Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dedfrydwyd

dedfrydwyd

Ysgytwol yw eu cyhoeddi'n blaen fel hyn: erlynwyd dros 1,100 o unigolion mewn llysoedd barn yn Lloegr a Chymru am eu rhan mewn ymgyrchoedd; codwyd cyfanswm o £38,854 o ddirwyon a £26,283 o gostau llys a iawndal; a dedfrydwyd 170 o unigolion i gyfanswm o 41 mlynedd a deufis o garchar.

Plediodd Carol Hogan yn euog i gyhuddiad o gynllwynio i gyflawni'r lladrad, ac fe'i dedfrydwyd i bum mlynedd am yr hyn a alwodd y barnwr yn drosedd difrifol.

Am hyn, dedfrydwyd ef a Nestor i farwolaeth gan y Rhufeiniaid.

O'r diwedd dedfrydwyd Sidley i ddeng mlynedd o garchar, gan roi terfyn ar y bartneriaeth rhyngddo a Harrison.

Dedfrydwyd dau o bob tri yng Nghymru a Lloegr, a bron traean ohonynt yn Iwerddon, ynghyd â nifer fechan yn yr Alban ac mewn gwledydd tramor.

Cyflawnid nifer fawr o droseddau o'r fath gan Wyddelod, a dedfrydwyd lladron penffordd ac eraill fel Henry Hope, carcharor ar y Tortoise gyda Benjamin Griffiths ar y fordaith i Awstralia, am ladrata sofrenni.

Un arall o'r troseddau cyhoeddus oedd dwywreiciaeth, a dedfrydwyd John Hart o blwyf Llanstadwell.