y tybiaethau dechreuol fesul un gan sylwi ar y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r casgliadau gwreiddiol.

Yn unol â'r dull hwn, tybiaethau dechreuol dros dro yw llawer o'r tybiaethau y mae Ffigur I yn seiliedig arnynt.

Gadewch inni droi felly i ystyried pa wahaniaeth y byddai gollwng rhai o'r tybiaethau hyn yn ei wneud i gasgliadau'r model dechreuol.

Ar ôl y gwasanaeth dechreuol gelwid ni'r plant i'r blaen a gelwid ar un o'r oedolion "i wrando adnodau'r plant".