Ni fyddai'n bosibl o dan y drefn hon i ni warchod swyddogaeth arolygol PDAG, sef y dyletswydd i gynnig cyngor i'r system trwy adrodd ar y ddarpariaeth, gan ddinoethi'r sefyllfa fel y mae, gan gynnwys a yw'r Gweinidogion wedi cadw at eu haddewidion deddfwriaethol.
Nid ydym yn derbyn dadleuon y Dde a leisir gan Dorïaid ac aelodau o'r Blaid Lafur na ddylid rhoi gofynion deddfwriaethol ar y sector preifat i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg.
Cytunwn fod gan y Cynulliad fel y'i bwriedir trwy'r mesur presennol rym a dylanwad potensial pwysig o ran ei allu deddfwriaethol eilradd.
Fe ddadleuwyd fod Senedd yr Alban yn haeddu grymoedd deddfwriaethol gan fod y wlad honno a'i chyfundrefn gyfreithiol ei hun.
Drwy ddefnyddio'r un rhesymeg gellir dadlau fod Cymru wedi datblygu, defacto, ei threfn addysg ei hun, ac y dylai gael hawliau deddfwriaethol yn y maes hwn.
Drwy ddefnyddio'r un rhesymeg gellir dadlau fod Cymru wedi datblygu, de facto, ei threfn addysg ei hun, ac y dylai gael hawliau deddfwriaethol yn y maes hwn.