Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deheudir

deheudir

Peth arall yw, wrth reswm, fod safonbyw deheudir yr Eidal yn arswydus o isel, ac wedi bod felly erioed.

Yr wyf newydd ddychwelyd o'r deheudir.

Yr oedd y streic wedi ymledu dros ryw draean o holl faes glofaol Deheudir Cymru, ac yr oedd teuluoedd y streicwyr yn mynd i ddyled er mwyn cael angenrheidiau bywyd, a'u hiechyd yn dioddef yn arw o ganlyniad i ddiffyg ymborth.

Er mwyn iechyd moesol Cymru ac er lles moesol a chorfforol ei phoblogaeth, rhaid yw dad-ddiwydiannu Deheudir Cymru.

Yr oedd i lwyddiant diwydiannol yr Wyddgrug, fel i lwyddiant diwydiannol rhai o drefydd Deheudir Cymru, ei broblemau, a daeth tonnau'r llanw Seisnig cyntaf i effeithio ar y werin Gymreig dros Glawdd Offa, er bod hwnnw wedi ei godi ganrifoedd lawer ynghynt.

Danfonwyd milwyr i gymoedd glofaol Deheudir Cymru i gadw trefn a chreu ofn - penderfyniad gormesol a gysylltir yn arbennig a Winston Churchill.

Heb gymoedd glo a gweithiau'r Deheudir troesai'r dylifiad pobl o Gymru wledig yn dranc i'r Gymraeg megis y bu'r newyn yn Iwerddon yn dranc i'r Wyddeleg.

Sefydlwyd Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn y flwyddyn 1802 yn bennaf oll gan Iolo Morganwg.