Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

defnyddir

defnyddir

Defnyddir bodolaeth ansylweddol ysbrydion er mwyn cyfleu cymhlethdod y berthynas rhwng agweddau gwahanol sylwedd ein bywydau ni.

Geilw John Leland yr afon yn Afon Kefni ac mewn nifer o fapiau cynnar eraill defnyddir orgraff ddigon tebyg.

Casgliad y llyfr yw mai mudiad oedolion ifainc dosbarth canol addysgiedig oedd y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992, proffil sy'n gyffredin i lawer o fudiadau ymgyrchu eraill; yn wir, un o gryfderau'r astudiaeth hon yw'r modd y defnyddir astudiaethau ar fudiadau megis CND a Chyfeillion y Ddaear i oleuo datblygiad y Gymdeithas a'i rhoi hi yn ei chyd-destun fel mudiad pwyso.

Asgwrn cefn hanes cymdeithasol da yw ystadegau, ac fe'u defnyddir yma i bwrpas da i oleuo llawer o agweddau ar hanes y Gymdeithas.

Defnyddir trawsysgrifiadau o wersi real y buwyd yn arsylwi ynddynt ac yn eu ffilmio.

Gwelir hyn yn fwyaf arbennig mewn ysbytai lle y defnyddir pelydriad mewn gwaith diagnostig a therapiwtig.

Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Defnyddir yr ymadrodd "addysg ddwyieithog" yn yr adroddiad hwn i olygu addysg a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Yn wir defnyddir y planhigyn yn helaeth yno Yn yr haf mae modd defnyddio'r dail gwyrdd mewn salad neu wedi eu coginio Ac yn y gaeaf ar ôl tyfu'r chicons gellir coginio'r gwraidd fel y gwneir yn gyffredinol yn Ffrainc.

b) Defnyddir hefyd y syniad am ryddhad y caethwas unigol.

Defnyddir grisial o'r fath gan beirianwyr electroneg mewn llu o gylchedau fel rhybudd lladrad, trap radar i reoli cylfymder, neu i arwain llongau olew i borthladd.

Defnyddir bron yr holl orlifdir gan ffermwyr lleol, yn bennaf yn dir pori ar gyfer eu defaid a'u gwartheg.

Yn wir, ymddengys y defnyddir mwyfwy o bapur yn sgîl dyfodiad Technoleg Wybodaeth, a hynny'n aml yn bapur ffres.

Cysodir rhai yn broffesiynol, defnyddir prosesyddion geiriau gan eraill tra gwelir rhai yn dal i ddefnyddio amrywiol deipiaduron.

Y mae'n wir y defnyddir y ddau air weithiau fel cyfystyron (e.e.

Ac er y trawsnewid hwn ar yr ystyr, mai Duw ac nid y troseddwr sy'n aberthu, eto defnyddir yr hen dermau, offrwm, dyhuddiad, iawn, cymod, yn ogystal â thermau mwy penodol megis "dydd y cymod" neu'r "Pasg", a'r rhain oll â rhyw gyfoeth o ystyr ynddynt i bob Israeliad.

Yn y dosbarthiadau mwyaf effeithiol defnyddir y cymhwysedd hwn yn sail i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu%.

Ystyr þàçàþþàþþ yn llythrennol yw "rhoddi i lawr yr arwahanrwydd", ac fe'i cyfieithiwyd weithiau gynt fel "iawn" (gwelir hyn yn yr hen gyfieithiadau Saesneg lle defnyddir y gair "atonement").

Ge'i defnyddir fel arfer i ddangos cyfrannau sy'n gwneud cyfanswm.

Hefyd fe'u defnyddir gan yr awdur i ddangos sut y mae'r cymeriadau'n trefnu eu profiadau eu hunain trwyddynt.

Mae tun yn fetel arall nad yw'n rhydu, ac fe'i defnyddir yn y diwydiant tunio.

Defnyddir yr algorithm genetig i esblygu y 'DNA' 'teithio' byrraf, ac felly ateb ein problem!

Os defnyddir blodau blynyddol, gellir defnyddio'r ardd ar gyfer dosbarth newydd bob blwyddyn.

Symbolau eraill cyfoethog yn y ffilm yw'r modd awgrymus y defnyddir arwyddion ffyrdd.

Os defnyddir potel dwr poeth i dwymo'r gwely fe ddylid rhoi'r gorau i'r blanced drydan, oblegid gall y ddau gyda'i gilydd fod yn beryglus (a chysgu arnynt yn berygl ychwanegol).

Caiff y Cynhyrchydd wneud Rhaglen Gyfansawdd o Raglen neu Raglenni a ddarlledwyd eisoes a phe defnyddir pwt o berfformiad yr Artist mewn Rhaglen Gyfansawdd o'r fath bydd gan yr Artist hawl i daliad ychwanegol nid llai na'r isafswm tal (gweler Atodlen A) a negydiad rhwng y Cynhyrchydd a'r Artist fydd yn cymryd i ystyriaeth hyd y Rhaglen Gyfansawdd a nifer a hyd y pytiau.

Defnyddir lliwiau a dulliau'r impresionistiaid i gyfleu gofod ac ansawdd.

Mae'r goeden yn symbol o'r Atgyfodiad ac fe i defnyddir i addurno eglwysi adeg y Pasg.

Y mae cartrefi pobl, y gwaith a wnânt, y ffordd y defnyddir y tir, a'r gwasanaethau sydd a gael yn gallu amrywio mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Nid oes i'r ddrama raniadau yn ôl Act a Golygfa ond defnyddir cyfnewidiadau goleuo i alluogi i'r ddau grŵp o gymeriadau newid lle ar y llwyfan.

Ond gofynnodd Mick Bates, Rhyddfrydwr, Maldwyn, pa gynlluniau sydd i sicrhau y defnyddir deunydd adeiladu o Gymru yn adeilad newydd y Cynulliad.

Defnyddir laserau tiwnadwy hefyd i chwalu cerrig yn yr arennau.

Heddiw, wrth gwrs, defnyddir y trydan hwylus i oleuo a thwymo'r adeiladau.

Defnyddir fflachlamp i godi egni'r atomau cromiwm i lefelau uchel.

Yn hytrach na chrisial, defnyddir fel rheol ddeunydd ar ffurf gwydr yn sail i'r laser ffibr.

Er hynny, defnyddir y tri gan gemegwyr wrth wneud gwrteithiau a phlastigau.

Defnyddir y lle gan fasnachwyr a fyddai'n mynd a'u nwyddau yn y ceirt o gwmpas y strydoedd i'w gwerthu.

Defnyddir y cyllidebau hyn mewn proses a elwir yn rheolaeth gyllidebol, h.y.

Yna, defnyddir drychau i adlewyrchu'r goleuni yn ôl ac ymlaen drwy'r crisial i'w atgyfnerthu ymhellach.

DEFNYDDIR y gymhariaeth hon yn aml am y bernir bod dyn, fel y llysieuyn, yn un â'i fro a'i deulu a'i dylwyth.

Achos sylfaenol Cymdeithas yr Iaith yw bod iaith yn ffenomenon cymdeithasol yn ei hanfod, ac nad yw iaith wir yn fyw onis defnyddir yn naturiol fel cyfrwng cyfathrebu mewn cymunedau lleol.

Defnyddir graffeg a fydd yn gyfrwng i'r disgyblion ryngweithio ac ailadrodd ar orchymyn y tywyswyr'. Y tywyswyr' fydd yn llywio'r rhaglenni trwy leisio'r patrymau iaith a'r eirfa yn y Gymraeg.

Pam yr ydych yn meddwl y defnyddir cyn lleied o'r gwastadedd ar gyfer tyfu cnydau?

* Gall gwybodaeth ysgrifenedig achosi rhwystr os defnyddir iaith gymhleth neu jargon.

Ochr yn ochr defnyddir yr un Amser i sôn am Dduw.

Defnyddir Saesneg yn y rhaglenni , yn ôl yr angen, i egluro a chadarnhau pwyntiau.

Ac yn yr Unol Daleithiau defnyddir betys mewn pob math o gyfuniadau: betys efo oren, betys efo afal, betys ar dôst efo pennog ac wyau wedi eu berwi'n galed; betys mewn iogurt efo cennin syfi, sinamon a nytmeg - i enwi dim ond rhai.

(a) Bod yr Is-bwyllgor Iaith i ystyried pa enwau i'w defnyddio lle defnyddir enwau Saesneg yn unig neu lle mae amheuaeth ynglŷn â'r enw Cymraeg i'w ddefnyddio a bod y Prif Swyddog Technegol ar ôl hynny i ymgynghori â'r cynghorau cymuned/tref perthnasol a'r aelod/au lleol.

Os defnyddir pum hecsagon ar hugain rhywbeth yn debyg i siâp pêl rygbi a geir.

Fe ellir cyfrif yr argost fel canran o gost defnyddiau, neu o gost llafur, neu o'r ddau gyda'i gilydd; ffordd arall ydyw seilio'r argost ar faint o amser y defnyddir peiriannau ar y gwahanol dasgau.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff a'r prif Swyddog priodol, i ymestyn y cyfnod hanner cyflog hyd gyfarfod dilynol yr Is-bwyllgor Staff mewn achosion priodol, gan adrodd i gyfarfod dilynol yr Is- bwyllgor Staff ar unrhyw sefyllfa lle y defnyddir yr hawl hwn.

Y dyddiau hyn, defnyddir plastig yn aml yn lle metalau, gan nad yw ocsigen a dwr yn ymosod ar blastig.

Fe'i defnyddir at ddibenion amrywiol iawn.

Yn yr Almaen a Gwlad Pwyl heddiw defnyddir gwraidd betys a'r sudd ymron yn ddyddiol i hybu gallu'r corff i wrthsefyll afiechyd.