Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

defodau

defodau

Bu meini yn bwysig mewn defodau addoli er yn gynnar iawn.

Wedi hynny bu raid iddi gydymffurfio â defodau Rhufain.

Ac yr oeddent yn ffieiddio'r defodau a'r gwisgoedd a'r addurniadau eglwysig anysgrythurol a gyfrifent yn olion Pabyddiaeth.

Yn y rhybudd enwir Iolo Morganwg, ac fe'i disgrifir fel yr unig un a oedd eisoes yn 'Fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain', sef, fel yr eglurodd yn ddiweddarach, un a wyddai 'Gyfrinach a Breiniau a Defodau Beirdd Ynys Prydain'.

'Roedd i daenu gwaed ran bwysig yn y defodau a rwymodd y bobl wrth y cyfamod (Ex.

Yr oedd, ac y mae, i wahanol dymhorau'r flwyddyn eu coelion a'u defodau arbennig.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Ystyr hyn i gyd oedd ei fod yn brotestant pur radical ac yn gogwyddo, y mae'n amlwg, at farn diwygwyr y Swistir, Zwingli a Chalfin, mewn materion ynglyn â gwisgoedd eglwysig a defodau.

Cynhelid gorseddau gan ddilyn y defodau a arferid gan Iolo Morganwg yn ei orseddau cynnar ac, yn unol â'i gyfarwyddyd, yn enw Cadair neu Dalaith arbennig gan amlaf, ac o leiaf dri pherson lleol a oedd eisoes wedi'u hurddo'n Feirdd yn llywyddu'r gweithgareddau.

Serch hynny, er i'r Diwygiadau Crefyddol fod yn un cyfrwng i waredu llawer o hen chwaraeon, defodau ac arferion Cymreig, ni pheidiodd y traddodiad o adrodd chwedlau a stori%au.

Roeddem ar drothwy tymor y glaw, pan fydd llwythau'r wlad yn cynnal defodau i ddenu'r cawodydd a fydd yn rhoi cynhaeaf da.