Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deffro

deffro

Wedi deffro yn y bore, roedd yn bwrw fel o grwc ac unwaith eto, y lle fel cors.

Dewisodd yr awdur ymdrin â phum thema sy'n ganolog i'r cyfnod hwn - Cymru a Chymreictod, Bywyd Bob Dydd, Crefydd ac Addysg, Deffro Diwydiannol a Brwydr y Bobl.

"Edrych, mae Julie Angharad wedi deffro," meddai Sandra gan bwyntio hefo'i llaw chwith.

Roedd Harvey mor falch ei fod e wedi medru ei deffro nhw.

Yr ydwyt yn ein deffro ni i ymhyfrydu yn dy foliant, oblegid Ti a'n creodd ni i Ti dy Hun, ac anniddig yw ein calon nes gorffwyso ynot Ti.

Y mae ymgyrch y Gymdeithas yn erbyn gorthrwm Saesneg y llysoedd cyfraith a holl gyndynrwydd y barnwyr a'r plismyn i gadw braint a rhagoriaeth iaith y Ddeddf Uno yn deffro anesmwythyd ar feinciau ynadon.

Deffrôdd y Times ar unwaith i ddweud y dylid ymarfer '...' yng Nghymru, cyn iddi hithau godi Cynghrair Tir a throi'n ail Iwerddon.

Dyna'u cyfrinach, rwy'n meddwl, sef eu bod yn deffro pobl o'u trwmgwsg a pheri iddynt ail-fyw profiadau cyffrous.

Help!" gwaeddodd, gan obeithio y byddai rhai o'r criw a gysgai yn rhan ôl y llong yn deffro wrth ei glywed.

Deffrôdd gan feddwl fod rhywun yn y stafell.

Disgrifiodd ei hun fel 'meddwyn gwaeth nag erioed' erbyn hyn--câi ei gyflog gan y porthmon wedi cyrraedd pen y daith, a byddai'n meddwi, yn cadw cwmni drwg a bron bob tro byddai'n deffro a chanfod bod ei bres wedi'u dwyn.

Roedd hi fel yr eiliad pan fydd rhywun yn deffro o hunllef, o fonolog a barodd ddegawdau ym mharc gwallgofdy.

Deffrôi o'i weledigaeth yn nynfder nos a'i gorff yn chwys oer drosto.

Eto, mae'n rhan o'r Deffro!

Deffrôdd y gelyn mewn dychryn i glywed gwŷr Gideon yn dynesu gan weiddi 'Cledd yr Arglwydd a Gideon'.

Dyna'r ffordd orau i ddal cathod gan eu bod nhw mor hoff o browla yn y tywyllwch." Gwyddai pob un ohonynt fod Wyn wedi deffro o'r diwedd, a'i fod cystal â neb am ddefnyddio'i ddychymyg ar ôl iddo agor ei lygaid yn iawn.

LIWSI: Sori, Dad, wnes i'ch deffro chi?

Roedd Leah wedi hanner deffro ac yn dechrau tagu yng nghanol y mwg yn ei llofft hi.

o'r diwedd yn deffro o'u trwmgwsg hir a diosg cadwyni caethiwed'.

Parhâi pobol i fyw wrth y stablau, ac ymhen blynyddoedd lawer wedyn dyma un yn digwydd sôn wrth Bill Parry am ddigwyddiad rhyfedd yno - eu bod wedi'u deffro'n ddiweddar gan oleuadau dros y lle, a hithau n ganol nos.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Diwedd y p'nawn 'roedd Peter wedi deffro, felly dyma'r tri ohonom yn mynd i ganol y ddinas.

Caniatâ inni adnewyddiad ysbrydol nerthol i'n deffro ni o'n cysgadrwydd ac i roi inni'r nerth i ailgodi'r muriau a ddrylliwyd ac i gau'r bylchau y rhuthrodd gelynion y Ffydd drwyddynt i anrheithio dy winllan.

Os oedd cyhoeddi llyfrau duwiol yn y ddeunawfed ganrif yn ernes o'r Diwygiad i ddod, a yw ysgrifennu ar hanes crefydd yng Nghymru heddiw yn ernes fod deffro dramatig wrth y drysau?

Arhosodd Mathew yn ymyl y gwely am ryw hyd gan obeithio y byddai'r hen ŵr yn deffro unwaith eto iddo allu ei holi ynglŷn â'r bachgen.

Er hynny, yr oedd yr ysgol Sul yn gosod sylfaen da ac yn deffro uchelgais pobl i ysgrifennu.

Dyma gyfnod y deffro mawr - Gwynn Jones, John Morris-Jones, WJ Gruffydd, Elfed, Williams Parry ac eraill yn creu traddodiad barddol newydd.

'Doedd 'na ddim son yr oes honno am rai'n cysgu trwy'r dydd a ddim yn deffro nes ei bod yn amser mynd adra, a doedd 'na neb i roi help i rai na wnai neb arall eu helpu.

A sawl gwaith yn y ffilm dywedir wrthym - rhag ofn na wnaethon ni ddeall y tro cyntaf - mai'r hyn a wnaeth y Siapaneaid wrth fomio Pearl Harbour oedd deffro cawr cwsg y byddai ei ddialedd yn awr yn erchyll.

WALI: (Deffro'n swnllyd) Wha!

Ar hyn, roedd pawb bron iawn yn dechrau deffro ac yn mynd i'r tŷ bach.

'Edrych dithau am oleuni Duw yn dy feddwl 'Deffro, Deffro, Deffro, a rhodia fel plentyn y dydd, a Derbyn yr annerch yma (oddifry) drwy law dy gymydog'.

Cefnllech Roberts yn areithio'n frwd am ...Gymru'n deffro ...

Na, nid oedd ei nain wedi deffro; mwngial yn ei chwsg yr oedd hi.

O, dyma ti, wedi deffro.

Awn i'r gwely mor gynnar ag y gallwn, rywdro rhwng wyth a naw, ac yna tuag un yn y bore, cyn iddo fynd i glwydo ei hun, deuai plismon y pentref a churo'n ysgafn ar ffenestr y gweithdy i'm deffro.

'Does gan yr anifeiliaid gwaed oer ddim dewis, mae'r oerni yn eu gyrru i goma neu drwmgwsg ac nid yw rhai ohonynt byth yn deffro ohono.

Ymhen ychydig eiliadau cafodd Mrs Kramer ei deffro gan y twrw mawr.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.

Ar ôl deffro i frecwast blasus diolch i Elin sy'n gweithio yn y ganolfan, (a chlirio ychydig ar effaith y Pino-shite), parhawyd â'r drafodaeth am ddeddf iaith ar y bore Sadwrn.

"Yn deffro'r byw sy'n cysgu yn yr ardal gyfan, ac yn tynnu sylw'r holl bentref busneslyd yma ata'i ganol nos?

Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.