Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deddfu

deddfu

Cnays pan fo cyfreithiwr yn dechrau dweud: 'Dylid deddfu fel hyn neu fel arall', yna mae'n tresmasu ar faes y gwleidydd.

Ar ôl gadael pencadlys Vodafone bydd gan y cerddwyr daith o 60 milltir o'u blaenau i Lundain lle y cyflwynir sgrol i swyddfa Paul Murphy sy'n galw ar i'r Senedd ildio'r hawl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael deddfu ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Er nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau deddfu cynradd mae Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud y gall y Cynulliad 'wneud unrhyw beth i gefnogi neu i gynnal yr iaith Gymraeg'. Credwn mai hawl foesol y Cynulliad yw deddfu dros y Gymraeg.

Mae pob cymdeithas sydd â grym deddfu yn deddfu ar yr hyn sydd yn bwysig iddi -- i geisio annog yr hyn sy'n werthfawr a cheisio atal yr hyn sy'n ddinistriol -- yn ôl ei gwerthoedd ei hun.

Fe ddylai pobl sydd am i ddatganoli gael ei estyn a'i wireddu weld y potensial sydd gan ddeddfu o blaid y Gymraeg i osod cynseiliau deddfu mewn meysydd eraill.

Credwn mai hawl foesol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw deddfu ar yr iaith Gymraeg.

Mae'n amlwg fod Rowland yn gweld yr ysgol fel help i lanciau Cymru ddod ymlaen yn y byd mawr y tu allan gan ei fod yn deddfu mai Sais sydd i fod yn athro - "er mwyn yr iaith".